Dod Nôl at fy Nghoed
By Carys Eleri
()
About this ebook
Related to Dod Nôl at fy Nghoed
Related ebooks
Bron yn Berffaith Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCat - Y Pump Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsPaid â Bod Ofn Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsTim - Y Pump Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsDrwy Fy Llygaid I Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsRhyngom - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2022 Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyfres Zoella: Merch Ar-Lein ar Daith Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsTami - Y Pump Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsGolygon Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsBrychan Llyr - Hunan-Anghofiant: Hunan-Anghofiant Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsRhyfeddod Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsEigra: Hogan Fach o'r Blaena Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsMeddwl am Man U Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsHannah-Jane Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsRobyn - Y Pump Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsAniq - Y Pump Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsY Seren Uwch fy Mhen Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsHi oedd fy Ffrind Rating: 4 out of 5 stars4/5Stori Sydyn: Meddyliau Eilir Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsPorth Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsY Nendyrau Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsAllan â Fo! Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsDarllen yn Well: Ymwybyddiaeth Ofalgar - Canllaw Pen-Tennyn Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsGalar a Fi Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsY Delyn Aur Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsJwg ar Seld Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsMynd Adra'n Droednoeth Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsSaith Oes Efa - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2014 Rating: 5 out of 5 stars5/5Y Sw Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsStori Sydyn: Hiwmor Nigel Rating: 0 out of 5 stars0 ratings
Reviews for Dod Nôl at fy Nghoed
0 ratings0 reviews
Book preview
Dod Nôl at fy Nghoed - Carys Eleri
I Mami a Nia
xxx
Diolch i Meleri a phawb yn y Lolfa am neud i fi fynd ati i sgrifennu a wynebu hyn i gyd. Roedd yn fraint.
Hoffwn ddiolch i fy ffrindiau oll, yn rhai hen a newydd, am y cariad a’r gofal drwy’r cyfnodau anodd.
A diolch i ti Dadi, am bopeth. Ac am y môr o gariad fydd byth yn ein gadel.
Caru ti.
Argraffiad cyntaf: 2021
© Hawlfraint Carys Eleri a’r Lolfa Cyf., 2021
Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon llungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw
Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru
Lluniau’r clawr: Celf Calon
Cynllun y clawr: Sion Ilar
Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978 1 80099 109 5
eISBN: 978-1-80099-198-9
Cyhoeddwyd, rhwymwyd ac argraffwyd yng Nghymru gan
Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE
gwefan www.ylolfa.com
e-bost ylolfa@ylolfa.com
ffôn 01970 832 304
ffacs 832 782
Cynnwys
RHAGAIR
Y DDERWEN
Y FFAWYDDEN
YR YWEN
Y DDERWEN
COEDEN AFALAU
COEDEN EWCALYTPWS
BIT OLA’R LLYFR
RHAGAIR
Wel, ma’r
roaring
twenties ’di bod yn eitha boring so ffâr, on’d y’n nhw? Wy’n cychwyn sgrifennu’r llyfr ’ma mewn cyfnod clo, felly pwy a ŵyr beth fydd pethe fel ymhen blwyddyn. Ond un peth sy’n saff, ma’n dealltwriaeth ni o beth ma’r gair ‘normal’ yn ei olygu, ac wedi ei olygu i ni, wedi ca’l ei daflu lan i’r awyr a’i fwrw ffwl-pelt mas i’r bydysawd – ac ma hwnnw, yn ôl y sôn, yn tyfu ar raddfa esbonyddol, so sdim gobeth gwbod pryd welwn ni fe ’to! (O’dd rhaid i fi gwglo’r gair Cymraeg am exponential, sai erioed ’di gweud exponential growth yn Gymraeg o’r blaen. Ond dyma fi – BAM! Paragraff un: yn siarad am dyfiant esbonyddol y bydysawd! Credu bo well i fi ga’l nap nawr.)
Rhoddodd y cyfnod clo cynta amser i fi dawelu a phrosesu’r dair blynedd o’dd wedi arwain ato. Tair blynedd sy wedi ca’l cymaint o effaith arna i. Ma’n anodd credu sut all person brofi cymaint o bethe mewn cyfnod mor fyr. Ma fe ’di bod yn amser eitha mind-blowing o ran llwyddiant a thristwch, hapusrwydd ac anobaith, ac ma bywyd wedi dysgu cymaint o wersi i fi ar y ffordd. Ma jyst bod yn aelod o’r ddynolryw ar y ddaear hon yn brofiad ofnadwy o humbling, ac ma’r pandemig wedi bod yn chwyddwydr i gymaint o bethe, o ran ein harwyddocâd a’n diffyg arwyddocâd fel bodau dynol.
