Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Cyfres Rygbi: 4. Gwibiwr Rygbi
Cyfres Rygbi: 4. Gwibiwr Rygbi
Cyfres Rygbi: 4. Gwibiwr Rygbi
Ebook147 pages2 hours

Cyfres Rygbi: 4. Gwibiwr Rygbi

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

The fourth title in a series of rugby novels for 9-11 year olds. Owain is looking forward to another year of playing rugby at Graig-wen. Of course, another ghost from the past comes to disturb him. A Welsh adaptation by Gwenno Hughes.
LanguageCymraeg
Release dateOct 30, 2020
ISBN9781845243319
Cyfres Rygbi: 4. Gwibiwr Rygbi
Author

Gerard Siggins

Gerard Siggins was born in Dublin in 1962. Initially a sports journalist, he worked for many years in the Sunday Tribune, where he became assistant editor. He has written several books about cricket and rugby. His Rugby Spirit series has sold over 65,000 copies and is hugely popular with sports-loving children around the world. Gerard regularly visits schools to talk about his books.

Read more from Gerard Siggins

Related to Cyfres Rygbi

Related ebooks

Related categories

Reviews for Cyfres Rygbi

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Cyfres Rygbi - Gerard Siggins

    llun clawr

    GWIBIWR RYGBI

    DARGANFOD HANES,

    DATRYS DIRGELWCH

    Gerard Siggins

    Addasiad Gwenno Hughes

    Gwasg Carreg Gwalch

    Gwych.

    Sunday Independent

    Ganwyd Gerard Siggins yn Nulyn ac mae wedi byw yng nghysgod Lansdowne Road am y rhan fwyaf o’i oes. Bu’n mynychu gemau rygbi yno ers iddo fod yn ddigon bychan i’w dad ei godi dros y giatiau tro. Gohebydd chwaraeon yw ei waith ac mae wedi gweithio i’r Sunday Tribune am nifer o flynyddoedd. Mae addasiadau o’i lyfrau eraill am y chwaraewr rygbi Owain Morgan – Ysbryd Rygbi, Rhyfelwr Rygbi a Rebel Rygbi – wedi’u cyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch.

    Cyhoeddwyd gyntaf yn Iwerddon dan y teitl Rugby Flyer yn 2016 gan yr O’Brien Press

    © O’Brien Press

    © Gerard Siggins

    Argraffiad Cymraeg cyntaf: 2019

    addasiad: Gwenno Hughes 2019

    Cedwir pob hawl.

    Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn, na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy, na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng, electronig, electrostatig, tâp magnetig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan y cyhoeddwyr,

    Gwasg Carreg Gwalch, 12 Iard yr Orsaf, Llanrwst, Dyffryn Conwy, Cymru LL26 0EH.

    ISBN elyfr: 9781845243319

    ISBN clawr meddal: 9781845276263

    Cyngor Llyfrau Cymru

    Cyhoeddwyd gyda chymorth Cyngor Llyfrau Cymru

    Dylunio: Eleri Owen

    Cyhoeddwyd addasiad Cymraeg gan Wasg Carreg Gwalch, 12 Iard yr Orsaf, Llanrwst, Dyffryn Conwy, Cymru LL26 0EH

    Ffôn: 01492 642031

    e-bost: llyfrau@carreg-gwalch.cymru

    lle ar y we: www.carreg-gwalch.cymru

    Argraffwyd a chyhoeddwyd yng Nghymru.

    Troswyd i e-lyfr gan Almon.

    Cyflwyniad

    I Nancy Young a’r diweddar John Young.

