Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Ergyd drwy Amser
Ergyd drwy Amser
Ergyd drwy Amser
Ebook124 pages1 hour

Ergyd drwy Amser

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

Grandad's words ring in Alun's ears every time he does something wrong or doesn't do it the way Grandad used to do it. But then, suddenly, Alun is transported bach through time to the year 1960, when Grandad was his age. This is his chance to see how Grandad lived.
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateNov 14, 2017
ISBN9781784610197
Ergyd drwy Amser

Related to Ergyd drwy Amser

Related ebooks

Related categories

Reviews for Ergyd drwy Amser

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Ergyd drwy Amser - Elgan Philip Davies

    Ergyd%20Drwy%20Amser%20-%20Elgan%20Philip%20Davies%20-%20Onnen.jpglogo%20onnen%20OK.pdf

    Golygyddion Cyfres yr Onnen:

    Alun Jones, Meinir Edwards a Meleri Wyn James

    Argraffiad cyntaf: 2012

    © Hawlfraint Elgan Philip Davies a’r Lolfa Cyf., 2012

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon i lungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw

    Comisiynwyd y gyfrol hon gyda chymorth ariannol Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

    Darlun y clawr: Teresa Jenellen

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978 1 84771 458 9

    E-ISBN: 978-1-78461-019-7

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd yng Nghymru

    gan Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    gwefan www.ylolfa.com

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    ffacs 832 782

    Pennod 1

    Tynnodd Ezio Auditore da Firenze ei gyllell allan o fol blonegog Juan Borgia a dal ei gorff yn ei freichiau wrth iddo lithro’n araf i’r llawr, ei lygaid pwl yn syllu’n ddi-weld ar ei lofrudd. Pwysodd Ezio drosto a gwrando ar eiriau olaf ceidwad trysorlys Cesare Borgia.

    Fflachiodd sgrin y cyfrifiadur a newidiodd yr olygfa wrth i Ezio ymladd ei ffordd drwy’r adfeilion ac allan i ganol strydoedd Rhufain a’i baratoi ei hun ar gyfer ei ymgyrch nesaf.

    ‘Ie!’ gwaeddodd Alun wrth i adeiladau’r ddinas ymddangos o’i amgylch. ‘Dyna ddiwedd ar un arall o deulu Cesare Borgia a dwi gam arall yn agosach at Afal Eden.’

    Tynnodd yr iPod o’i glustiau a chydio yn ei iPhone. Daliodd y ffôn o flaen y cyfrifiadur a thynnu llun y sgrin. Yna fe deipiodd y neges Juan yn farw a’i hanfon at Marc, ei ffrind gorau, i frolio’i lwyddiant.

    ‘Bydd e’n gutted,’ meddai wrtho’i hun. ‘Fel twrci ar noswyl Nadolig.’

    Pwysodd yn ôl yn ei gadair wrth i ran nesaf Assassin’s Creed lwytho.

    Edrychodd yn ddiamynedd o gwmpas ei ystafell wely. Doedd dim llawer i’w weld; roedd ei ystafell mor dywyll â’r gofod ar y sgrin o’i flaen gan ei fod wedi cau’r llenni i atal yr haul cryf rhag disgleirio ar ei gyfrifiadur.

    Trodd yn ôl at y cyfrifiadur a gweld ei gymeriad yn rhedeg yn benderfynol ar draws toeau tai Rhufain yn y bymthegfed ganrif.

    ‘Reit,’ meddai, ‘nawr amdanat ti; Cesare Borgia, mae dy amser di wedi dod…’

    ‘Alun!’

    ‘…a fi sy’n mynd i…’

    ‘ALUN!’

    Ceisiodd ei orau i anwybyddu’r llais a chanolbwyntio ar y sgrin. Petai e’n dal i wrando ar ei iPod fyddai e ddim yn clywed y llais o gwbl.

    ‘ALUN! Ti’n ’y nghlywed i?’

    ‘Beth yw’r iws,’ mwmialodd Alun dan ei anadl. ‘Does dim llonydd i’w gael yn y lle…’

    ‘ALUN! Ateb os wyt ti’n ’y nghlywed i!’

    ‘IAWN, DWI’N DOD!’

    Taflodd y pad rheoli i lawr ar y bwrdd a chodi o’r gadair mewn strop.

    Agorodd ddrws ei ystafell wely a cherdded i ben y grisiau. Syllodd yn heriol ar ei dad-cu a oedd yn sefyll ar y gwaelod.

