Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Cyfres y Melanai: Diffeithwch Du, Y
Cyfres y Melanai: Diffeithwch Du, Y
Cyfres y Melanai: Diffeithwch Du, Y
Ebook164 pages2 hours

Cyfres y Melanai: Diffeithwch Du, Y

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

A novel telling the story of Efa, princess of the Melanai, after she and her friends flee the Palace before she has to kill her mother, the queen, as decreed by tradition. On reaching The Dark Desolation which is full of dangers, they meet the giant Id, a number of animals and treacherous challenges. The second title in a trilogy.
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateDec 16, 2018
ISBN9781784616694
Cyfres y Melanai: Diffeithwch Du, Y

Read more from Bethan Gwanas

Related to Cyfres y Melanai

Related ebooks

Related categories

Reviews for Cyfres y Melanai

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Cyfres y Melanai - Bethan Gwanas

    cover.jpg

    I Leah, fy nith.

    Gyda diolch i Rhian Davies o Ysgol y Preseli, Osian Higham o Ysgol Bro Edern, Ceris James o Ysgol Bro Myrddin ac Esyllt Maelor am eu sylwadau gwerthfawr.

    Argraffiad cyntaf: 2018

    © Hawlfraint Bethan Gwanas a’r Lolfa Cyf., 2018

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon llungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw

    Cynllun y clawr: Tanwen Haf

    Llun yr awdur: Iolo Penri

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978-1-78461-669-4

    Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol

    Adran Addysg a Sgiliau (AdaS) Llywodraeth Cymru.

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd yng Nghymru ar bapur o goedwigoedd cynaliadwy gan

    Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    gwefan www.ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    ffacs 01970 832 782

    ‘Mae bywyd un ai’n antur fentrus neu’n ddim byd o gwbl.’

    Helen Keller

    ‘All dyn ddim darganfod moroedd newydd

    nes bod ganddo’r dewrder i golli golwg ar y tir.’

    André Gide

    ‘Nid pawb sy’n crwydro sydd ar goll.’

    J. R. R. Tolkien

    Y cymeriadau

    Efa

    Cyn-dywysoges Melania – 16 oed

    Cyfeillion Efa:

    Galena

    Cyn-gogydd yn y palas

    Cara

    Cyn-diwtor Efa

    Bilen

    Yn arfer gofalu am wallt, colur a dillad Efa

    Dalian

    Cyn-Brif Hyfforddwr Gwarchodwyr y palas

    Prad

    Cyn-filwr ac un o warchodwyr Efa

    Id, cawr

    Ceffylau:

    Gwiblen (Efa)

    Ffela (Cara)

    Brân (Dalian)

    Salna (Bilen)

    Mellten (Prad)

    Gwinau (Galena)

    1

    Syrthiodd Efa yn

    ei hôl ar y tywod du, ac eistedd yn swrth, ei meddwl ar chwâl.

    ‘Fy mai i ydy hyn i gyd,’ sibrydodd.

    Roedd Dalian, ei chyfaill gorau yn y byd i gyd, yn marw ar draeth y Diffeithwch Du. Syllodd yn hurt ar ei ffrindiau, Cara a Galena, yn ffysian dros ei gorff llonydd. Roedd Galena yn ceisio sugno’r gwenwyn o’r ddau dwll bychan coch ar ei grimog, yn sugno a phoeri, sugno a phoeri, a Cara yn fflapian ac wylo a griddfan rhywbeth am fod yn ofalus, y gallai gwenwyn y neidr sgarlad effeithio ar Galena hefyd.

    ‘’Dan ni ddim isio dy golli di hefyd, Galena! A dwi wir ddim yn meddwl bod sugno brathiad neidr yn gweithio beth bynnag!’

    Ond doedd Galena’n cymryd dim sylw ohoni, dim ond dal ati i sugno a phoeri.

    Neidr sgarlad, meddyliodd Efa. Mi gawson ni’n rhybuddio cyn dod yma, cyn gadael Melania. Daeth y geiriau’n ôl iddi fel gordd: ‘Mi neith y gwenwyn sydd yn nannedd honna eich parlysu o fewn eiliadau… mi fu’r farwolaeth yn un hir ac erchyll.’

