Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Tra Bo Dwy
Tra Bo Dwy
Tra Bo Dwy
Ebook333 pages5 hours

Tra Bo Dwy

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

Anna and her daughter, Llio, live in an ordinary flat in an unremarkable estate in Maeseifion, but everything changes when they become witnesses in a murder case that affects the whole community. A new detective novel by the author of Gwyn eu Byd, Cyw Melyn y Fall and Hen Blant Bach.
LanguageCymraeg
PublisherGomer
Release dateDec 2, 2015
ISBN9781785620782
Tra Bo Dwy
Author

Gwen Parrott

Although she has lived in Bristol for many years now, Gwen Parrott was born and brought up in the depths of rural North Pembrokeshire, West Wales. Having worked in many creative writing fields such as theatre, television, radio, short stories and novels, in both English and Welsh, she was also a freelance translator until fairly recently, but is now a full-time fiction writer, concentrating on both semi-historical and contemporary murder mysteries. Her background has allowed her to write in both languages and she translates her own novels as a matter of course.She has published four Welsh language novels with Gomer: Gwyn eu byd (2010), Hen Blant Bach (2011), Cyw Melyn y Fall (2012), and Tra Bo Dwy (2015).The English translation of her first novel Gwyn eu byd was released in paperback as Dead White (2019).

Read more from Gwen Parrott

Related to Tra Bo Dwy

Related ebooks

Related categories

Reviews for Tra Bo Dwy

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Tra Bo Dwy - Gwen Parrott

    PENNOD 1

    Crensiai gweddillion y cesair o dan draed Anna, a chwibanai’r gwynt yn ei chlustiau wrth iddi redeg, ond nid oedd yn bwriadu arafu nes iddi gyrraedd y grisiau. Bu’n lwcus heno – roedd y bws olaf i’r stad yn dynesu o’r cylchfan wrth iddi adael yr Afr, y dafarn lle gweithiai. Clywodd lais Rob, y rheolwr, yn galw ffarwél o’r cwrt blaen, a chododd law frysiog arno wrth lamu ar draws y ffordd fawr. Gwelodd gyrrwr y bws hi’n rhedeg, ac aros amdani. Doedd hi ddim yn bell i gerdded, ond ar ôl shifft galed, ac mor hwyr y nos, y bws oedd y dewis cyntaf. Bron iddi syrthio i gysgu yn y gwres cysurlon. Yn ôl ei harfer, taflodd gipolwg dros ei hysgwydd i weld a oedd unrhyw un arall yn dod oddi ar y bws ar gyrion y stad, ond hi oedd yr unig un. Er gwaethaf ei blinder, yr eiliad y camodd i’r strydoedd cyfarwydd, roedd hi’n effro i bob sŵn a symudiad. Am ryw reswm, teimlai’n anesmwyth y noson honno, ac nid oedd ei gwyliadwraeth arferol yn ddigon. Cafodd ei hun yn rhedeg mwyaf sydyn, ac yn syllu i bob ale dywyll, er nad oedd neb i’w weld.

    Nefoedd, roedd hi’n oer. Hwyrach bod yr wyth awr a dreuliodd yn chwysu yng nghegin brysur y dafarn yn rhoi min ychwanegol i’r gwynt. Gwthiodd ei dwylo’n ddyfnach i bocedi ei chot, er nad oedd hynny’n ddoeth a’r palmant mor llithrig. O leiaf roedd y sgrepan lle cadwai ei dillad gwaith yn cysgodi ei chefn. Byddai angen iddi eu rhoi yn y peiriant golchi heno, er bod hynny’n golygu gorfod aros i’r cylch orffen a’u rhoi i sychu cyn mynd i’r gwely. Fyddai ganddi ddim trowsus glân at yfory fel arall, ac roedd y rhai a wisgai heddiw yn staeniau drostynt gan yr olew a dasgodd o’r badell ffrio.

    Sôn am losgi, gallai deimlo ei hanadl yn treiddio’n ddwfn i’w hysgyfaint fel petai’n anadlu tân. Llithrodd ei throed, ond daliodd ei hunan mewn pryd. Gwelodd y bloc mawr o fflatiau’n codi o’i blaen. Canllath eto, a byddai wrth droed y grisiau allanol a arweiniai at ei chartref. Nid am y tro cyntaf, meddyliodd y gallent fod wedi rhoi rhyw fath o do dros y grisiau. Nid oedd unrhyw gysgod rhag y gwynt a’r glaw nes cyrraedd y canopi cwta dros y landin, a ymestynnai o flaen y tri fflat ar y llawr cyntaf. Wedi’i adeiladu ’nôl yn y saithdegau, roedd y bloc yn un concrid moel, diaddurn.

