Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Llythyrau Adferiad - At Bobl Sy'n Wynebu Iselder
Llythyrau Adferiad - At Bobl Sy'n Wynebu Iselder
Llythyrau Adferiad - At Bobl Sy'n Wynebu Iselder
Ebook210 pages2 hours

Llythyrau Adferiad - At Bobl Sy'n Wynebu Iselder

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

In 2012, The Recovery Letters were launched, presenting a series of on-line letters from people who had survived depression to those who were continuing to suffer from it. A Welsh adaptation.
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateNov 19, 2021
ISBN9781784619114
Llythyrau Adferiad - At Bobl Sy'n Wynebu Iselder

Related to Llythyrau Adferiad - At Bobl Sy'n Wynebu Iselder

Related ebooks

Reviews for Llythyrau Adferiad - At Bobl Sy'n Wynebu Iselder

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Llythyrau Adferiad - At Bobl Sy'n Wynebu Iselder - Y Lolfa

    cover.jpg

    ‘Mae hwn yn brosiect gwych. Pan oeddwn i’n dioddef o iselder difrifol am y tro cyntaf, credu bod gwella’n amhosib oedd un o’r rhwystrau mawr i oroesi – ac i fy adferiad. Gofynnais i fy meddyg a allai fy rhoi mewn cysylltiad â phobl oedd wedi gwella, fel y gallwn i gredu yn hynny – ond doedd e ddim yn gallu a wnaeth e ddim chwaith. Dwi’n credu y byddai gwybod bod gwella’n bosib wedi gwneud byd o wahaniaeth imi oherwydd, fel y dywedodd Oscar Wilde, ‘despair has no seasons’ – hynny yw, mae’n ddi-baid. Gallaf gymeradwyo’r llyfr hwn yn llwyr i unrhyw un sy’n dioddef o iselder. Mae’n cynnwys negeseuon o obaith o’r ochr dywyll, cred resymegol i frwydro yn erbyn y diffyg ffydd mae pawb ag iselder yn ei deimlo. Heb os mae grym gan Llythyrau Adferiad i achub bywydau.’

    Tim Lott, newyddiadurwr ac awdur

    ‘Bydd y llyfr hwn yn achub bywydau, a phrin yw’r llyfrau y gellir dweud hynny amdanyn nhw. Mae ysgrifennu neu ddarllen llythyr yn brwydro yn erbyn y teimlad o unigedd sydd wrth wraidd anobaith. Darllenwch y llyfr hwn, prynwch e i bobl eraill; mae’n feddyginiaeth brin a phwerus.’

    Gwyneth Lewis, awdur Sunbathing in the Rain:

    A Cheerful Book about Depression

    ‘Mae’r llythyrau hyn yn llawn cyfeillgarwch ac agosatrwydd. Drwy eich tynnu o’ch cragen, byddan nhw yn eich helpu i rannu’r boen, i brofi’ch safbwynt ac i ddatrys problemau. Mae modd gwella o iselder a choeliwch chi fi, byddwch chi ganwaith gwell o’r herwydd: yn fwy meddylgar, yn fwy derbyngar, a daw heddwch i’ch rhan.’

    Dr Neel Burton, awdur Growing from Depression

    ‘Roedd y llythyrau yn gymaint o help i mi pan oeddwn i’n sâl; un o’r pethau prin a gyffyrddodd â mi ar draws y gwagle.’

    Charlotte Garrett, seicolegydd ymchwil

    ‘Llythyrau pwerus gan bobl sydd wedi bod yno ac sy’n gwybod o brofiad na fyddwch chi’n teimlo fel hyn am byth. Gallai un llythyr sy’n taro tant gwirioneddol gyda chi wneud byd o wahaniaeth.’