Fel allwch chi weld yn barod, wy’n siŵr, wy’n berson ysgafn ond yn eitha intense hefyd! Ac fel’na ma ’nheulu i. Wrth dyfu lan, fy nghartre o’dd fy hafan – gymaint o sbort – pob aelod o’r teulu yn bobol sy’n byrlymu ag adloniant, ac am fod Mami a Dadi yn athrawon o’dd addysg yn rhan annatod o’r cartre, a Dadi wastod yn siarad am wleidyddieth ac yn ysgogi fi a’n chwaer i ddarllen gymaint ag y gallen ni. ‘Dim ond trw ddarllen allwch chi ddysgu am y byd. Ac ma deall y byd yn hollbwysig. Os nad y’ch chi’n deall y byd y tu allan i’ch bybl bach chi, pwy iws fyddwch chi i’r byd ac i genedlaethau’r dyfodol?’ A wedyn bydden ni’n torri mewn i ryw song and dance rownd y piano, gyda Mami yn dynwared Tina Turner. So, chi’n gwbod, o’dd e’n gartre… eithafol o gytbwys!
O oed cynnar iawn, ddechreues i ddysgu bod angen i ni ddefnyddio ein profiad a’n hamser prin ni ar y ddaear yma mewn ffordd bwrpasol. Wy’n cofio un tro, ar ôl break-up eitha drwg, a finne’n edrych fel y Llipryn Llwyd am yr ugeinfed diwrnod, dyma Mam yn troi ata i a gweud, ‘Ma coed tu fas y tñ ’ma wedi byw yn hirach na ti, a byddan nhw’n dal yn fyw ar ôl i ti hen adel y byd. So beth wyt ti’n mynd i neud â dy hunan?’
Fflipin ’ec.
Sdim lot o amser ’da Mam i fy emo moments i – rhwbeth sydd wedi bod yn anodd iawn iddi hi ac i finne wrth gyd-fyw yn ystod y pandemig! ‘Cer i olchi, ’nei di? Pan ti’n edrych yn ffresh, ti’n timlo’n ffresh, Carys.’ Ar ddyddie fel hyn, bydde fe’n lyfli i fod wedi gallu byw mewn cartŵn, un ble fydden i’n gallu slingo Mami oddi ar do ein tñ ni, yn yr heulwen, gyda gwên fowr ar ’yn wyneb – gan wbod y bydde hi’n dychwelyd mewn awr neu ddwy gyda’r gwynt yn ei gwallt, shoulder pads on show, a digonedd o gossip newydd i’w rannu.
Mae ein hiraeth ni am Dad – David Owen Evans – yn dal ei afel ar y tñ yma. Mae ei bresenoldeb, a’i ddiffyg presenoldeb, i’w deimlo o’n hamgylch ni drw’r amser. A gyda thawelwch y byd yn y pandemig, mae ein hiraeth amdano wedi cydio hyd yn oed yn fwy.
Mae colli’r holl gyfleoedd hynny i greu bwrlwm ac i fwrw mlân gyda bywyd yn llorio rhywun ac wedi ein gorfodi ni i stopio ac i wynebu’r pethe mowr, y pethe na allwn ni ddianc rhagddyn nhw. Mae galar wastod yn mynnu ei le, ei ofod haeddiannol i ni fyfyrio. Allwn ni dreial ei osgoi e am amser byr, ond fydd e wastod yno yn aros ei dro i ga’l ei glywed a’i wisgo. Ac mae’r cyfnod yma wedi bod yn annaturiol o dawel, bron yn greulon o dawel. Wy’n estyn fy nghariad dyfnaf i’r teuluoedd a brofodd golled yn ystod y pandemig, heb allu profi’r peth symla, fel ca’l coflaid gan ffrind i leddfu’r boen, heb sôn am y pethe mowr fel angladd ddilys. Dathliad teilwng o fywydau pobol ry’n ni’n eu caru yn ein cymunedau.