    Cydnabyddiaeth

    Diolch i fy nheulu oll, sy’n caniatáu i mi gael gofod ac amser i ysgrifennu am anturiaethau Owain. Diolch hefyd i bawb yn The O’Brien Press am eu help a’u cefnogaeth, ac yn enwedig i Helen ac Emma am fynd y filltir ychwanegol. Diolch i’m holl ffrindiau a’m cyd-weithwyr sy’n fy helpu mewn nifer o ffyrdd, yn enwedig Paul Howard, Alison Martin, Maureen Gillespie, Fergus Cassidy, Joe Coyle, Fionnuala McCarthy, Eoin Branningan, John Greene, Brian Flanagan a Jack White. Deuthum ar draws Obolensky yn wreiddiol drwy ddarllen darn gan ohebydd gwych y Guardian, y diweddar Frank Keating, a’m hysbrydolodd i ymchwilio i hanes nifer o fabolgampwyr rhagorol eraill hefyd.

    Pennod

    Un

    Roedd llaw Owain yn crynu wrth iddo gydio yn y llythyr. Nid oherwydd bod logo glas unigryw ‘Rygbi’r Gleision’ ar yr amlen, nac oherwydd bod ei fam a’i dad, ill dau, wedi dod allan i’r cyntedd i weld beth oedd gan y postmon iddo a’u bod yn syllu’n ofalus arno. Roedd gan Owain syniad eithaf da beth fyddai cynnwys y llythyr, ond nid oedd o’n dal yn siŵr sut y byddai o’n ymateb iddo.

    ‘O wel, nid fy adroddiad ysgol i ydi o, o leia,’ gwenodd wrth iddo rwygo’r amlen wen. Y tu mewn iddi roedd llyfryn a llythyr un dudalen, gyda dim ond dwy frawddeg wedi’u teipio arno.

    Annwyl Owain,

    Byddai Rygbi’r Gleision yn hoffi dy wahodd i fynychu Cwrs Hyfforddi Ieuenctid yn ein pencadlys ym Mharc yr Arfau, ar benwythnos 20-21 Gorffennaf. A wnei di gadarnhau a fyddi di’n mynychu neu beidio drwy gysylltu â’r cyfeiriad isod erbyn 1 Gorffennaf, os gweli di’n dda. Gad i ni wybod beth yw maint dy ddillad ac offer hefyd.

    Edrychodd Owain drwy’r llyfryn sgleiniog oedd yn llawn o luniau o Scott Andrews a Josh Navidi a’r holl chwaraewyr gwych eraill oedd wedi chwarae i’r Gleision yn ddiweddar.

    ‘Maen nhw eisiau i mi fynd i lawr i Gaerdydd am benwythnos.’ Gostyngodd ei ysgwyddau wrth iddo roi’r llythyr i’w fam.

    ‘Paid ag edrych mor hapus,’ gwawdiodd hithau. ‘Ti’n edrych fel petai rywun wedi dwyn dy fŵts di!’

    ‘O, mae hi’n goblyn o fraint, beryg. Ond …’

    ‘Tîm Rygbi Gogledd Cymru ydi dy dîm di a fyddi di’n methu wynebu Dylan os gwnei di chwarae i’r Gleision ’na i lawr yng Nghaerdydd,’ chwarddodd ei dad.

    ‘Ia, dyna fo ar ei ben,’ meddai Owain. ‘Bydd hi’n anodd torri’r arferiad o obeithio gwnaiff y Gleision golli bob tro maen nhw’n chwarae!’

    Gwenodd mam Owain a’i guro’n ysgafn ar ei gefn. ‘Llongyfarchiadau, Owain – am newyddion gwych. Wyt ti eisiau i mi eu hateb? Dwi’n siŵr na wyddost ti be ydi maint dy grys di a ballu.’

    ‘Ia, diolch, Mam,’ atebodd Owain. ‘Dwi wedi trefnu i gyfarfod Dylan yn y clwb mewn ychydig ac mae’n siŵr bydd rhaid i mi dorri’r newyddion drwg iddo.’

    Gwenodd Owain wrtho’i hun wrth iddo loncian y ffordd fer i glwb Dreigiau Dolgellau. Doedd y llythyr ddim yn newyddion drwg, wrth gwrs – roedd o’n gyfle ffantastig i ddatblygu ei rygbi gyda’r Gleision, a gallai hyd yn oed arwain at yrfa yn y gêm. Ond Tîm Rygbi Gogledd Cymru oedd Owain wedi’i gefnogi ers pan oedd o’n ddim o beth, a bu’n breuddwydio am wisgo crys du, coch ac aur y rhanbarth ers iddo ddechrau chwarae rygbi – cyn crys coch Cymru, hyd yn oed.