    Claudia Hammond, darlledwraig ac awdur

    ‘Teimladwy, hardd mewn mannau a gwerthfawr: mewn byd lle mae triniaeth effeithiol ar gyfer y rhai â salwch meddwl mor anodd ei chael ag erioed, mae gan y llyfr hwn rywbeth eithaf pwysig i’w gynnig. Yn anad dim, mae angen sicrhau’r sawl sy’n dioddef o iselder bod adferiad yn bosib. Mae’r llythyrau hyn gan gyd-deithwyr yn dangos ei bod yn fwy na phosib, ond yn debygol, nad ydych chi ar eich pen eich hun, bod eraill wedi bod yma, wedi goroesi, wedi gwella, wedi ailymuno â’u bywydau. Eu neges: gallwch chi wneud hynny hefyd.’

    Mark Rice-Oxley, awdur Underneath the Lemon Tree:

    A Memoir of Depression and Recovery

    ‘Does dim dwywaith y bydd y casgliad hwn o lythyrau gan bobl sy’n gwella o iselder yn rhoi cysur i’r rhai sy’n dioddef o salwch meddwl ar hyn o bryd. Mae’r bobl sy’n ysgrifennu’r llythyrau hyn yn disgrifio iselder mewn ffordd sy’n unigryw i rai sydd wedi’i oroesi. Mae’r geiriau’n ddilys a byddant yn rhoi gobaith ac anogaeth i’r rhai sy’n eu darllen.’

    Douglas Bloch MA, awdur Healing from Depression:

    12 Weeks to a Better Mood

    llyfrau perthnasol eraill

    We’re All Mad Here

    Canllaw di-lol i fyw gyda gorbryder cymdeithasol

    Claire Eastham

    Rhagair gan Natasha Devon, MBE

    ISBN 978 1 78592 082 0

    eISBN 978 1 78450 343 7

    Can I tell you about Depression?

    Canllaw i ffrindiau, teulu a gweithwyr proffesiynol

    Christopher Dowrick a Susan Martin

    Lluniau gan Mike Medaglia

    ISBN 978 1 84905 563 5

    eISBN 978 1 78450 003 0

    Recovery from Depression Using the Narrative Approach

    Canllaw i feddygon, therapyddion cyflenwol a gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd meddwl

    Damien Ridge

    ISBN 978 1 84310 575 6

    eISBN 978 1 84642 878 4

    The Madness of Our Lives

    Profiadau chwalfa feddyliol a gwella

    Penny Gray

    ISBN 978 1 84310 057 7

    eISBN 978 1 84642 504 2

    Lythyrau Adferiad

    At bobl sy’n wynebu iselder

    Golygwyd gan James Withey ac Olivia Sagan

    Gair i Gloi gan G. Thomas Couser

    Cyhoeddwyd gyntaf yng Nghymru 2020

    © Hawlfraint Jessica Kingsley Publishers 2017

    © Hawlfraint y Gair i Gloi G. Thomas Couser 2017

    Addasiad: Testun Cyf 2020.

    Cedwir pob hawl. Ni ellir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn mewn unrhyw ffurf berthnasol (gan gynnwys llungopïo, storio mewn unrhyw gyfrwng trwy ddull electronig neu drosglwyddo) heb ganiatâd ysgrifenedig cyhoeddwr y llyfr hwn.

    Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol

    Cyngor Llyfrau Cymru

    Cynllun y clawr: Y Lolfa

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978-1-78461-911-4

    Cyhoeddwyd ym Mhrydain yn 2017 gan

    Jessica Kingsley Publishers, 73 Collier Street, Llundain N1 9BE

    a

    400 Market Street, Suite 400 Philadelphia, PA 19106

    www.jkp.com

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd yng Nghymru ar bapur o goedwigoedd cynaliadwy gan

    Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    gwefan www.ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    ffacs 01970 832 782

    DIOLCHIADAU

    Diolch yn bennaf i chi, awduron y llythyrau, am eich dewrder i ysgrifennu, am fod yn agored i niwed, am fod yn obeithiol ac am rannu eich stori i helpu eraill.

    Diolch i Ganolfan Seibiant Maytree yn Llundain. Diolch i’r staff ac i’r gwirfoddolwyr yno yn ystod fy arhosiad a welodd ddyn a oedd yn chwilfriw ond heb ei ddinistrio, a eisteddodd gyda mi pan nad oeddwn am eistedd ar fy mhen fy hun, a oedd yn credu y gallwn i fyw pan oeddwn yn dymuno marw. Diolch i Roz, yn fwy na neb.

