Cyfres yr Onnen: Y Cwestiwn Mawr
()
About this ebook
Related to Cyfres yr Onnen
Related ebooks
Dal i Fynd Rating: 4 out of 5 stars4/5Chwant Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsGwynt Braf, Y Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsHeb Law Mam Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyfres Amdani: Tri Chynnig i Blodwen Jones Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsMori Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsPwnc Llosg Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsO'r Da i'r Direidus Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsLlyfr Glas Nebo - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2018 Rating: 4 out of 5 stars4/5Cyfres yr Onnen: Trwy'r Tonnau Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsNa, Nel! yn Achub y Byd! Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsDarn Bach o Bapur Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsNa, Nel! Ha, Ha! Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsHwrê, Mae Hi'n Wyliau! Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsGlaw Trana Rating: 5 out of 5 stars5/5Gadael Lennon Rating: 5 out of 5 stars5/5Cyfrinach Craig yr Wylan Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyfres Copa: Al Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsIesu Tirion Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsStori Sydyn: Hunllef Rating: 4 out of 5 stars4/5Hi oedd fy Ffrind Rating: 4 out of 5 stars4/5Y Gwrachod Rating: 4 out of 5 stars4/5Deffro i Fore Gwahanol - Hunangofiant Glyn Tom Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsStori Sydyn: Inc Rating: 4 out of 5 stars4/5Plygain Olaf, Y Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsY Ferch Fach yn y Gwresogydd Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyfres Amdani: Blodwen Jones A’r Aderyn Prin Rating: 4 out of 5 stars4/5Llinyn Trons Rating: 5 out of 5 stars5/5Mab y Mynydd Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyfres Mellt: Rhaffu Celwyddau Rating: 0 out of 5 stars0 ratings
Related categories
Reviews for Cyfres yr Onnen
0 ratings0 reviews
Book preview
Cyfres yr Onnen - Meinir Pierce Jones
Golygyddion Cyfres yr Onnen:
Alun Jones a Meinir Edwards
I Efa a Casia am agor y drws i mi ar y
stori roeddwn am ei rhoi ar bapur, ac i Sabel.
Diolch yn fawr i Alun Jones a Meinir Edwards yn y Lolfa am bob cefnogaeth ac anogaeth ac i Elgan Griffiths am y clawr.
Argraffiad cyntaf: 2010
™ Hawlfraint Meinir Pierce Jones a’r Lolfa Cyf., 2010
Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon i lungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw
Comisiynwyd y gyfrol hon gyda chymorth ariannol Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Cynllun y clawr: Elgan Griffiths, GraffEG
Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978 1 84771 213 4
E-ISBN: 978-1-78461-023-4
Cyhoeddwyd ac argraffwyd yng Nghymru
gan Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE
gwefan www.ylolfa.com
e-bost ylolfa@ylolfa.com
ffôn 01970 832 304
ffacs 832 782
Pennod 1
‘Pam wyt ti’n gneud hyn i mi?’
Ddaeth yna ddim ateb. Roedd Dan yn gwybod mai’r rheswm am hynny oedd nad oedd dim ateb. Dim ateb iawn, beth bynnag. Dim ateb teg.
‘Wel? Pam bod chdi’n cael mynd i Beriw a fi’n mynd i Sir Fôn?’
Trodd ei fam i edrych arno am ddwy eiliad ac wedyn ’nôl ar y ffordd. Roedd honno’n gul a throellog a doedd fiw gadael i’w llygaid grwydro. Gallai tractor neu lori ddod yn syth amdanyn nhw, a byddai’r Peugeot 206 bach yn seitan. Fel’na roedd ffyrdd bach cefn gwlad. Seriodd ei llygaid ar y tarmac.
Ond fo roedd hi’n dal i’w weld yn ei phen. Dan, ei mab, yn ei grys rygbi Cymru a’i hen Levis yn dal i daclo a thaclo wrth ei hochr er ei fod o wedi colli’r dydd.
‘Mae’r trip wedi’i drefnu ers misoedd. Dwi wedi bod yn treinio’n galed… a dwi wastad wedi bod eisio mynd i’r Andes…’
‘A beth amdana i?’
‘Mi gei di a fi fynd ar wylia efo’n gilydd yn yr ha, cariad…’
‘Rhyw cheapo bach, mae’n siŷr. Pabell yn Aberdaron… eto.’
‘Yr unig beth sy wedi newid ydi nad wyt ti’n gallu mynd i aros efo Seth,’ rhesymodd ei fam. ‘Mae hynny’n biti…’
‘Mae hynny’n shit.’