Er i fi brofi sawl colled, do’dd neb mor agos nac yn fwy annwyl i fi na fy nhad, a fu farw yn Awst 2018 o gymhlethdodau yn ymwneud â’r afiechyd creulon, Motor Neurone Disease.
Dad o’dd fy ffan mwya i, yn fy nghefnogi i drw’r amser. Fe hefyd o’dd fy hoff critic i. Bydde Dadi byth yn ofn gweud ei fod e’n ‘bored to death’ tra o’dd e’n gwylio rhyw ddrama y bydden i ynddi. ‘O’t ti’n dda, paid ca’l fi’n rong. Ond yffarn dân! Be sy’n bod ar y bobol ’ma?! ’Na beth o’dd sothach!’
Hileriys.
Ac i fod yn onest – er nad o’dd e’n medru gweud yn gwmws pam o’dd y ddrama’n sothach – o’dd e wastod yn iawn. Sdim rhaid chi fod wedi neud cwrs ôl-radd mewn sgrifennu creadigol a strwythuro i ddeall a yw rhwbeth yn gweithio neu beidio.
Wy’n cofio sioe un-fenyw ’nes i ble o’dd ’yn ffrind i’n canu rhwng y monologau. Er bo Dadi yn fachan tawel, o’dd e’n lico cantorion â phresenoldeb a lleisie MOWR – lwcus iddo fe, yn byw ’da Mami, Nia a fi. O’dd perfformiad y gantores hon yn fwy cynnil a thawel, gwerinol ac annwyl. Popeth o’dd yn neud i Dadi edrych ar ei watsh yn rili animated yn y gynulleidfa pan o’n i ddim yn siarad. Y peth yw, o’dd e ddim yn anoio fi wrth neud hyn – er ’i fod e’n anghwrtais – o’dd e’n ticlo fi’n binc. O’dd Dad yn craco fi lan, achos o’dd e’n foi mor ffeind ac annwyl ac yn anhygoel o onest – yn rhy onest falle mewn sefyllfaoedd fel hyn! Alla i ddim dechre mynegi faint o’n i, a faint wy’n dal i’w garu fe. O’dd Mami arfer gweud pan o’n i’n toethan am rwbeth neu’i gilydd: ‘Ond wrth gwrs, so dy dad yn gallu neud dim byd yn rong i ti!’
O’n i fel coala bêr a Dadi fel coeden. Ta pryd o’n ni ’da’n gilydd, bydden i’n cwtsho lan iddo fe, fel ’se ddim fory i ga’l. A fi mor falch taw dyna yw’n atgofion i. O’dd Dadi byth yn rhy swil i weud faint o’dd e’n caru fi a’n chwaer, a ninne ’nôl wrtho fe. Gafodd dim un gair o gariad ei atal rhag ca’l ei rannu rhyngddon ni. Ac ma ’na hud a lledrith mewn gwbod hynny – rhwbeth wy ddim yn ei gymryd yn ganiataol achos lwc pur yw bodoleth pawb.
Carys Eleri
Ionawr 2021
Y DDERWEN
Coeden cryfder, dewrder, doethineb…
ac amser.
Pan o’n i’n dechre mas yn actio, a finne heb asiant na fowr o gyswllt o gwbwl gyda’r byd teledu, bydde Dadi yn amal yn gwylio’r teledu ac yn gofyn ‘pam so ti ar y rhaglen ’ma?’ Bydden i wastod yn rhesymu ’da fe nad o’n i’n gwbod lle o’dd dechre ca’l troed i fewn ‘i fod ar y teli’, a finne ddim yn byw yn y ddinas fowr ar y pryd, a dim ond bach iawn o waith theatr ar fy CV. Ac er bod y sgyrsie ’ma’n rhwystredig iawn i’r ddau ohonon ni, o’n nhw hefyd yn galonogol iawn am fod Dadi wastod yn dangos pa mor angerddol o’dd e’n credu yn fy nhalentau a ’ngalluoedd i. ’Mond ar ôl ei golli wy wedi llawn werthfawrogi pŵer yr hyn o’dd e’n ei neud, yn arllwys hyder i fewn i’n isymwybod i, ac yn gosod yr her i fi lwyddo hefyd.