    Paid â meddwl am hynny nawr, dwrdiodd ei hun. Canolbwyntia ar gyrraedd adref yn ddiogel. Roedd wedi dysgu ymddiried yn ei greddf dros y blynyddoedd ar y stad. Roedd ’na reswm dros redeg, er na wyddai beth oedd hwnnw. Pum llath eto, ac roedd hi’n ddigon agos i afael yn y ganllaw fetel. Dringodd y grisiau’n fwy gofalus, a’i chalon yn taranu yn ei chlustiau. Gwingodd y tu mewn i’w chot, fel petai’n disgwyl i law drom ddisgyn ar ei hysgwydd. Trodd ei phen yn ofnus, ond nid oedd neb yno, a rhuthrodd heibio i ddrws ei chymydog, Mrs Gray, at ei drws ei hun. Roedd y golau’n dal i ddisgleirio yn stafell fyw yr hen ddynes, a sŵn y teledu’n ddi-baid. Adnabu seiniau peraidd rhyw fideo cerddoriaeth rap llawn rhegfeydd ar MTV – fwy na thebyg fod Mrs Gray wedi pwyso’r botwm anghywir eto, ac wedi syrthio i gysgu yn y gadair freichiau.

    Tynnodd ei maneg er mwyn gafael yn allwedd y drws, a gadwodd yng nghledr ei llaw ers gadael yr Afr. Taflodd gipolygon i’r dde wrth wneud. Nid oedd neb wedi’i dilyn i fyny’r grisiau i’r chwith, ond roedd ’na risiau’r ochr arall hefyd. Ym marn Anna, roedd gormod o lawer o setiau o risiau’n arwain at y fflatiau. Teimlodd y gwres bendithiol wrth i’r drws agor. Cyn cynnau’r golau, caeodd y drws a’i gloi’n ofalus y tu ôl iddi. Tynnodd ei chot a’i hongian yn dawel. Er nad oedd yn debygol y byddai Llio’n dihuno, gan fod plant yn eu harddegau’n cysgu fel y meirw, aethai cripian o amgylch ganol nos yn arfer ganddi. Teimlodd y rheiddiadur yn y cyntedd. Roedd yn dal yn weddol gynnes, er y gwyddai fod y gwres canolog wedi’i ddiffodd ei hun ers awr a mwy. Yn y tywydd hwn, byddai’n braf medru ei adael ymlaen drwy’r nos, ond ni allai fforddio hynny. Dyna un fantais o fod yn fflat canol mewn bloc o naw dros dri llawr – manteisio ar wres y fflatiau eraill o bob tu iddi. Yn anffodus, roedd sŵn yn cario lawn cystal â gwres.

    Brasgamodd ar hyd y cyntedd byr i’r gegin, a wynebai gefn yr adeilad. Rhoddodd y tegell i ferwi a stwffio’i dillad gwaith budr i’r peiriant golchi. Roedd stafell wely Llio drws nesaf ar y dde, a’i un hi ar y chwith. Wynebent y cefn, ond roedd y stafell ymolchi a’i ffenest fechan, gymylog, yn wynebu’r landin, fel y stafell fyw yr ochr arall i’r drws a’i ffenest fawr. Hyd y gwyddai Anna, roedd y fflatiau i gyd yr un fath â’i gilydd, a ddangosai ddiffyg dychymyg ar ran y penseiri, ond efallai y dylai fod yn ddiolchgar eu bod wedi llwyddo i sicrhau bod gan bob stafell ei ffenest ei hun, yn enwedig yn y fflatiau canol heb fur allanol bob ochr. Eisteddodd ar stôl galed wrth y bwrdd, yn yfed coffi heb gaffîn ac yn shifflan y llythyron, biliau gan mwyaf, a orweddai arno. Ceisiodd weithio allan pa rai yr oedd yn rhaid eu talu’n ddi-oed, a pha rai allai aros fymryn yn hwy, ond roedd hi wedi blino gormod i hidio. Cystal iddi baratoi i fynd i’r gwely wrth i’r peiriant golchi wneud ei waith.

    Ymhen pum munud, roedd yn rhedeg y dŵr yn y gawod dros y bath wrth lanhau ei dannedd wrth y sinc. Teimlodd yn euog am eiliad ei bod yn gwneud y fath sŵn mor hwyr, ond roedd hi’n nos Wener, a fyddai Llio ddim yn meddwl codi tan ganol y prynhawn ar ddydd Sadwrn. Ta beth, daeth tymor yr ysgol i ben heddiw. Gwyddai hynny, nid gan Llio, a ystyriai fod gwybodaeth ddefnyddiol felly’n gyfrinachol, ond gan y llu o bobl ifanc a heidiodd i’r Afr y noson honno â’u cardiau adnabod ffug. Nid oedd eu presenoldeb yn ddim iddi hi, oherwydd roedd eu holl fryd ar yfed yn hytrach na bwyta, ond roeddent yn dreth ar amynedd y staff y tu ôl i’r bar.

