Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Alys yn y Canol
Alys yn y Canol
Alys yn y Canol
Ebook156 pages1 hour

Alys yn y Canol

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

Megan can't wait to go to the Summer Camp with Alys, her best friend. But when Alys meets a new friend at the camp, Megan feels left out. Eleri Huws's Welsh adaptation of Alice in the Middle by Judi Curtin.
LanguageCymraeg
Release dateSep 20, 2020
ISBN9781845243357
Alys yn y Canol
Author

Judi Curtin

Judi Curtin is the best-selling author of the ‘Alice and Megan’ series, the 'Eva' series and the 'Time After Time' series, about Beth and Molly, time-travelling best friends. Judi won the Children's Book of the Year (Senior) at the Irish Book Awards in 2017 for Stand By Me. Her 'Lily' series is set in Lissadell House, Sligo in the early twentieth century, while the 'Sally' series is set among the Irish emigrant community in New York of the same era. Sally in the City of Dreams was shortlisted for the An Post Irish Book Awards 2023

Read more from Judi Curtin

Related to Alys yn y Canol

Related ebooks

Related categories

Reviews for Alys yn y Canol

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Alys yn y Canol - Judi Curtin

    Cyhoeddwyd yn wreiddiol gan Wasg O’Brien Cyf., Dulyn, Iwerddon: 2007

    Teitl gwreiddiol: Alice in the Middle

    ©  testun: Judi Curtin 2007

    ©  darluniau: Woody Fox 2007

    Cynllun clawr: Nicola Colton

    Cyhoeddwyd yn Gymraeg drwy gytundeb â Gwasg O’Brien Cyf.

    Cyhoeddwyd yn Gymraeg gan Wasg Carreg Gwalch 2018

    Addasiad: Eleri Huws

    Cedwir pob hawl.

    Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn, na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy, na’i drosglwyddomewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng, electronig, electrostatig, tâp magnetig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan y cyhoeddwyr, Gwasg Carreg Gwalch, 12 Iard yr Orsaf, Llanrwst, Dyffryn Conwy, Cymru LL26 0EH.

    ISBN elyfr: 9781845243357

    ISBN clawr meddal: 9781845276461

    Cyhoeddwyd gyda chymorth Cyngor Llyfrau Cymru

    Dylunio’r clawr Cymraeg: Eleri Owen

    Cyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch, 12 Iard yr Orsaf, Llanrwst, Dyffryn Conwy, Cymru LL26 0EH.

    Ffôn: 01492 642031 |e-bost: llyfrau@carreg-gwalch.cymru | lle ar y we: www.carreg-gwalch.cymru

    Argraffwyd a chyhoeddwyd yng Nghymru

    images_LogoCyngorLlyfrau2019_DU.jpg

    Cyflwynedig i

    Mary, Declan, Caroline a Kieran

    Pennod 1

    images_AM1.jpg

    Pan ddeffrais y bore hwnnw, ro’n i’n gwenu fel giât – fel sy’n digwydd weithiau pan ry’ch chi wedi breuddwydio am rywbeth hapus. Ond, yn sydyn, sylweddolais nad breuddwydio ro’n i, a neidiais mas o’r gwely’n llawn egni. Agorais y llenni, a sbecian drwy’r ffenest. Roedd yr awyr yn rhyw liw llwyd tywyll, a’r glaw yn curo’n galed ar y gwydr, ond do’n i ddim yn becso. Roedd heddiw’n mynd i fod yn ddiwrnod gwych – diwrnod gorau fy mywyd!

    Rhuthrais i lawr y staer i’r gegin, lle roedd Mam yn troi’r uwd â llwy bren.

    ‘Diwrnod mawr heddiw,’ meddai.

    Nodiais, gan fethu dweud ’run gair. