Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Stori Sydyn: Dau Frawd, Dwy Gêm: Stori'r Cabangos
Stori Sydyn: Dau Frawd, Dwy Gêm: Stori'r Cabangos
Stori Sydyn: Dau Frawd, Dwy Gêm: Stori'r Cabangos
Ebook61 pages1 hour

Stori Sydyn: Dau Frawd, Dwy Gêm: Stori'r Cabangos

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

Ben and Theo Cabango are two mixed-race brothers from Cardiff, and both are rising stars in the sporting world. Ben plays football for Swansea FC and has been included in the Welsh team squad, while the younger brother, Theo is a promising rugby player. We follow their stories through 4 different perspectives - the two brothers and their parents.
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateJun 20, 2022
ISBN9781800992603
Stori Sydyn: Dau Frawd, Dwy Gêm: Stori'r Cabangos

Read more from Dylan Ebenezer

Related to Stori Sydyn

Related ebooks

Reviews for Stori Sydyn

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Stori Sydyn - Dylan Ebenezer

    cover.jpg

    Dau Frawd, Dwy Gêm: Stori’r Cabangos

    Dylan Ebenezer

    ISBN: 978-1-80099-260-3

    Argraffiad cyntaf: 2022

    © Dylan Ebenezer a’r Lolfa, 2022

    Mae Dylan Ebenezer wedi datgan ei hawl dan Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 i gael ei gydnabod fel awdur y llyfr hwn.

    Cedwir pob hawl. Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn, na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy, na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng, electronig, electrostatig, tâp magnetig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio nac fel arall, heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan y cyhoeddwyr, Y Lolfa, Talybont, Ceredigion, Cymru.

    Mae’r prosiect Stori Sydyn/Quick Reads yng Nghymru yn cael ei gydlynu gan Gyngor Llyfrau Cymru a’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru.

    Argraffwyd a chyhoeddwyd gan

    Y Lolfa, Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    gwefan www.ylolfa.com

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    ffacs 832782

    BEN

    Diolch i glwb Maindy

    Corries y dechreuodd fy nghariad at bêl-droed. Nhw oedd y clwb reit ar bwys ein tŷ ni yng Nghaerdydd, dim ond rhyw bum munud i ffwrdd.

    Roedd Mam eisiau i fi fynd i ddiwrnod agored yno, ond do’n i ddim rili eisiau mynd, a dwi’n cofio crio a chrio. Dyw Mam byth yn strict fel arfer, ond y tro yma roedd hi’n benderfynol, a dwedodd hi,

    Os ei di, byddi di’n caru fe!

    Ac roedd hi’n iawn. Fel arfer.

    O’n i’n fachgen eitha swil pan o’n i’n fach, ond roedd chwarae pêl-droed wedi newid hynny. Roedd mynd i’r diwrnod agored yn beth mawr i fi ar y pryd ac roedd e’n bendant wedi helpu gyda fy hyder. Er bo’ fi’n nerfus iawn cyn mynd, unwaith roedd y bêl wrth fy nhraed roedd popeth yn iawn. A dwi wedi caru pêl-droed ers hynny ac yn edrych ymlaen at fynd i chwarae bob amser.

    Dechreuodd Dad hyfforddi gyda’r Corries wedyn, ac roedd hynny’n help mawr i fi. Roedd e wastad yn gwthio fi i neud yn well. Roedd y criw i gyd yn chwarae’n dda ac roedd llawer ohonon ni’n siarad Cymraeg, felly o’n ni’n grŵp agos iawn. A dwi’n dal i siarad â llawer ohonyn nhw’n rheolaidd hyd heddiw. Mae pêl-droed yn ffordd wych o neud ffrindiau.

    Roedd hi’n braf cael Dad yn hyfforddi ond o’n ni’n dau yn dadlau lot ar y cae, a hefyd ar ôl y gemau. Roedd e wastad yn trio rhoi cyngor i fi – a dyna oedd y broblem fwyaf. Do’n i ddim eisiau gwrando ar Dad ar y pryd, i fod yn onest. Ond nawr, wrth edrych ’nôl, dwi ddim yn credu bydden i’n chwarae i Abertawe ac i Gymru heb yr help yna. Er bo’ fi ddim eisiau gwrando arno!

    Mam oedd yn gwthio fi i fynd i’r pêl-droed ond Dad oedd yr un cystadleuol. O’n i hefyd eisiau ennill trwy’r amser ac mae fy mrawd Theo yr un peth yn y byd rygbi. Dyna un o’r pethau mwyaf pwysig mae Dad wedi’u dysgu i ni.

    O’n ni’n byw reit rownd y gornel o Barc Hailey yng Nghaerdydd, ac mae ’na gwrt i chwarae tennis yna. I fan’na o’n ni’n arfer mynd pan oedd yr haul mas. Ond do’n i ddim eisiau chwarae yn erbyn Dad achos doedd e byth yn gadael i fi a Theo ennill! O’n i wastad yn rhedeg bant, yn ôl i’r tŷ, yn crio. Ond roedd hwnna’n gyfnod grêt, ac yn lot o sbort. Er ein bod ni’n crio weithiau wrth golli, pan dwi’n meddwl ’nôl nawr roedd e wedi neud lles i ni. Roedd Dad wastad yn trio’n cael ni i neud yn well, ym mhob peth o’n ni’n neud.

    Mae Mam yn wahanol. Mae hi mor relaxed am bopeth. Fyddech chi byth yn dweud ei bod hi’n arfer bod yn bencampwr Taekwondo Prydain pan oedd hi’n ifanc! Dyw hi ddim yn dangos e’n aml, ond dwi’n credu bod gyda hi bach o dymer. Ond mae’n rhaid ei bod hi’n gystadleuol hefyd i fod yn bencampwr.

    Ysgol Pencae oedd fy ysgol gyntaf, ac roedd chwaraeon mor bwysig i fi yn y dyddiau cynnar. Un o’r pethau dwi’n cofio fwyaf am fy mhlentyndod yw’r diwrnod mabolgampau. Ac fel rydych chi wedi dysgu erbyn hyn, ie, o’n i eisiau ennill popeth. Roedd y bragging rights yn rili bwysig, ac o’n i eisiau ennill yn erbyn Theo ac yn erbyn pawb arall.

    Er mwyn paratoi ar gyfer mabolgampau’r ysgol roedd Theo a fi yn arfer codi am chwech o’r gloch y bore a dechrau ymarfer yn yr ardd. O’n ni’n adeiladu cwrs bach yn y cefn er mwyn neud circuits a wedyn yn rhedeg o gwmpas y bloc er mwyn paratoi ar gyfer y diwrnod mawr.

    Er bo’ fi eisiau ennill mwy o rasys na Theo do’n ni ddim yn cystadlu yn erbyn ein gilydd achos y gwahaniaeth oedran. Os oedd e’n rasio o’n i wastad eisiau gwylio. Ac os oedd e’n ennill, bydden i eisiau ennill ras fi hefyd. Roedd e’n gallu rhedeg yn gyflym iawn o’r dechrau. Ond ychydig bach o hwyl oedd y cystadlu i gyd rhwng Theo a fi, dim ond banter, a dweud y gwir – fel wrth chwarae reslo WWE ar y trampolîn neu neud stynts yn yr ardd. Ond pan oedd y mabolgampau yn cyrraedd roedd

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1