    Gostyngodd ei cheg at y tap am lymaid o ddŵr i waredu’r past dannedd. Rhyw symudiad tu allan a wnaeth iddi godi’i phen yn gyflym, a neidiodd yn ôl o weld amlinelliad llaw yn ymddangos ar y gwydr. Rhaid ei bod wedi gwneud rhyw sŵn a rybuddiodd pwy bynnag oedd yno, oherwydd tynnwyd y llaw oddi yno’n sydyn, a chlywodd Anna sŵn traed yn symud yn gyflym heibio i’r drws blaen. Pwy ar y ddaear oedd yno? Camodd Anna o’r stafell ymolchi a gafael yn y pastwn a safai o dan y bachau cotiau. Cymerodd eiliad iddi ddatgloi’r drws, ac erbyn iddi wneud, doedd dim i’w glywed ond camau olaf y person yn neidio’r ddau ris olaf a diflannu rownd cornel yr adeilad i’r tywyllwch. Safodd yno am ennyd, yn pwyso dros y rheiliau, gan wrando’n astud a syllu i lawr. Ni ddaeth neb i’r golwg. Roedd ganddynt ddigon o synnwyr i beidio â rhedeg ar draws y patshyn glaswellt lle gallai Anna fod wedi’u gweld. Camodd yn ôl i’r fflat a chloi’r drws unwaith eto.

    Rhyw sinach bach brwnt fu yno, roedd hi’n siŵr; rhywun a wyddai taw ffenest stafell ymolchi oedd y tu ôl i’r gwydr â phatrwm rhedyn arno. Yr adeg hyn o’r nos, roedd unrhyw oleuadau yn y fflatiau i’w gweld o bell, a’r landin agored yn cynnig lle cyfleus i bipo trwy’r ffenestri, a dihangfa bob ochr. Ei bai hi oedd e i raddau, meddyliodd Anna, am nad oedd hi’n trafferthu tynnu’r llen roler i lawr yn fynych, am ei bod yn dueddol o wrthod mynd ’nôl i’r brig.

    Doedd dim amdani heno, felly, ond ei thynnu i lawr, ond ni oedodd yn hir o dan y dŵr poeth hyd yn oed wedyn. Roedd hi wedi anghofio cynnau’r gwresogydd aer ar y mur cyn rhedeg y gawod, ac roedd anwedd wedi cymylu’r drych dros y sinc. Safodd yn rhwbio’i gwallt â’r tywel yn y cwthwm cynnes, a gweld ei hwyneb yn araf ymddangos wrth i’r niwl glirio. Roedd hi’n heneiddio, penderfynodd, ond byddai’n edrych yn well ar ôl noson o gwsg. Nid oedd pwynt rhoi crib drwy ei gwallt byr, cyrliog. Byddai’n bigau anystywallt bore fory waeth beth wnâi. Dywedodd Mal, ei chyn-ŵr a thad Llio, wrthi droeon ei bod yn edrych fel crwt bach drwg heb golur. Yn nyddiau eu carwriaeth, roedd yn jôc rhyngddynt, yn enwedig am fod Mal, hyd yn oed yn ei ugeiniau, yn ddyn mawr, trwm, a gadwai ei wallt tonnog braidd yn hir. Roedd Mal yn hwyl bryd hynny, yn ei het fedora a’i ddillad bohemaidd. Ry’n ni’n edrych fel Oscar Wilde a’i sboner, Bosie.

    Erbyn iddi wisgo’i choban yn ei stafell wely roedd cylch troelli’r peiriant golchi’n chwyrnu ac yn gwichian yn y gegin. Pum munud arall a byddai’n distewi. Cysgai Llio drwy hyn oll bob tro. Rhaid cyfaddef nad oedd hi’n poeni rhyw lawer am darfu ar gwsg y cymdogion. Doedden nhw ddim yn cadw’n dawel er ei mwyn hi, heblaw am Dilwyn, yr ochr arall iddi. Roedd e mor dawel nes nad oedd modd gwybod a oedd e’n fyw neu’n farw. Serch hyn, arhosodd ennyd y tu allan i ddrws stafell Llio a gwrando, cyn mentro troi’r bwlyn a’i agor. Pan welodd y gwely gwag, llamodd ei chalon i’w gwddf, ond yna cofiodd. Rywbryd yn ystod adeg brysuraf y gegin, marcie wyth o’r gloch, roedd ei ffôn wedi crynu yn ei phoced. Prin yr edrychodd ar y neges destun swta, gan fod archeb am bedwar mixed grill a dwy stecen wedi ymddangos ar y sgrin ar y mur, ac roedd Carmel, ei chyd-gogyddes, yn eu rhestru’n uchel. Gwelodd y gair ‘Celyn’ ymhlith y byrfoddau annealladwy arferol, ac yna caeodd y ffôn yn glep. Dyna lle’r oedd Llio, yn treulio’r nos yn nhŷ ei ffrind, Celyn. Gorffennodd y cylch troelli’n sydyn, a bu tawelwch. Trodd Anna’n flinedig am y gegin.