    Trodd ei phen i edrych yn ôl ar y tonnau. Doedd dim golwg o arfordir Melania bellach am fod niwl trwchus wedi dod i guddio’r cyfan. Melania, y wlad lle cafodd ei geni a’i magu i fod yn frenhines arni, y wlad roedd hi wedi ei gadael am byth a hudo pump o’i ffrindiau i’w gadael hefyd.

    ‘Syniad hurt o’r cychwyn,’ sibrydodd wrthi hi ei hun. Dylai fod wedi ufuddhau i’r drefn, derbyn ei thynged a lladd ei mam. Petai hi wedi bod yn dywysoges fach dda a chall, mi fyddai hi wedi aros, mynd i’r seremoni a lladd ei mam o flaen pobl Melania, yn union fel roedd ei mam wedi lladd ei mam hithau, a’i nain ei mam hithau cyn hynny. Dyna oedd y drefn erioed. Ond roedd Efa wedi bod yn styfnig, wedi mynnu cicio’n erbyn y tresi ac wedi rhedeg i ffwrdd y diwrnod cyn ei phen-blwydd yn 16 oed.

    Ac oherwydd ei styfnigrwydd hi, roedd Dalian yn marw. Roedd criw o warchodwyr dewr wedi marw hefyd; roedden nhw a’u ceffylau rywle o dan y tonnau a’r niwl, wedi eu dal gan y llanw a’r creaduriaid erchyll oedd yn byw o dan y dŵr. Roedd eu sgrechiadau’n dal i ganu yn ei phen hi. Dim ond gwneud eu dyletswydd oedden nhw, ufuddhau i’r Frenhines a’r Meistri a cheisio ei rhwystro hi a’i ffrindiau rhag gadael Melania. Roedd hi’n eu nabod, bob un, wedi dysgu ymladd gyda nhw, wedi chwysu a chwerthin yn eu cwmni. A rŵan doedd dim byd ar ôl ohonyn nhw a byddai rhywun yn gorfod dweud wrth eu teuluoedd na fydden nhw byth yn eu gweld eto. A’i bai hi oedd o.

    Edrychodd eto ar Galena a Cara yn ceisio gwneud gwyrthiau efo corff llonydd Dalian. Doedd dim byd y gallai hi ei wneud. Roedd hi’n eithaf siŵr nad oedd dim y gallen nhw ei wneud chwaith. Roedd o wedi mynd.

    ‘Efa! Gwna rywbeth!’ gwaeddodd llais y tu ôl iddi.

    Prad. Trodd ei phen i weld ei fod o a Bilen yn ceisio dal a thawelu’r ceffylau. Roedd Ffela, caseg Cara, yn gweryru’n wyllt a gwaed yn llifo o anaf dychrynllyd ar ei choes ôl. Helicoprion, siarc erchyll gyda dannedd ar ffurf olwyn, oedd wedi llifio i mewn iddi pan oedd hi yn y dŵr. Roedd Bilen wedi llwyddo i gael gafael yn ei ffrwyn ond yn cael trafferth mawr i’w thawelu, tra oedd Prad wedi cael gafael ar ddau o’r ceffylau eraill ac yn ceisio tawelu’r rheiny er mwyn gallu mynd i helpu Bilen. Roedd Brân, stalwyn Dalian, a Gwiblen, caseg Efa, wedi rhedeg yn wyllt i ben pella’r traeth.

    Cododd Efa ar ei thraed a brysio tuag at Bilen.

    ‘Mae gen i bethau yn fy mag allai helpu Dalian, a falle Ffela hefyd,’ meddai Bilen wrthi. ‘Fedri di gydio ynddi a thrio’i thawelu hi?’

    Nodiodd Efa a chamu ymlaen i gymryd y ffrwyn oddi arni. Roedd llygaid y gaseg yn rhowlio’n wyn mewn ofn a phoen, ac roedd hi’n tynnu’n ôl yn wyllt, ond siaradodd Efa gyda hi mewn llais tawel, addfwyn:

    ‘Dyna ti, ’ngeneth i, mae’n iawn. Mae’n iawn. Paid â phoeni. Mi fydd bob dim yn iawn.’ Bron nad oedd Efa eisiau chwerthin. Mi fydd bob dim yn iawn, wir! Am rwtsh. Doedd hyd yn oed ceffyl ddim yn mynd i gredu hynny.