    Alun oedd enw’i dad-cu hefyd. Alun Huw Williams oedd enw llawn ei dad-cu ac Alun Huw Morgan oedd ei enw llawn ef. Ei fam oedd unig blentyn ei dad-cu a’i fam-gu, ond doedd Alun ddim wedi gweld ei fam-gu erioed; roedd hi wedi marw cyn iddo ef gael ei eni.

    Ar un adeg ei dad-cu oedd yn byw yn y tŷ hwn ac roedd Alun a’i rieni’n byw ar y stad newydd ar ochr arall y dref. Yna pan oedd Alun yn bum mlwydd oed, symudodd ei dad-cu i fyw mewn fflat a daeth ef a’i rieni i fyw yn y tŷ. Ond roedd ei dad-cu yn dal i alw yno bron bob dydd, yn enwedig yn y gwanwyn a’r haf pan oedd hi’n dymor garddio.

    ‘Be ti moyn?’ galwodd Alun arno.

    ‘Ro’n i’n meddwl dy fod ti’n cysgu,’ meddai Tad-cu gan syllu i fyny arno.

    ‘Nago’n,’ meddai Alun, mewn llais blinedig, anfodlon a diamynedd.

    ‘Dwi eisie dy help di.’

    ‘Nawr?’

    ‘Dim ond am funud.’

    ‘Ond dwi ynghanol gêm ar y cyfrifiadur.’

    ‘Ti wastad ar y cyfrifiadur ’na. Neith pum munud mas yn yr awyr iach ddim drwg i ti.’

    ‘Munud wedest ti gynne, ond mae’n bum munud nawr. Bydd hi’n awr cyn i fi ddod ’nôl ’ma.’

    ‘Dere mlân. Gynta i gyd dei di, gynta i gyd ei di ’nôl at dy gyfrifiadur.’

    ‘Ond…’ dechreuodd Alun brotestio, ond roedd ei dad-cu wedi mynd. ‘O!’ ebychodd a disgyn y grisiau, gan daro sodlau ei dreinyrs yn fwriadol galed ar bob gris.

    Roedd ei dad-cu yn aros amdano y tu allan i’r drws cefn. Sylwodd Alun fod ei wyneb yn goch, ei dalcen yn sgleinio gan chwys a’i ddwylo’n frown gan bridd. Roedd yna adeg pan oedd Alun wrth ei fodd yn ei helpu i blannu, hau a chwynnu’r ardd, ond roedd yr amser hwnnw wedi hen basio a doedd Alun ddim yn hiraethu amdano o gwbl.

    Oedodd y tu mewn i’r drws, ei amheuon yn tyfu. ‘Ti ddim eisie i fi neud rhywbeth yn yr ardd, wyt ti?’

    Siglodd Tad-cu ei ben. ‘Nadw.’

    ‘Beth ’te?’

    ‘Gei di weld.’

    Suddodd calon Alun. Roedd e’n hen gyfarwydd â ‘gei-di-weld’ ei dad-cu. Y tro diwethaf iddo ddweud hynny oedd ychydig wythnosau ynghynt, jyst cyn pen-blwydd Alun yn un ar ddeg, mewn ateb i gwestiwn am yr anrheg roedd e wedi’i phrynu iddo. Roedd Alun wedi sôn digon wrtho am gêm newydd i’r XBOX 360, ond y cyfan a ddywedai ei dad-cu wrtho oedd ‘Gei-di-weld’.

    A beth welodd e ar ddiwrnod ei ben-blwydd? Llyfr! Llyfr! Rhyw nofel am fôr-ladron roedd ei dad-cu wedi mwynhau ei darllen pan oedd e’n un ar ddeg oed ac yn meddwl y byddai Alun hefyd yn ei mwynhau.

    Hy! Dyna ddangos faint roedd ei dad-cu’n ei wybod. Ar wahân i’w henwau, doedd dim byd yn debyg rhyngddyn nhw.

    Camodd Alun allan i’r ardd gefn, yr haul cryf yn ei ddallu.

    ‘Mae’n rhy boeth fan hyn,’ cwynodd.

    ‘Poeth!’ meddai Tad-cu, gan gerdded o’i flaen i fyny’r llwybr. ‘Pan o’n i dy oedran di roedd yr hafau’n llawer poethach na hyn ac yn para am wythnosau heb ddim newid. Mae pawb yn sôn bod y byd yn cynhesu, ond oeri mae e os wyt ti’n gofyn i fi.’