    Dihunodd yn ffwndrus o’i thrwmgwsg, yn meddwl bod haid o wenyn meirch yn y stafell, cyn sylweddoli bod ei ffôn yn suo ar wyneb pren y cwpwrdd wrth erchwyn ei gwely. Ymbalfalodd amdano’n gysglyd, yn dylyfu gên. Dangosai bysedd fflworoleuol ei chloc chwarter i bedwar.

    ‘Helô?’

    Gallai glywed anadlu’r pen arall. Gwthiodd ei hunan i fyny yn y gwely, yn gyndyn o adael y nyth cynnes, ond os taw anadlwr trwm ydoedd, dymunai fod yn ddigon effro i roi llond pen iddo. Eto, roedd rhywbeth yn ansawdd yr anadlu’n awgrymu’n wahanol.

    ‘Llio? Ti sy ’na?’ Clywodd igian aneglur, a rhywun yn llyncu.

    ‘Mam?’ meddai llais bach. ‘Ble odw i?’

    ‘Beth wyt ti’n feddwl? Dwyt ti ddim yn nhŷ Celyn?’ Ond ni ddaeth ateb, dim ond distawrwydd llwyr. Pwysodd Anna’r botymau i alw rhif Llio’n syth, ond peiriant a’i hatebodd. Rhoddodd gynnig arall arni, ond heb lwc. Ceisiodd Anna feddwl wrth iddi daflu’r cwrlid oddi arni. Gallai Llio fod yn nhŷ Celyn, mewn stafell wely ddieithr, ac wedi gafael yn ei ffôn, yn null awtomatig y genhedlaeth ifanc, heb ddihuno’n llwyr. Roedd hi wedi galw Anna o’i stafell wely cyn hyn, a hithau’n eistedd yn y stafell fyw. Ni olygai’r alwad, o reidrwydd, ei bod mewn perygl. Ond roedd hefyd yn bosib nad oedd hi yn nhŷ Celyn o gwbl, ac mai anwiredd llwyr oedd yn ei neges destun. Aeth Anna i chwilio am y llyfr ffôn. Beth oedd cyfenw Celyn? Ni wyddai lawer amdani, heblaw ei bod yn byw mewn tŷ mawr ym mhen arall y dref, ar stryd nid nepell o’r ysgol gyfun yr oedd y ddwy yn mynd iddi. Crafodd bellafoedd ei meddwl am unrhyw gliw. Nid oedd pwynt edrych yn stafell Llio. Ffliciodd yn ddiflas drwy’r llyfr cyfeiriadau. Gwthiwyd cant a mil o sgrapiau papur a rhifau arnynt blith draphlith i’r llyfr. Agorodd un dudalen A4, a rhoi ochenaid o ryddhad o weld mai papur swyddogol Ysgol Gyfun Maeseifion ydoedd. Y gaeaf cynt, bu Llio ar wyliau yn Ffrainc gyda’r ysgol (ei thad a dalodd), a darparwyd rhestr o enwau, cyfeiriadau a rhifau ffôn pawb oedd yn mynd, er mwyn i rieni fedru gydlynu â’i gilydd i drefnu rhannu ceir i gwrdd â’r bws. Ni fu angen i Anna ddefnyddio’r rhestr cyn nawr, ond roedd hi wedi’i chadw, rhag ofn. Pwysodd y botymau priodol ar ei ffôn, ond canodd a chanodd heb ateb. Nid oedd dim amdani ond ffonio tacsi.

    PENNOD 2

    ‘Grondwch nawr,’ meddai gyrrwr y tacsi wrth i Anna ei dalu, ‘os nad yw hi gyda’i ffrind, ffonwch fi ’to. Ddwa i ’nôl i’ch mofyn chi. Ma’ ’da fi grotesi’n hunan. Ma’n nhw’n gallu bod yn ddigon o farn.’

    Gwenodd Anna’n ddiolchgar arno, yn falch ei bod wedi goresgyn ei swildod gwreiddiol ac esbonio pam roedd angen tacsi arni am bedwar o’r gloch y bore. Gallai ei weld yn crychu ei dalcen mewn cydymdeimlad yn y drych ôl.