    Roedd un o swyddogion datblygu’r Gleision wedi cael gair gydag o ychydig fisoedd ynghynt, wrth iddo ddathlu ennill y Cwpan Iau gyda’i ysgol breswyl, Craig-wen. Bwriwyd ef oddi ar ei echel i ddechrau, ond roedd ei hyfforddwr ar ben ei ddigon ac wedi’i annog i fachu’r cyfle.

    Teimlodd ei draed yn bownsio fymryn yn uwch oddi ar y tarmac wrth iddo loncian drwy giatiau’r clwb.

    ‘Haia, Bryn!’ gwaeddodd ar y gofalwr, oedd wrthi’n brysur yn peintio llinellau gwyn ar y cae chwarae gyda theclyn roedd o wedi’i greu o ferfa wedi torri.

    ‘A, Owain sydd yna, ia?’ gwaeddodd yntau yn ei ôl. ‘Be ydi hi i fod heddiw? Y bêl gron neu’r wy?’

    Chwarddodd Owain. ‘Tipyn o’r ddau,’ atebodd. ‘Bydda i’n gweithio ar fy nghiciau gosod y bore ’ma.’

    Ar gae Dreigiau Dolgellau y byddai Owain yn gweithio ar ei gêm a’i freuddwydion. Roedd o wastad wedi bod eisiau rhagori mewn chwaraeon, ond dim ond pan ddechreuodd o chwarae rygbi y darganfu gêm a weddai i’w anian a’i sgiliau i’r dim. Er bod ei daid wedi bod yn seren rygbi enwog yn ei ddydd, doedd Owain ddim wedi cael cyfle i chwarae’r gêm nes iddo fynd i ysgol breswyl yng Nghaerdydd, dair blynedd ynghynt.

    Roedd Owain wedi darganfod y gallai o weld a siarad gydag ysbrydion, a llwyddodd i finiogi ei sgiliau a datblygu i fod yn chwaraewr gorau ei flwyddyn yng Ngraig-wen gydag ychydig o gymorth gan ei gyfaill Dic, a oedd wedi hen farw. Y peth gwaethaf – a’r unig beth drwg am wyliau’r haf – oedd nad oedd o wedi gallu siarad â Dic, oedd yn arfer crwydro o gwmpas stadiwm Parc yr Arfau. Er ei fod wedi ymweld â Chraig-wen cwpwl o weithiau, roedd hi’n ymddangos fel bod trip i Ddolgellau yn ormod iddo.

    Aeth Owain i mewn i sied Bryn i nôl y bêl rygbi a’r bêl-droed yr oedd y gofalwr yn gadael iddo’u cadw yno. Wrth iddo ddod allan o’r sied, clywodd ru wrth i Bryn redeg ar ôl ffigwr cyfarwydd oedd yn croesi’r cae.

    ‘Hei Owain, deud wrtho fo am adael llonydd i mi!’ chwarddodd Dylan wrth i’r hen ddyn godi dwrn arno.

    ‘Pwyll rŵan, hogia,’ meddai Owain. ‘Be sy’n digwydd fan hyn?’

    Pwyntiodd Bryn at y llinell ystlys roedd o newydd ei pheintio’n gelfydd ond a oedd bellach yn llanast llwyr.

    Syllodd Owain ar draed Dylan. Gallai weld streipen wen fawr ar ei fŵt chwith.

    ‘Dim ond eisiau gweld sut byddai o’n edrych o’n i,’ meddai Dylan gydag ychydig o gywilydd.

    Arthiodd Bryn. ‘Os gwnei di hynna byth eto, mi … mi …’ meddai, cyn rhoi’r gorau i feddwl am sut i gosbi Dylan. Byddai Bryn ddim yn brifo neb, byth bythoedd, amen.