    Diolch i bawb o raglen All in the Mind BBC Radio 4, a welodd yr hyn roedden ni’n ei wneud yn Llythyrau Adferiad, a chredu yn hynny a’m gwahodd i sôn amdano.

    Diolch i Olivia am dy gefnogaeth ac am gredu, fel fi, y dylai hyn fod yn llyfr.

    Diolch i fy nheulu a fy ffrindiau; rydych chi’n gwybod pwy ydych chi a’r hyn rydych chi wedi’i wneud. Diolch am fod yn gefn imi.

    Fel arfer, diolch i Patrick, fy ‘Huckleberry friend’.

    James Withey

    CYFLWYNIAD

    Y RHESWM DROS DDECHRAU’R LLYTHYRAU ADFERIAD

    James Withey

    Dwi wedi bod wrth fy modd gyda llythyrau erioed – eu hysgrifennu a’u cael nhw. Fel plentyn, byddwn yn ysgrifennu at gyd-lythyrwyr ym mhedwar ban byd. Roeddwn wrth fy modd â’r weithred gorfforol o agor llythyr, arogli’r papur a dychmygu’r anfonwr gyda’i ysgrifbin a’i feddyliau mewn rhan wahanol o’r byd.

    Mae’r llythyrau gorau yn cyffwrdd â’ch enaid. Maen nhw’n estyn llaw atoch; maen nhw’n gafael yn y rhan ohonoch sy’n teimlo’n unig ac yn gwneud i chi weiddi, ‘Fi hefyd! Roeddwn i’n meddwl mai dim ond fi oedd yn deall hyn, ond rwyt ti’n deall hefyd.’ Gobeithio mai dyna fydd y casgliad hwn o lythyrau yn ei wneud: cysylltu â’r rhan ohonoch sy’n teimlo mai chi yw’r unig un sy’n dioddef iselder.

    Mae llythyrau, beth bynnag fo’u ffurf, yn bethau i’w trysori, eu darllen eto a’u cadw. Does dim byd mwy personol; mae’r llythyrwr wedi eistedd ac wedi meddwl amdanoch chi a dim ond chi, a nawr dyma chi yn darllen eich bod chi’n bwysig iddo yntau.

    Ychydig flynyddoedd yn ôl roeddwn i’n eistedd ar fy ngwely, yn fy ystafell, mewn ysbyty seiciatrig. Roedd y gwely wedi’i folltio i’r llawr, doedd y ffenestr ddim yn agor mwy na dwy fodfedd ac roedd y bin sbwriel yn edrych fel petai wedi’i roi ar dân ryw dro. Bob hyn a hyn byddai rhywun yn dod heibio, yn edrych drwy’r gwydr yn y drws, yn gweld fy mod i’n fyw ac yna’n mynd oddi yno.

    Am 3 o’r gloch y prynhawn byddai’r haul yn dechrau taflu cysgod y goeden ar draws y wal fel rhyw lun chwerthinllyd o od. Roeddwn i’n edrych ar yr harddwch a phrin ei fod yn cyffwrdd â mi. Roeddwn i’n meddwl o hyd, ‘Sut gyrhaeddais i’r fan hyn? Sut ddigwyddodd hyn? Sut wnaeth iselder hyn i mi? Sut gafodd fy melt ei gymryd oddi arna i? Sut wnes i addo peidio â chael bag plastig yn yr ystafell byth eto?’ Eto, dro ar ôl tro, ‘Sut gyrhaeddais i’r fan hyn?’ Y flwyddyn flaenorol, roeddwn i’n gweithio fel hyfforddwr staff mewn elusen fawr ac yn dysgu pobl am atal hunanladdiad; nawr, dwi’n cael fy ngwylio bob chwarter awr i fy atal rhag fy lladd fy hun.

    Pan oeddwn yn yr ysbyty, doeddwn i ddim yn gwybod y byddwn i’n dechrau datblygu’r syniad ar gyfer prosiect Llythyrau Adferiad, sydd wedi newid fy mywyd ac wedi newid bywydau pobl eraill hefyd. Prosiect mor syml a gobaith wrth ei wraidd.