    Cododd law arno o’r palmant a cherdded i fyny’r llwybr at y drws blaen. Nid oedd golau yn y tŷ. Camodd i’r portsh agored a chanu’r gloch. Ni ddaeth ateb. Difarodd Anna nad oedd wedi ystyried y gallent fod wedi mynd ar wyliau. Edrychai’r tŷ fel petai’r perchnogion yn mynd i sgïo bob gaeaf. Os nad oedd neb adref, ni wyddai ble i fynd nesaf. Cwtsiodd allan o afael y gwynt yn erbyn un o’r muriau mewnol. Yr heddlu neu Mal oedd y ddau ddewis. Doedd yr un o’r ddau’n apelio. Fyddai gan yr heddlu ddim lot o ddiddordeb, a byddai’n edrych fel mam orbryderus. Byddai Mal yn gweithredu’n syth, ond yn ei beio hi am y sefyllfa. Damo di, Llio, sibrydodd dan ei hanadl. Neidiodd pan oleuodd y cyntedd yn sydyn, gan obeithio nad edrychai’n rhy anniben a bygythiol. Agorodd y drws ryw fodfedd yn unig.

    ‘Ai dyma lle mae Celyn yn byw?’ gofynnodd Anna. ‘Anna Morrissey, mam Llio ydw i. Dwi’n gwbod ei bod hi’n ganol nos, ond yw hi yma? Ces i neges yn gynharach yn gweud y bydde hi’n treulio’r nos gyda Celyn, ond dwi newydd gael yr alwad ffôn ryfedda oddi wrthi, a dwi’n pryderu.’ Bu saib bach a thynnwyd y tsiaen yn ei ôl. Safai dyn yn yr adwy. Edrychodd arni’n rhynnu ar y trothwy.

    ‘Seimon Picton-Jones, tad Celyn,’ meddai, gan estyn ei law’n gwrtais. ‘Dewch miwn o’r oerfel. Dyw Llio ddim yma.’ Syllodd i lawr ar draed Anna. ‘Mae’n ddrwg ’da fi,’ ychwanegodd. ‘Fydde ots ’da chi dynnu’ch sgidie?’ Ni fyddai ots gan Anna petai wedi gofyn iddi sefyll ar ei phen yr eiliad honno.

    ‘Dim problem o gwbwl. Carped newydd, ife?’ Nid atebodd Seimon, ond edrychodd o’i amgylch fel pe na bai wedi gweld yr erwau o garped hufen o’r blaen.

    ‘Dyna’r broblem gyda lliw gole,’ meddai o’r diwedd, a rhedeg ei law dros ei wallt tywyll, a frwsiwyd yn galed ’nôl o’i dalcen. ‘Pryd gafoch chi’r neges gan Llio?’ Tynnodd Anna’i ffôn o’i phoced er mwyn gwirio’r amser.

    ‘Marcie wyth. Falle dylen i fod wedi holi mwy, ond roedd gwaith yn brysur iawn heno.’ Amneidiodd y dyn.

    ‘Mm, wel, dyw hi ddim wedi bod yma. Ond roedd Celyn eisiau mynd mas heno, hefyd.’

    ‘Aeth hi ddim?’ Edrychodd braidd yn chwith arni.

    ‘Naddo. Chafodd hi ddim mynd. Ro’n i wedi dod i gytundeb ynghylch y gwyliau hyn. Mae ganddi fodiwlau arholiadau Safon Uwch ym mis Ionawr, a phentwr o waith i’w wneud. Doedd ei chanlyniadau TGAU hi ddim yn wych, yn benna oherwydd iddi fynd o un parti i’r llall yn ystod gwyliau’r Pasg eleni.’ Ni chlywodd Anna lawer o hyn, heblaw am un gair.

    ‘Felly roedden nhw’n bwriadu mynd i barti?’ Amneidiodd Seimon eto.

    ‘Ddwedodd hi ymhle?’

    ‘Yn anffodus, naddo. Aeth hi’n fater o weiddi a slamo drysau.’ Ochneidiodd. ‘Yr unig beth fedra i ei wneud yw ceisio’i dihuno a gofyn iddi. Cofiwch, alla i ddim addo y cewch chi ateb synhwyrol.’ Gwthiodd ei ddwylo i bocedi ei ŵn wisgo, ac agorodd y brethyn. Cafodd Anna ei hun yn syllu ar driongl dwfn o frest noeth ac arlliw o liw haul arno, a thynnodd ei llygaid oddi wrtho’n gyflym.

    ‘Bydden i’n ddiolchgar iawn. Dwi ddim yn gwbod ble i fynd nesa, ch’weld. Os na alla i ddod o hyd iddi, bydd angen i fi fynd at yr heddlu.’

    Cododd ei law. ‘Wrth gwrs. Os hoffech chi eistedd fan hyn am funud, af i i weld.’