    Ond yn rhyfeddol, roedd Ffela’n dechrau tawelu. Rhedodd Efa ei bysedd yn ysgafn dros drwyn a bochau’r anifail, a siarad gyda’r gaseg yn dawel eto. Pwysodd ei thalcen yn erbyn y gwddf chwyslyd, cynnes a theimlo’n well ynddi hi ei hun, rywsut.

    ‘Dyna ti. Dyna ti, Ffela. Mi fyddi di’n iawn…’

    Yn y cyfamser, roedd Bilen wedi tynnu ei bag oddi ar ei chefn ac wedi dod o hyd i’r pecyn cymorth cyntaf. Brysiodd at Galena a Cara a chwilota am rywbeth – unrhyw beth – allai helpu Dalian.

    ‘Tria hwnna, Cara. A hon, potel o fedd,’ meddai, gan roi pecynnau a photeli yn nwylo Cara. Yna brysiodd yn ôl at Efa a’r gaseg. Rhoddodd ei llaw yn ysgafn ar gefn Ffela a’i rhedeg yn araf at ei choes ôl. Daliai Efa i siarad yn addfwyn gyda’r anifail.

    ‘Dyna fo. Mae hi’n mynd i drio dy wella di, cael gwared o’r hen boen ’na.’

    ‘Wel, mi wna i ’ngorau,’ meddai Bilen, gan lygadu’r anaf yn bryderus. Aeth ati’n ofalus i’w lanhau gyda medd. ‘Does ’na ddim byd gwell i lanhau anafiadau na mêl ac alcohol,’ meddai, ac yna taenodd ychydig o eli gwafant, cymysgedd o lafant a gwymon, dros ochrau’r rhwyg. ‘Mi wnaiff hynna leddfu chydig o’r boen, gobeithio. Ond mae angen pwytho’r rhwyg yma… Mae gen i nodwydd ond mae gen i ofn iddi roi cic i mi.’

    ‘Aros eiliad,’ meddai Efa. ‘Dwi’n cofio Mam yn dangos rhyw dric i mi… Dyro’r edau yn y nodwydd tra dwi’n trio cofio.’

    Roedd ei mam, y Frenhines, yn wych am drin anifeiliaid, yn enwedig ceffylau. Roedd hi wedi cael ei hyfforddi gan y sibrydwyr gorau, mae’n debyg, ac wedi dysgu ambell dric i’w merched yn ei thro. Roedd Efa’n naw oed pan ddangosodd ei mam iddi sut i siarad gyda cheffyl ofnus, a sut i bwyso’i bysedd yn ofalus ond yn bendant ar wahanol rannau o ben ceffyl gan wneud i’w gorff cyfan rewi, fwy na heb. Chwiliodd am y rhannau hynny yn awr, gan ddal i siarad yn addfwyn gyda’r gaseg. Roedd hi’n siŵr mai fan hyn oedd o… Pwysodd gyda’i bysedd a theimlo’r ceffyl yn llonyddu’n llwyr.

    ‘Rŵan,’ sibrydodd wrth Bilen, ‘mae gen ti chydig funudau. Chei di mo dy gicio.’

    Ufuddhaodd Bilen, a dechrau pwytho’n gyflym. Roedd ei dawn fel gwniadwraig yn amlwg. Roedd hi wedi gwneud cannoedd o wisgoedd dros y blynyddoedd, i Efa a’i chwiorydd a’r Frenhines, heb sôn am wisgoedd y dawnswyr ar gyfer seremoni coroni Efa. Seremoni na fyddai’n digwydd bellach, meddyliodd Efa. Tybed a fyddai’r dorf yn aros o gwmpas ar gyfer angladd fflamau’r gwarchodwyr a gafodd eu lladd? Na, nid angladd fyddai hi – doedd neb yn mynd i ddod o hyd i’w cyrff. Fyddai dim darn ohonyn nhw ar ôl i’w losgi. Seremoni i gofio amdanyn nhw, efallai.