‘Ond mae petha’n digwydd. C’est la vie.’
‘Fi as in chdi, ’de Mam.’
‘Ond Dan, fel unig riant, a siarad efo chdi fel oedolyn…’
‘Ond dwi ddim yn oedolyn.’
‘Dwi angen brêc weithiau – cyfle i ail-tjarjio’r batris.’
‘Mae Kwikfit yn gneud hynna. ’S dim angen mynd i Beriw.’
Ond daliodd Gwenno ati. Roedd yn rhaid iddi ddal i drio achos ymhen llai na diwrnod byddai hi ym maes awyr Gatwick yn byrddio’r awyren Air France i Lima. A chyn hynny roedd angen i Dan ei hunig fab faddau iddi. Achos roedd hanner ffordd ar draws y byd yn llawer rhy bell i fynd heb eu bod nhw ill dau’n ffrindiau’n ôl. Wedi’r cyfan, roeddan nhw’n deulu rhy fach i ffraeo – dim ond hi a fo.
‘Ond pam ’mod i’n gorfod mynd at Roli? ‘
‘Yncl Roli i ti. Neu Rolant.’
‘Roli, y lonar tew, dy frawd trist di.’
‘Mi fydd yn newid i ti. A chyfla i chi ddod i nabod eich gilydd.’
‘Ond ti ddim eisio’i nabod o. ’Dach chi byth bron yn ffonio. Ti byth yn ei wadd o acw.’
‘Prysurdeb ydi’r rheswm am hynny. Ac mae o’n byw bywyd gwahanol i ni.’
Cododd Dan ei aeliau’n feirniadol.
‘Mae o’n byw mewn twll, ac mae o’n gwylio’r teli drwy’r dydd. Ei syniad o o frecwast iach ydi cig moch, sosej, wy a bîns efo brechdan frown.’
‘Dyna ddigon. Mae’i galon o’n iawn.’
‘Fydd hi ddim am hir os bydd o’n dal i fyta fel’na.’
Ceisiodd Gwenno guddio gwên. Synnai hi ddim na fyddai’r hogyn ’ma’n gwneud ei ffortiwn efo’r tafod miniog ’na ryw ddiwrnod. Ond heddiw byddai wedi rhoi taw arno ers meitin, heblaw ei bod hi’n teimlo’n euog. Euog am fynd i ffwrdd a’i adael o. Eto.
Ond roedd yn rhaid iddi gael mynd. Hipi oedd hi wedi bod drwy’i hugeiniau, yn byw mewn tipi am sbel ac wedyn yn crwydro cyfandiroedd Ewrop ac Asia. Cael cyfarfod pob math o bobl ddifyr, a gweld pob math o ryfeddodau. Pan gafodd Dan ei eni, roedd hi wedi gorfod rhoi’r gorau i hynny i gyd, setlo i lawr, byw mewn tŷ, cael gwaith. Roedd hi am fagu ei mab yn iawn a rhoi cychwyn da iddo mewn bywyd.
Ond roedd yr ysfa yna i deithio yn dal yn fyw iawn tu mewn iddi. Ac roedd tripiau gwaith rhad a llawn antur yn aml yn ffordd dda i fodloni’r hen gosi yna yn ei thraed.
Roedd hi’n gwybod mai siomiant oedd yn gwneud Dan mor bigog heddiw. Cafodd ei gynlluniau gwyliau beicio efo’i ffrind gorau Seth eu chwalu pan newidiwyd y trefniadau ar y munud olaf. Tad Seth oedd yn cael y bai am hynny. Ac roedd tad Seth, chwarae teg iddo fo, yn fodlon cymryd y bai. Ond doedd o ddim ar fai. A dweud y gwir doedd y newid yn y cynlluniau’n ddim byd i’w wneud efo teulu Seth.
Rhywbeth a ddigwyddodd i ffrind Gwenno, Llŷr, oedd wedi newid popeth. Roedd Llŷr yn byw wrth eu hymyl ac roedd o a Gwenno yn ffrindiau coleg. Roedd y ddau’n mwynhau gwylio ffilmiau, chwarae gwyddbwyll a gwrando ar jas. Un ferch oedd ganddo – Megan, a fyddai’n dod i aros ato ar benwythnosau. Cês a hanner, mad am rygbi a chasáu siopa. Roedd Dan a hithau’n dod ymlaen yn dda. Weithiau byddai’r pedwar ohonyn nhw’n mynd i wylio gêm neu am bitsa.