    Pwyntiodd at gadair bren gerfiedig ger y bwrdd ffôn yn y cyntedd eang, a suddodd Anna’n ddiolchgar iddi. Gwyliodd ef yn dringo’r grisiau. Dyna pam y cymerodd gymaint o amser iddo ddod at y drws, meddyliodd. Roedd e wedi gwisgo’i drowsus a’i sgidiau ond nid ei sanau. Byddai hi wedi llusgo i’r fan heb sliperi, hyd yn oed, ond byddai wedi gafael yn y pastwn. Clywodd ddrws yn agor a chau uwch ei phen, ac yn y tawelwch dilynol, edrychodd o’i hamgylch yn chwilfrydig. Heblaw am ddrych anferth, roedd y cyntedd bron yn glinigol noeth. O ran maint, roedd y lle’n ddigon tebyg i dŷ olaf ei rhieni yn y wlad hon, ond roedd ei mam wedi llenwi hwnnw â cherfluniau o ferched mewn ffrogiau hir ar siliau’r ffenestri, blodau sych mewn ffiolau ar fyrddau bach tila, a phlatiau dirifedi ar y muriau. Nid oedd wedi gweld eu tŷ ym Mhortiwgal, lle buont yn byw ers rhyw ddwy flynedd, ond tybiai ei fod yn union yr un peth. Ar y cyfan, roedd yn well gan Anna’r olwg finimalaidd hon, er ei bod braidd yn foel. Rhywbeth rhwng y ddau oedd ei eisiau, penderfynodd. Edrychodd ar ei thraed a gweld bod ganddi dwll yn ei hosan chwith. Ni sylwodd arno wrth wisgo ar ras. Roedd wedi plygu er mwyn ceisio ei guddio pan glywodd sŵn traed yn dod i lawr y grisiau.

    ‘Dyma fam Llio,’ meddai’r dyn. Roedd e wedi diosg ei ŵn wisgo erbyn hyn ac roedd siwmper gwddf uchel amdano yn ei lle. Roedd merch bwdlyd yn ei ddilyn. ‘Ry’ch chi’n nabod Celyn, sbo.’

    Doedd Anna ddim yn gyfarwydd iawn â Celyn, a dweud y gwir. Hi oedd y ddiweddaraf mewn cyfres o ffrindiau mynwesol Llio, i gyd yr un ffunud â’i gilydd, yn marn Anna. Ni chredai fod Llio’n hoffi eu gwahodd i’r fflat, ac ni fyddai Anna’n eu gweld yn fynych, heblaw am achlysuron fel noson rieni yn yr ysgol. Y peth mwyaf trawiadol am Celyn oedd ei gwisg nos, sef siwt binc a’i gorchuddiai o’i gwddf i’w thraed, a sip gwyn ar y blaen a chwcwll ar ei gwar. Bu Llio’n sôn am gael un, ond cwynai eu bod i gyd yn rhy fyr iddi. Etifeddodd gorff a choesau hirion ei thad. Cododd Anna’n lletchwith.

    ‘Mae’n ddrwg ’da fi dy ddihuno di,’ dechreuodd, ‘ond dwi’n poeni am Llio.’ Esboniodd unwaith eto am yr alwad ffôn ddagreuol. Syllodd ar y ferch o’i blaen, ond ni allai Anna ddirnad unrhyw emosiwn na diddordeb ynddi. Yn hytrach, plethodd Celyn ei gwefusau, fel petai’n benderfynol o beidio â gadael i air ddianc o’i cheg.

    Ymestynnodd y tawelwch ar ôl i Anna orffen, nes i dad Celyn beswch. Trodd at ei ferch.

    ‘Ti’n gweld,’ meddai, mewn llais isel, ‘mae rheswm i gredu fod Llio mewn trafferth. Wyt ti’n cofio ymhle roedd y parti?’ Meddyliodd Celyn am eiliad, yna cododd ei hysgwyddau.

    ‘Wedodd hi ddim yn gowyr ble,’ atebodd. ‘Wedd hi’n mynd i gwrdd â fi off y bws.’

    ‘Yn y dre?’ Cnodd Celyn ymyl un o’i hewinedd, ond ysgydwodd ei phen. ‘Bws rhif pedwar,’ atebodd. ‘Y stop dwetha.’

    ‘Dyna’r bws sy’n mynd i’r stad,’ meddai Anna,.‘O’ch chi’n mynd i gerdded i’r parti o fan ’na?’

    ‘Fi’n meddwl ’ny. Wedodd hi allen i gysgu yn ei thŷ hi wedyn, ar ôl i chi fynd i’r gwaith.’ Siaradai’n araf, gan edrych ar ei dwylo. Oherwydd hyn, daeth yn dipyn o sioc i Anna ei chlywed yn troi ar ei thad yn chwyrn. ‘Wedes i dylet ti fod wedi gadael i fi fynd gyda hi, on’d do fe? Wedes i!’

    Gwyddai Anna’n burion fod y tad yn diolch i’r drefn ei fod wedi’i gwahardd, ac edrychodd mewn cydymdeimlad ar ei chwithdod.