    Yn ystod rhan waethaf fy iselder, hunanladdiad oedd yr unig beth ar fy meddwl. Byddwn yn deffro’n crio am 4.30 y bore ac ni allwn fynd yn ôl i gysgu. Ar y trên adref o’r gwaith byddwn yn edrych drwy’r ffenestr ac yn ffurfio cynllun yn fy mhen; dydd Iau, ie dydd Iau byddwn yn fy lladd fy hun, dydd Iau fydd y diwrnod. Byddwn yn cerdded o flaen trên a dyna fyddai diwedd y boen. Dyna’r unig beth o bwys, cael gwared ar y boen.

    Pe bawn i wedi cael bath erbyn 4 y prynhawn roedd hwn yn ddiwrnod da. Os oeddwn i wedi bwyta rhywbeth, byddai hyn yn teimlo fel llwyddiant diangen. Byddwn yn mynd i’r archfarchnad gyda rhestr siopa ac yn sefyll o flaen y silffoedd gan feddwl, ‘Sut oeddwn i’n arfer gwneud hyn?’ Pa fath o diwna ddylwn i ei brynu? Yr un rhad oherwydd does gen i fawr ddim arian? Yr un gyda dŵr ffynnon oherwydd bod rhywun wedi dweud bod dŵr heli’n cynnwys mercwri? Yr un drutaf a fydd efallai’n rhoi mwy o bysgod am fy arian? Cynnig arbennig ar brynu nifer o duniau gyda’i gilydd? Oedd yr un gyda’r olew olewydd yn cadw’r tiwna’n well?’ Roedd hi’n amhosib. Roedd y naill benderfyniad yn arwain at y llall, rhagor o gwestiynau, rhagor o ofid. Fe gerddais i allan o’r archfarchnad fwy nag unwaith heb ddim byd. Roedd y gerddoriaeth yn rhy uchel, roedd hi fel petai pobl yn rhedeg ar hyd yr eiliau tuag ata i, roedd babanod yn sgrechian a chyhoeddiadau cras ar yr uwchseinydd. Roedd hi’n uffern yn fy uffern i.

    Roeddwn i’n methu canolbwyntio, roeddwn i’n methu gwylio’r teledu, roeddwn i’n crwydro’n ôl a blaen o gwmpas ein fflat ac yn digio wrth bob diwrnod heulog, yn dal dig wrth bawb a oedd yn ceisio gwenu arna i yn y swyddfa bost, ond yn bennaf oll, roeddwn i’n teimlo’n chwerw tuag ata i fy hun. Fy mai i oedd hyn i gyd. Roedd pobl yn synnu pan oeddwn i’n dweud wrthyn nhw fy mod i’n dioddef o iselder. Fi oedd yr un oedd yn gwrando ar eu problemau bob amser a dyma fi yn methu gofalu amdana i fy hun.

    Mae iselder yn ymwneud â cholled ac roedd llawer o golledion yn fy mywyd yn ystod y cyfnod hwn; perthynas â ffrindiau wedi newid yn barhaol, roeddwn i’n methu gweithio, roeddwn i’n methu canolbwyntio, roeddwn i’n methu gwneud ymarfer corff, doeddwn i ddim eisiau bwyta, roeddwn i’n methu cysgu, collais bob gobaith ac, yn fwyaf arwyddocaol imi, roeddwn i’n methu darllen.

    Darllen nofelau oedd fy mhleser i. Fe wnes i ymuno â grwpiau llyfrau, roeddwn i’n darllen ychydig o nofelau bob mis, roeddwn i’n treulio fy amser mewn hen siopau llyfrau, yn darllen adolygiadau llyfrau ar-lein, yn rhoi sgôr i fy hoff lyfrau ac yn ei chofnodi mewn llyfr nodiadau, a darllen fy llyfr fyddwn i bob amser cinio. Nawr, allwn i ddim darllen brawddeg. Dim; roedd hwn yn fethiant llwyr a chwbl anhygoel. Byddai pobl yn argymell llyfrau swmpus, trwchus fel cerrig beddi ar iselder a therapi ymddygiad gwybyddol (CBT: cognitive behavioural therapy) a byddai’r llyfrau hyn yn eistedd ar y bwrdd coffi yn syllu arna i. Byddwn i’n syllu’n ôl arnyn nhw, mewn dryswch. Sut oeddwn i’n arfer gwneud hyn? Roedd hi’n ddigon syml, byddwn i’n codi llyfr ac yn darllen y geiriau, a nawr – dim byd. Dim byd. Affliw o ddim.