    Edrychodd Efa draw at gorff Dalian. Mi fydd yn rhaid i ni losgi ei gorff o, meddyliodd yn sydyn. Teimlodd boen fel cyllell yn ei brest a chyfog yn ei gwddf a dechreuodd y dagrau lifo i lawr ochrau ei thrwyn.

    ‘Dyna ni, joban reit daclus, os ga’ i ddeud,’ meddai Bilen gan dorri’r edau. Roedd yr anaf wedi ei bwytho a’r gwaed wedi peidio llifo. Taenodd fwy o wafant dros y pwythau, ac yna trodd i edrych ar Efa. Deallodd yn syth beth oedd wedi achosi’r dagrau.

    ‘O, Efa… paid. Mi fydd o’n iawn,’ meddai, gan roi ei llaw ar ei hysgwydd. ‘Dwi’n siŵr y bydd o’n iawn. Dalian ydy o.’

    ‘Hei!’ gwaeddodd Prad. ‘Fedar un ohonoch chi gydio yn un o’r rhain i mi gael mynd i nôl y ceffylau eraill? Cyn iddyn nhw ddiflannu?’

    ‘Ddo’ i efo ti,’ meddai Efa, gan basio ffrwyn Ffela i Bilen. Roedd yn well ganddi fod yn brysur, gwneud rhywbeth, yn hytrach na sefyllian yn edrych ar Dalian yn marw. Neidiodd ar gefn Salna, caseg Bilen, a charlamodd Prad a hithau i ben draw’r traeth tywyll.

    Roedd Brân, stalwyn du Dalian, wrth ymyl craig sgleiniog ddu ac roedd rhywbeth yn amlwg newydd ei ddychryn. Codai ar ei goesau ôl gan weryru’n ffyrnig. Roedd caseg Efa wedi dychryn gymaint roedd hi’n carlamu fel y gwynt yn ôl tuag at Prad ac Efa.

    ‘Woooo! Gwiblen! Aros!’ galwodd Efa arni, a diolch byth, arafodd y gaseg wrth nabod ei pherchennog a throtian tuag atyn nhw, gan ysgwyd ei phen a gweryru. Neidiodd Efa oddi ar Salna a cherdded tuag at Gwiblen. Cydiodd yn ei ffrwyn a’i chofleidio. Gwthiodd Gwiblen ei phen yn ei herbyn yn ddiolchgar. Roedd hi’n amlwg yn dal yn nerfus.

    Yn y cyfamser, roedd Prad a’i stalwyn wedi carlamu ymlaen a stopio’n ddigon pell o Brân. Llithrodd Prad o’r cyfrwy a cherdded yn ei flaen yn ofalus. Roedd y ceffyl yn dal i weryru a chodi’n wyllt ac edrychai fel petai’n ceisio cicio a sathru ar rywbeth.

    Tynnodd Prad ei fwa oddi ar ei ysgwydd ac estyn am saeth, rhag ofn. Yna gwelodd fod rhyw fath o anifail wrth droed y graig, rhywbeth oedd yn sgleinio’n ddu, yn union fel y graig, ac roedd ganddo grafangau mileinig yr olwg, fel cranc. Ond roedd hwn yn llawer iawn mwy nag unrhyw granc roedd Prad wedi ei weld o’r blaen. Roedd hwn yr un maint â dafad. Ac roedd ganddo grafangau mawr, creulon ar y ddwy fraich. Sylweddolodd Prad fod ganddo hefyd gynffon hir, bigog fel sgorpion. Math o sgorpion anferthol oedd o! Ac roedd o’n ceisio bachu coesau’r stalwyn gyda’i grafangau er mwyn claddu pig ei gynffon i mewn iddo. Pam nad oedd y ceffyl gwirion yn troi ac yn dianc?

    Gollyngodd Prad ffrwyn ei stalwyn a’i orchymyn i aros lle roedd o. Yna gosododd ei saeth yn ei fwa a thynnu’r llinyn yn ôl at ei drwyn. Doedd o ddim yn hollol siŵr lle i

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1