    ‘Rwyt ti’n ddiogel, dyna’r peth pwysig,’ meddai, er mwyn tawelu’r dyfroedd. ‘Tase Llio wedi gweud y gwir wrtha i, fydde hithe ddim yn y sefyllfa ’ma.’ Tynnodd ei ffôn o’i phoced. ‘Rhoia i alwad i’r gyrrwr tacsi, a chaiff e fynd â fi ’nôl i’r stad.’

    ‘Na wnewch, wir,’ meddai’r tad. ‘Af i â chi. Dyna’r peth lleia galla i ’i neud. Cer ’nôl i’r gwely, Celyn, a phaid â dihuno dy fam.’

    ‘Morrissey,’ meddai Seimon Picton-Jones, wrth i Anna gau ei gwregys diogelwch yn y car. ‘Enw anarferol ffor’ hyn.’

    ‘Ydy,’ atebodd Anna. ‘Fy enw priod i. Ar ôl i fi ysgaru, penderfynais i gadw’r enw os nad y gŵr.’

    ‘Doedd ddim chwant arnoch chi fynd ’nôl i’ch enw cyn priodi?’

    ‘Nag oedd. Dyw Chiddy ddim yn enw sy’n fy ysbrydoli. Mae teulu ’nhad yn dod o Wlad yr Haf, lle maen nhw’n arbenigo mewn cyfenwau rhyfedd. Yn fy arddegau, ro’n i’n ysu am gael bod yn Tomos, yn Williams neu’n Jones.’ Gwelodd ef yn gwenu o gornel ei llygad.

    ‘Seimon Jones o’n i’n wreiddiol. Y wraig ddaeth â’r Picton gyda hi. Mynnodd ei rhieni ein bod yn ei ddefnyddio. Crachach, ch’weld. Ond dwi’n credu iddyn nhw ddifaru ar ôl C’mon Midffîld.’

    ‘Buoch chi’n lwcus. Gallai fod yn waeth o lawer.’ Pwysodd Anna ’nôl yn y sedd ledr a gwylio’r dref yn gwibio heibio. Roedd e’n yrrwr da, diogel. Doedd hi ddim wedi gyrru ers iddi adael Mal, ac roedd yn dal i weld eisiau cael ei chludiant ei hun. Eisteddodd i fyny pan ddaeth cyrion y stad i’r golwg.

    ‘Dyw e ddim yn bell nawr,’ meddai. ‘Fyddwch chi’n cofio’r ffordd ’nôl?’

    ‘Dwi ddim yn mynd i’ch gadael chi i chwilio am Llio ar eich pen eich hunan,’ daeth yr ateb pendant, a phan brotestiodd Anna, ychwanegodd, ‘’Sbosib eich bod chi’n bwriadu cerdded i lawr bob stryd? Mae’r lle ’ma fel drysfa Hampton Court.’

    ‘Ydy,’ cytunodd Anna, ‘ond ar y llaw arall, mae gyda chi gar drud a bydd e’n denu sylw. Bydden i’n gyndyn iawn i’w adael e am unrhyw gyfnod.’

    ‘Cynddrwg â ’ny? Falle byddwn ni’n lwcus nawr, ac yn ei gweld hi ar y ffordd.’ Felly, gan deithio’n araf, aethant o stryd i stryd, â’r ffenestri ar agor, yn pipo i bob cornel ac yn gwrando’n astud. Chwinciai’r goleuadau Nadolig o ambell dŷ, ac unwaith, dilynasant sŵn cerddoriaeth uchel, gan feddwl eu bod yn agos i leoliad y parti nes iddynt sylweddoli taw o gar llawn pobl ifanc y deuai. Diflannodd hwnnw’n gyflym o’u golwg a’u clyw. Ceisiodd Anna weld map o’r stad yn ei meddwl, er mwyn sicrhau eu bod yn chwilio’n drylwyr, ond ni aethant heibio i’r un tŷ tebygol, na gweld Llio chwaith. Cnodd Anna ei gwefus, a sylweddoli bod Seimon yn edrych yn bryderus arni.

    ‘Mae’n ddrwg ’da fi,’ meddai. ‘Dyw pethe ddim yn edrych yn obeithiol.’

    ‘Peidiwch â digalonni, Anna. Mae hi yma’n rhywle. Oes warws gwag neu rywbeth tebyg yn y cyffinie – y math o le bydden nhw’n ei ddewis i gynnal parti?’ A hithau ar fin dweud nad oedd dim byd fel yna, cofiodd Anna ei bod wedi gweld tŷ gadawedig yn ddiweddar. Roedd bois y cyngor wrthi’n rhoi’r sgriniau metel dros bob drws a ffenest er mwyn atal sgwatwyr, wrth iddi frysio heibio ar ei ffordd adref rhyw brynhawn. Ymhle y gwelodd hi’r tŷ?

    ‘Oes, dwi’n credu,’ meddai’n bwyllog. ‘Ond bydd angen i ni ddilyn y ffordd o’r fflatiau i’r arhosfan fysiau.’