Athro chwaraeon o’dd Dadi. Un o’r rhai anarferol hynny – o’dd pawb yn dwli arno fe, p’un a o’n nhw’n sêr y dyfodol yn y byd chwaraeon neu beidio! Ac wy wedi colli cownt o’r bobol sydd wedi dod ata i ar hyd y blynydde – cyn, ac ar ôl ei golli – i weud faint o’dd e’n ei olygu iddyn nhw. O’dd e’n uchel ei barch oherwydd yr o’dd e’n dangos parch a diddordeb ym mhob un person o’dd e’n cwrdd â nhw. Wy’n cofio bod allan yn Abertawe rhyw noson a daeth un boi ata i i weud:
‘I hated sport, hated it – would always, you know, forget my kit… But your dad was never angry. He knew things weren’t right with me, so he’d always say that it was OK to sit it out, but to use the hour to do something else to do with school, something I really wanted to do.’
O’dd e’n gweld ochor fregus pobol ifanc, ac yn eu gwarchod nhw – o’dd ei glyfrwch emosiynol wastod yn amlwg i fi. Fe nath dylanwad fy nhad gyffwrdd â sawl un o’i gyn-ddisgyblion ar hyd eu hoes. Ma’r caredigrwydd yna yn aros ’da phobol am byth. O’dd Dad ddim yn gweld pwynt mewn cosbi – addysg a charedigrwydd o’dd yr allwedd bob tro. O’dd e wastod yn annog y sawl o’dd yn serennu mewn chwaraeon i dalu sylw i bynciau erill hefyd, ac i ddarllen. Wastod darllen. Achos bydde’r pethe bach a’r pethe mowr fyddech chi’n eu dysgu mewn meysydd gwahanol ac mewn llyfre yn eich helpu chi, ac yn dylanwadu arnoch chi ar y cae chwaraeon – ac ma hynny’n wir am bob maes arall ’fyd. Drychwch fel ma darllen llyfre a chylchgrone gwyddonol wedi newid ’yn game-plan i fel perfformiwr. A tasen i’n mynd mlân i weithio mewn sector arall yn y dyfodol, bydde fe’n handi iawn fanna ’fyd. Alla i glywed Dad nawr yn gweud ‘Der mlân! Iwsa dy ben!’ O’dd clyfrwch yn bwysig, ac o fewn gafel pawb. O’dd e’n annog pawb i fanteisio ar bob cyfle i ehangu eu meddyliau cymaint ag y gallen nhw trwy ddarllen tu allan i’w maes diddordeb nhw, ac i DEITHIO.
Sagittarius yw star sign Mami a ’niweddar dad. Wy’n deall yn iawn os y’ch chi’n un o’r rheini sydd ffili diodde siarad am star signs ac sy ishe taflu’r llyfr ’ma at y wal yn gweiddi ‘un funed mae’n siarad am dwf esbonyddol a’r nesa mae’n rhwygo’n enaid i’n ddau wrth siarad am horosgôps!’ Sori, bois, fi jyst yn well-rounded, chi’mod?! So eniwei, i’r rhai sy’n credu yn y pethe ’ma – dyw pobol â’r un star signs ddim bob amser yn dod mlân yn dda. Cancerian ydw i, ac yn ôl yr astrolegwyr (nid astronomegwyr) o fri, bydde bod mewn perthynas gyda Cancerian arall jyst ddim yn gweithio – ond ma dau Sagittarius yn gweithio’n dda iawn ’da’i gilydd. Dau centaur – dau berson sydd wastod on the move. O’dd Meryl a David wastod on the move, yn CARU teithio. Ni ddim yn deulu materialistic, y peth mwya gwerthfawr i ni o’dd ca’l profiadau hyfryd a chreu atgofion lliwgar. A dysgu. Fi’n cofio ca’l lot o anrhegion unwaith neu ddwywaith adeg Nadolig, ac alla i gofio un neu ddau anrheg penodol, ond dyw pethe byth yn sefyll yn y cof ’da fi, lle ma profiadau positif yn creu atgofion sy’n serennu ar hyd llwybrau amser. Buon ni i gymaint o wledydd fel teulu, a neud llyfr prosiect neu lyfr sgrap ar bob un lle ar ôl dod adre (dysgu a theithio) i danlinellu popeth fydden ni wedi’i weld – syniad Mam yn bennaf oedd hyn, yn gwbod nid yn unig y bydde neud y llyfr yn addysgiadol, ond y bydde fe’n beth hyfryd i’w gadw ac i’w gofio am byth. Eto, dim ond nawr wy’n gwerthfawrogi pwysigrwydd y dasg yna, er nad o’dd hi’n ‘dasg’ i fi a’n chwaer – o’n i’n joio rhoi’r llyfre yna at ei gilydd. Maen nhw’n gofnod manwl o bob man ethon ni ac mae e mor neis gweld plant yn prosesu llefydd a diwylliannau erill, gyda’u calonnau a’u llyged yn hollol agored.