Actiwari oedd Llŷr. Gweithiai i gwmni yswiriant yn cyfrifo ystadegau iddyn nhw. Roedd hynny’n waith manwl, llawn straen. Bu’n gyfnod prysur ac roedd o wedi bod yn gweithio’n wirion o galed, yn dod i mewn i’r gwaith yn gynnar ac yn aros yn hwyr. Ac yna un diwrnod, tua thri mis yn ôl, roedd Llŷr wedi mynd yn sâl yn y gwaith. Cafodd boenau difrifol yn ei fraich a’i frest a cholapsio. Daeth yr ambiwlans efo’r golau glas yn fflachio a’i gludo i’r ysbyty. Yno y dywedon nhw ei fod o wedi cael trawiad ar y galon. Cael a chael oedd hi i achub ei fywyd.
Dechreuodd Gwenno boeni ar ôl hynny beth petai rhywbeth yn digwydd iddi hi. Dim ond hi oedd gan Dan. Yr unig deulu arall oedd ganddo oedd Roli, ei ewythr i fyny yn y gogledd, a doedd o byth yn ei weld. Teimlai Gwenno y dylai Dan gael cyfle i ddod i nabod Roli a threulio amser efo fo. Fyddai o ddim mor ddi-gefn wedyn ac mor hollol ddibynnol arni hi.
Doedd Roli ddim yn ewythr perffaith, o bosib. Doedd o ddim yn chwarae rygbi, na ’run gêm arall heblaw dartiau. Ac roedd ganddo orffennol. Ond roedd o’n frawd iddi hi. A fo oedd unig berthynas Dan yn y byd heblaw amdani hi.
A’i dad. Doedd o ddim yn bod i bob pwrpas.
A dyna pam y cafodd y trefniadau eu newid. Doedd hi ddim wedi dweud hynny wrth Dan. Ond nawr roedd hi’n amau ei fod o’n amau.
Achos roedd Dan wedi bod efo hi i’r ysbyty. Roedd o wedi gweld ei fam yn poeni am Llŷr. Ond yn fwy na hynny, roedd o wedi gweld Megan yn llwyd ac yn llawn dagrau. Mor agos fu ei byd hi i chwalu. Roedd yr helynt wedi eu siglo nhw i gyd ac wedi dangos mor frau ydi bywyd. A beth sy’n cyfri go-iawn.
Parhaodd y distawrwydd pwdlyd wrth i’r daith fynd yn ei blaen o Gaerdydd i’r gogledd.
Ond yna, yn sydyn, yn y pellter, daeth cyfle am heddwch i’r golwg. Roedden nhw’n gyrru i mewn i bentref Llan a dyna ble’r oedd yr hen gaffi bach cyfarwydd lle bydden nhw’n arfer stopio i dorri’r siwrne syrffedus – Y Tebot Clên! Roedd wedi cael côt newydd o baent ac yn binc a gwyrdd llawen. Er mai dim ond gwyliau’r Pasg oedd hi, a’r tywydd yn dal yn oer, roedd bwrdd a chadeiriau wedi eu gosod tu allan. Dechreuodd Gwenno arafu.
‘Beth am siocled poeth a theisen?’
Cytunodd Dan yn syth. Byddai hynny’n newid bach neis o’r ffa a’r iogwrt arferol. Gallai deimlo ei dymer flin at ei fam yn dechrau toddi. Byddai rhywbeth melys yn siŷr o helpu’r broses honno.
‘Ond hwn ydi’r tro diwetha.’ Edrychodd ei fam yn ddiniwed arno, ond roedd hi’n deall yn iawn beth oedd o’n feddwl. ‘Y tro diwetha i ti fynd a ’ngadael i i fynd rownd y byd. Mecsico. Israel. Gana.’
‘Efo ’ngwaith ’te, Daniel. Masnach Deg. Chwilio am stoc newydd.’ Diffoddodd Gwenno injan y car ac estyn am ei bag oddi ar y sedd gefn.
‘Ia, ond, ydi Masnach Deg yn deg efo plant y bobl sy’n gweithio iddyn nhw… ? ’Swn i’n licio gofyn hynna i Gymorth Cristnogol. Wel i Iesu Grist ei hun, a deud y gwir.’
‘Ac un o’r petha pwysica mae Masnach Deg yn ei neud ydi gwella bywyd teuluoedd, felly sbia arni fel’na.’
‘Ac felly dwi’n cael fy ngyrru i ben draw Sir Fôn i drio gwella’r berthynas efo Roli. Y lonar tew.’