    Dilynodd Alun ef, gan ystumio’i dad-cu’n dweud, ‘Pan o’n i dy oedran di’ y tu ôl i’w gefn.

    Cerddodd y ddau ar hyd y llwybr, heibio i’r lawnt fechan a’r sied, i ran o’r ardd roedd pawb yn ei galw’n berllan, er mai dim ond wyth coeden afalau oedd yno i gyd. Ond roedd pob un wedi cael ei phlannu gan hen dad-cu Alun, os nad ei hen hen dad-cu, ac roedd ei dad-cu ef yn cymryd gofal mawr ohonyn nhw er bod eu boncyffion yn hen a chrebachlyd erbyn hyn.

    ‘Dyma ni,’ meddai Tad-cu, gan aros. ‘Lan fan’na.’ Ac fe bwyntiodd i fyny i ganghennau uchaf un y coed.

    Edrychodd Alun i fyny ar ymbarél gwyrdd y canghennau a’r afalau bychain gwyrdd a oedd heb dyfu’n llawn eto.

    ‘Be sy ’na?’ gofynnodd.

    ‘Fy het. Ar y gangen ’co, ar y dde. Ti’n ’i gweld hi?’

    Symudodd Alun gam i’r dde a rhythu drwy’r canghennau a’r dail nes o’r diwedd gallai weld yr hen het Panama.

    ‘Chwythodd y gwynt hi lan ’na a dwi am i ti ei nôl hi i fi.’

    ‘Gwynt?’ meddai Alun, gan ddal ei ddwylo ar led ac edrych o’i amgylch. ‘Pa wynt?’

    ‘Ar ddiwrnod poeth fel heddi mae awel gynnes yn gallu troi’n wynt cryf yn sydyn iawn. Byddet ti’n gwybod hynny petait ti’n treulio mwy o amser mas yn yr awyr agored.’

    ‘A ti eisie i fi ddringo lan i’w nôl hi?’

    ‘Odw. Ond bydd rhaid i ti fod yn ofalus; dwi ddim am i ti neud niwed i’r goeden na rhyddhau gormod o’r afalau.’

    ‘Sa i’n mynd lan honna,’ meddai Alun, gan edrych i fyny’r goeden. ‘Mae’n rhy beryglus.’

    ‘Peryglus? Pan o’n i dy oedran di ro’n i’n dringo’r goeden hon dair gwaith y dydd ar ôl ysgol, a dwywaith ar ben hynny ar ddydd Sadwrn. Ro’n i fel mwnci, lan mewn chwinciad.’

    ‘Hy!’ meddai Alun, yn amau mai un arall o’i straeon oedd y cyfan.

    ‘Be sy’n bod arnat ti?’ meddai Tad-cu. ‘Ti’n treulio dy holl amser yn chware rhyw gêmau antur ar dy gyfrifiadur ond yr eiliad ti’n cael cyfle i neud rhywbeth anturus dy hun, ti’n ymddwyn fel hen fabi.’

    Rhythodd Alun arno. Roedd y geiriau’n ei frifo. Doedd dim ofn y goeden arno, er gwaethaf yr holl rybuddion iechyd a diogelwch roedd e’n cael eu dysgu yn yr ysgol. Doedd e jyst ddim yn gyfarwydd â dringo, dyna i gyd. Roedd e wedi gwneud asesiad risg o’r sefyllfa ac wedi dod i’r casgliad bod dringo’r goeden heb harnais a phlatfform a oedd yn sefyll yn gadarn ar y ddaear yn llawer rhy beryglus. Dim byd mwy na hynny. Yn bendant ddim ofn!

    ‘O, wel,’ meddai Tad-cu, gan afael yn un o ganghennau’r goeden a cheisio codi ei droed i fôn cangen arall. ‘Os wyt ti’n ormod o hen fabi, bydd rhaid i hen ŵr fel fi…’

    ‘Nadw!’ gwaeddodd Alun. ‘Dwi ddim yn hen fabi! Gei di weld!’

    Gwthiodd heibio i’w dad-cu a dechrau ei dynnu ei hun i fyny i ben y gangen gyntaf. Safodd arni am rai eiliadau gan edrych am un arall i gydio ynddi.

    ‘Mae ’na un uwch dy ben,’ meddai Tad-cu a gwên ddireidus ar ei wyneb. ‘Fan’co ar y dde i ti.’

    Trodd Alun ei ben a chrafodd brigyn ar draws ei foch.

    ‘Bydd

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1