Fy ngwylie teuluol cynta i dramor o’dd yn 1984, a finne’n ddwy flwydd oed. Ethon ni i Iwgoslafia. Sai’n cofio dim byd rili, ond ma ’na ddwy stori amdana i ar y trip yna sydd wedi goroesi, achos o’dd Mam a Dad wrth eu bodd yn eu hailadrodd nhw – ddylen nhw fod yn embarasing, ond fi’n credu eu bod nhw mor ffyni. O’dd Mam a Dad yn dwli blasu bwyd newydd, ond o’n i ond yn ddwy flwydd oed ac o’dd dim llawer o ddewis o bethe cyfarwydd i fi fyta yn y wlad honno. Felly, ’nes i fyta lot fowr o ffrwythe – ond o’n i’n amlwg yn gweld ishe’r bwyd o’n i’n arfer ca’l ’nôl yng Nghymru. (Cofiwch, o’dd hyn yng nghanol yr wythdegau, pan o’dd dim shwt beth â babyccinos a babis yn byta olives.) Felly un noson, o’dd y nawfed darn o watermelon a banana ddim yn ddigon i fi ac fe ddechreues i lefen – lot. Aeth Mam lawr i gegin y gwesty a gofyn i’r chef a fydde ots ’da fe neud platied o dato wedi potsho i fi, a disgrifio sut o’dd neud hynny – yn amlwg fi wastod ’di caru tato potsh. Llai na awr yn ddiweddarach, o’dd cnoc ar y drws a’r cogydd ei hun wedi dod i’r stafell â phlat arian mowr yn cynnwys MYNYDD o dato potsh – jyst i fi. Gafaelodd Mami yn y plat a throi ata i a gweud, ‘Edrych beth sy ’di dod i ti, cariad.’ A finne heb lawer o eirfa yn ddwy flwydd oed, ond yn deall yn iawn beth o’dd platied anferth o dato, dyma fi’n edrych ar y mynydd gyda fy llygaid yn llydan agored, yn byrlymu â chyffro a gweiddi’r gair ‘BWYD’ yn rili, rili uchel. Yn ôl y sôn, ‘gladdes’ i’r tato i gyd mewn chwinc cyn cwmpo i gysgu yn drwm ac yn hapus iawn.
Y bore wedyn, o’dd hi’n bryd i Mami a Dadi ga’l fi a’n chwaer yn barod i fynd i lan y môr. Ac mae’n gallu bod yn waith caled i ga’l unrhyw blentyn o A i B. Colli stwff, angen tñ bach, ymladd dros beth i’w wisgo, angen bwyd, tantryms – a hwnna i gyd cyn gadel y tñ! Dyma nhw’n stwffo’n bygi i gyda blancedi, towelion, inflatables, eli haul, bwyd a diod ayb, a Dadi yn cario fi dan un fraich a gwthio’r bygi â’r llaw arall. Roedd Nia’n gafel yn llaw Mami – o’dd braich arall Mami yn llawn dop gyda chant a mil o bethe. Ar ôl tua ugain eiliad o gerdded, dechreues i gonan, ‘Dadi! Toilet!’ O’dd Dadi yn ffeind ac yn amyneddgar ei ymateb gan weud, ‘Deg muned fach nawr, cariad, OK?’ BOB TRO. O’dd yr haul yn tâno, y chwys yn arllwys oddi ar ei dalcen ac o’dd e’n