Mae Dr Sera Moore Williams wedi bod yn creu theatr fel perfformwraig a dramodydd/gyfarwyddwraig ers oddeutu 40 mlynedd. Bellach mae hi'n Uwch Ddarlithydd Theatr a Drama ym Mhrifysg...view moreMae Dr Sera Moore Williams wedi bod yn creu theatr fel perfformwraig a dramodydd/gyfarwyddwraig ers oddeutu 40 mlynedd. Bellach mae hi'n Uwch Ddarlithydd Theatr a Drama ym Mhrifysgol De Cymru. Mae wedi ysgrifennu ar gyfer y theatr a'r teledu ac mae 25 o’i dramâu wedi eu cynhyrchu a‘u teithio'n broffesiynol. Mae nifer helaeth hefyd wedi eu cyfieithu i'r Saesneg a rhai i Almaeneg a Hwngareg. Yng Nghymru bu dwy o’r dramâu ar gwricwlwm cenedlaethol TGAU Drama yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mae un ohonynt ar gwricwlwm cenedlaethol lefel A Cymraeg ail-iaith ar hyn o bryd. Cyrhaeddodd Crash restr fer y Brian Way Award (sy'n dathlu'r ysgrifennu gorau i gynulleidfa ifanc ym Mhrydain). Mae Sera hefyd wedi cynhyrchu tua 35 o gynyrchiadau proffesiynol gan gynnwys gwaith i Brith Gof, Theatr Clwyd, Theatr Gwent, Y Gymraes, Arad Goch, Theatr Iolo, Mess up the Mess a'r Sherman. Cafodd ei chynhyrchiad o Mab i Y Gymraes ei wobrwyo fel cynhyrchiad gorau 2001 gan Gwobrau Theatr Cymru. Gellir darllen mwy am waith Sera ar http://staff.southwales.ac.uk/users/1424-smwillia/view less