    ‘Mae’n ddrwg gen i,’ atebodd Dylan. ‘Wna i roi help llaw i chi gyda’r rhwydi nes ymlaen.’

    ‘Paid â phoeni,’ chwarddodd Bryn. ‘Ond bydda i’n gwybod pwy i’w awgrymu pan fyddan nhw’n chwilio am lumanwr newydd!’

    Pennod

    Dau

    Piciodd Owain a Dylan i Siop Cadwgan i brynu potel o ddŵr ar ôl yr ymarfer. Eisteddodd y ddau ar fainc y tu allan, yn torri eu syched a gwylio’r byd yn mynd heibio.

    ‘Felly beth ydi dy gynlluniau di ar gyfer yr haf, Owain?’ holodd Dylan. ‘Wyt ti’n mynd i gael joban? Clywais i eu bod nhw’n chwilio am hogia i gasglu ffrwythau ar y fferm ’na y tu ôl i’r hen ffatri wlân. Mae hogia’r clwb pêl-droed i gyd yno ac mae yna ddigon o hwyl – dydi’r cyflog ddim yn ddrwg chwaith.’

    ‘Na, mae Dad eisiau i mi helpu ar y fferm a bydd gen i ddim digon o amser i gael joban iawn,’ atebodd Owain.

    ‘Pam ddim? Wyt ti’n mynd ar dy wyliau neu rywbeth?’

    ‘Na … wel, ddim go iawn …’

    Roedd Dylan ychydig bach yn amheus erbyn hyn a syllodd ar Owain.

    ‘Dwi’n gorfod mynd i Gaerdydd am rai dyddiau, ella ’chydig bach yn hirach,’ cyfaddefodd Owain. ‘Ar gyfer rygbi.’

    ‘Ydi o’n rhywbeth i’w wneud efo’r ysgol?’ gofynnodd Dylan.

    ‘Nadi,’ atebodd Owain, gan sylweddoli y byddai’n rhaid iddo gyfaddef. ‘Rhywbeth i’w wneud efo’r Gleision ydi o.’

    ‘Y Gleeeeeeision?’ udodd Dylan. ‘Beth ’sgen ti i’w wneud efo nhw?’

    ‘Wel, dim, mewn gwirionedd,’ meddai Owain. ‘Dim eto, beth bynnag.’

    ‘Eto?’ holodd Dylan, oedd yn dechrau mwynhau’r ffaith bod ei groeshoeliad yn gwneud Owain yn anghyfforddus.

    ‘Wel, ches i ddim cyfle i ddweud hyn wrthyt ti … ond daeth un o hyfforddwyr y Gleision i fyny ata i wedi ffeinal y Cwpan Iau. Cefais lythyr ganddo heddiw yn gofyn a wna i fynd i lawr atyn nhw ar gyfer y penwythnos hyfforddi ’ma.’

    ‘Ond Tîm Rygbi Gogledd Cymru ydi’n tîm ni!’ meddai Dylan, gan smalio ei fod o’n flin.

    ‘Wn i, wn i, ond maen nhw wedi gofyn i mi a dydw i ddim eisiau gwrthod.’

    ‘Wel, mae’n siŵr cei di hyfforddiant da a ballu – wnaiff o ddim drwg, beryg. Ond y Gleeeeeeision?’

    Cododd y ddau. ‘Dwi am biciad i weld sut mae Taid,’ dywedodd Owain. ‘Wyt ti eisiau dod hefo mi?’

    ‘Ydw. Dydw i heb weld Dewi ers oes pys,’ meddai Dylan. ‘Dwi wrth fy modd yn mynd i’w weld o. Mae o’n un da am ddweud straeon.’

    Roedd taid Owain, Dewi Morgan, yn hen chwaraewr rygbi enwog. Roedd o’n arfer bod yn gyn-seren yn ysgol Craig-wen ond fel roedd o ar fin chwarae i Gymru, collodd ei wraig

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1