‘Llai o’r tew,’ meddai Mam. Ac wedyn, ‘Tewach gwaed na dŷr, cofia.’
Am unwaith meddyliodd Gwenno, roedd hi wedi cael y gair olaf.
Aeth y ddau i eistedd wrth y bwrdd tu allan. Caeodd Dan sip ei gôt. Roedd y gwynt yn oer a’r ferch yn hir yn dod allan atyn nhw. Siglai’r cadeiriau metel ar y cerrig mân a bu bron i un Dan droi. Rhoddodd ei fam ei braich allan i’w ddal, ‘Whoa!’
A dyna lle’r oeddan nhw wedyn, pen golau, cyrliog y fam a phen du bitsh Dan, yn plygu dros y fwydlen efo’i gilydd. Lawer gwaith yn ystod y dyddiau enbyd oedd i ddod, byddai Dan yn edrych yn ôl ar y darlun yna ohonyn nhw ill dau, ac yn cydio’n dynn ynddo. Cameo oedd y gair amdano fo. Llun bach, crwn. Diogel.
Ond wrth gwrs, doedd Dan ddim yn mynd i roi’r gorau iddi ar hynna bach. Roedd o’n daclwr wrth natur.
‘Jest newidia dy job ’ta. Anghofia am newid y byd a dos i weithio i Tesco neu rywbath.’
‘Weithia…’ meddai ei fam, ‘mewn bywyd…’
‘O ’ma ni eto,’ meddai Dan gan osod ffidil ddychmygol o dan ei ên a dechrau’i chwarae…
‘Ti’n gorfod bachu’r cyfle, Dan, mynd amdani. Carpe Diem, dyna maen nhw’n ei alw fo.’
‘A sod pawb arall.’
‘A gei di weld, pan ddo i’n ôl o’r trip ’ma, mi fydda i’n hollol gartrefol. Mi fydd gen i fwy o fynadd, mi fydda i’n well mam…’
‘Dwi ddim eisio chdi’n well.’ Ochneidiodd Dan. ‘Ti’n iawn fel rwyt ti. Dwi jest eisio chdi yna. Efo fi.’ Cofiodd am y Lladin. ‘Mater.’
Ar ôl i’r siocled poeth a’r cacennau gyrraedd, wrth weld Dan yn methu bwyta y gwelodd Gwenno mor ddall roedd hi wedi bod. Nid chwarae oedd hyn, nid cega er mwyn cega a bod yn glyfar oedd o. Roedd hyn yn mynd at galon. Ac roedd ei chalon hi wedi bod fel y dur.
‘Dwi’n gaddo meddwl o ddifri am y peth tra dwi i ffwrdd,’ addawodd wrtho o’r diwedd. ‘Symud i waith swyddfa. Am y blynyddoedd nesa, tra wyt ti’n tyfu i fyny. Os mai dyna wyt ti eisio, Dan.’
Atebodd o ddim, dim ond nodio ac edrych arni fel pe bai arno ofn ei chredu hi.
Pennod 2
Pan barciodd Gwenno o flaen y tŷ, efo’i gyrtan blêr a’i ardd wag, suddodd calon Dan. Roedd o’n waeth nag yr oedd o’n ei gofio, hyd yn oed. Ac am reswm da, meddyliodd. Mae’n siŷr fod y safonau wedi llithro’n arw ers i Nain farw.
Edrychodd ar y fan fawr wen rydlyd o flaen y giât. Roedd hi’n faw drosti, drych ochr y gyrrwr wedi torri a chlamp o dolc yn ei hochr. O’i gwmpas edrychai pob tŷ yr un mor siabi, a phob fan yr un mor hen a hyll â’r un wen. Pasiodd hen ŷr ar ei ffordd i siop Londis ar y gornel yn ei slipas, a chi coesau cam efo wisgars gwyn yn ei ddilyn. Stopiodd i danio smôc a rhoi rhech fawr swnllyd.
Trodd Dan at ei fam. ‘Neis,’ meddai. Ac wedyn trodd eto i gyfeiriad y tŷ lle’r oedd i fod i dreulio’r deg diwrnod nesaf. ‘A lleoliad neis.’
‘Dan.’ Roedd rhybudd yn llais ei fam.
‘Be ddeudish i? Ddeudish i ddim byd. Neis, medda fi.’
‘Mae’r rhan fwyaf o bobol y byd yma’n byw mewn tlodi mawr, ac…’
Daliodd Dan ei law i fyny o’i blaen.
‘Wedi clywed honna o’r