    Un o’r llu o bethau creulon am iselder yw ei fod yn cymryd eich dulliau ymdopi oddi arnoch ar yr union adeg y mae eu hangen nhw arnoch. Wedyn bydd yn eich darbwyllo na fyddan nhw byth yn dod yn ôl ac mai chi sydd ar fai am y cyfan beth bynnag. Pan fyddwch chi ar eich isaf, pan fydd angen eich holl adnoddau arnoch chi, mae iselder yn eu cymryd oddi arnoch.

    Wnes i erioed feddwl y byddwn i’n gwella, byth, byth bythoedd. ‘Efallai ei fod yn digwydd i bobl eraill…’ meddwn i, ‘… ond nid i mi.’ Os oeddwn wedi fy argyhoeddi o unrhyw beth yn fy mywyd erioed, y gred na fyddai fy iselder yn gwella oedd hynny. Byddwn wedi rhoi arian mawr ar hyn pe bai’r bwci lleol wedi derbyn fy ods; byddwn wedi bod yn anhygoel o gyfoethog ac yn dioddef o iselder yn barhaol. Roeddwn i’n anghywir – fe wellodd a nawr dwi’n gwneud fy ngorau i beidio â gwrando gormod pan fydd iselder yn dechrau dweud celwydd tebyg wrtha i; dydy hynny ddim yn gweithio bob amser ond dwi’n ceisio gwneud hynny a dyna’r cyfan allwn ni ei wneud, ceisio peidio â gwrando ar y celwyddau.

    Mae iselder yn salwch sy’n bygwth bywyd, weithiau’n rhoi diwedd ar fywyd ac mae byw gydag e yn gofyn am ddewrder aruthrol. Mae lefel y boen emosiynol mor aruthrol fel y gall ymddangos mai hunanladdiad yw’r unig ddewis posib. Mae fel cwcw gyfrwys sy’n meddiannu eich bywyd, yn eich sarhau a’ch dwrdio gyda chelwydd, casineb a bai. Mae’n ysgeler. Mae’n gwneud i chi gredu bod y byrhoedlog yn barhaol ac na allwch wella byth. Ein stigma iechyd meddwl ni yw’r un mwyaf; ac iselder yw ei danwydd.

    Pan oeddwn i’n sâl am y tro cyntaf, dim ond un gweithiwr iechyd meddwl ddywedodd wrtha i erioed y gallwn i wella o iselder; myfyriwr oedd hwnnw gyda’r tîm argyfwng a fyddai’n ymweld â mi bob dydd i weld a oeddwn i’n fyw. Wrth iddo adael fe drodd wrth gyrraedd y drws a dweud, ‘James, mae gwella o iselder yn bosib.’ Roedd hi’n bosib gwella o iselder? Wir? Ond y broblem oedd bod iselder yn dweud y gwrthwyneb wrtha i ac yn y llais mwyaf croch a oedd ganddo. Roeddwn i’n meddwl ei bod hi’n amhosib, na fyddwn i byth yn gwella, roedd hi’n anobeithiol, roedd byw yn ddibwrpas, roedd y boen yn ormod, roedd yn fwy pwerus na phopeth, a rhoi’r gorau iddi oedd yr ateb. Ond y diwrnod hwnnw fe welais lygedyn bach o obaith a sylweddolais fod angen imi glywed mwy am y posibiliadau o adferiad os oeddwn i’n mynd i wella o gwbl.

    Fe es i aros yng Nghanolfan Seibiant Maytree yn Llundain (gwasanaeth preswyl i bobl sy’n meddwl

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1