    Yr eiliad y gwelodd y tŷ, gwyddai Anna nad oeddent wedi gyrru heibio iddo o’r blaen, ac roedd yn rhaid iddynt wrando’n astud i glywed dwndwr tanddaearol llinell fas y gerddoriaeth dros injan y car. Parciodd Seimon yr ochr arall i’r stryd a diffodd y goleuadau. Trodd ati.

    ‘Hwnna yw e, ife?’ Amneidiodd Anna yn y tywyllwch. O’r tu allan, edrychai’r lle fel petai wedi’i selio’n dynn, ond mewn ambell fan, deuai gwawr o olau gwan trwy’r tyllau pitw yn y sgriniau dros y ffenestri.

    ‘Mae’n rhaid bod ’na ddrws cefn,’ murmurodd. ‘’Sdim golwg fod neb wedi dadsgriwio’r sgrin oddi ar y drws blaen.’

    ‘Cwtsiwch lawr!’ gorchmynnodd Seimon yn sydyn. Suddodd Anna’n ddyfnach i’w sedd, a gwnaeth ef yr un peth. Trwy hanner gwaelod ffenestr y gyrrwr, gwelodd griw o bobl mewn dillad tywyll, cycyllog yn ymddangos ar y llwybr a arweiniai at ardd gefn yr adeilad. Roeddent yn cerdded yn hamddenol, os braidd yn simsan, i lawr y stryd. Arhosodd Seimon nes eu bod wedi troi’r gornel.

    ‘Tri yn llai i orfod ymdopi â nhw,’ sibrydodd. ‘Odych chi’n barod?’ Dringodd Anna o’r car, gan grynu wrth i’r oerfel daro’i hwyneb. Edrychodd drwy’r ffenest a gweld Seimon yn ymbalfalu dan y dash. Gwelodd hi’n edrych a chwifio tortsh fach yn fuddugoliaethus. Ymhen dim, roeddent wrth yr iet ac yn dilyn ei golau gwan ar hyd blaen y tŷ ac i lawr y llwybr lle ddaeth y tri hwdi. Yn y pen draw, fflapiai drws pren yn y gwynt, a gwthiodd Seimon ef yn ofalus gan edrych drwodd cyn galw Anna ar ei ôl. O bryd i’w gilydd, roedd pelydr y dortsh wedi goleuo’r barrug ar y borfa a cherrig y pafin. Nawr, yn yr ardd gefn gul, disgynnodd ar gebl trydan a orweddai fel neidr ar draws y tipyn lawnt. Diflannodd i’r düwch dros y ffens ar y gwaelod.

    ‘Beth sy lawr fan ’na?’ sibrydodd Seimon.

    ‘Garejys, fwy na thebyg,’ atebodd Anna. ‘Bydd y cyngor wedi diffodd popeth wrth gau’r tŷ. Gallwch chi fentro ’u bod nhw’n benthyg trydan i weithio’r peiriannau CD. Mae batris yn ddrud!’ Gwelodd ef yn ysgwyd ei ben.

    ‘Dyfeisgar . . .’ murmurodd, a throi ei sylw at y drws cefn. Am eiliad, meddyliodd Anna fod y cyngor wedi anghofio rhoi sgrin fetel drosto, ond na, roedd hwnnw’n pwyso’n daclus yn erbyn y wal. Tybiai y byddai trefnwyr y parti’n ei roi yn ôl yn ei le drannoeth, heb ddefnyddio’r holl sgriwiau, er mwyn medru cael mynediad haws y tro nesaf. Nid oedd hyn yn ddim byd newydd ar y stad. Sbeciodd Anna drwy’r sgrin agosaf, ond nid oedd golau na symudiad i’w weld tu mewn.

    ‘’Sgwn i faint ohonyn nhw sy ar ôl yn y tŷ?’ gofynnodd yn dawel. Nid atebodd Seimon. Roedd e’n syllu trwy’r panel gwydr yn y drws, â’i ddwylo bob ochr i’w wyneb.

    ‘Mae ’na ganhwylle’n llosgi,’ atebodd. ‘’Na beth yw’r golau welon ni o’r car.’ Camodd yn ôl a gafael yn y ddolen. Pwysodd arni a’i gwthio’n araf. Agorodd y drws heb wneud llawer o sŵn, ond gallai fod wedi gwichian fel mochyn heb i neb glywed, oherwydd roedd y sŵn o’r tu mewn yn fyddarol. Hwyrach am fod y drysau a’r ffenestri a’u gwydr dwbl yn weddol newydd, a bod y sgriniau metel o’u blaen, cadwyd y sŵn o fewn y tŷ. Tynnodd Seimon wep arni, a chamodd y ddau i mewn i’r pasej cefn. Taflodd Anna gipolwg gyflym drwy ddrws y gegin wag. Stafell sgwâr, gweddol

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1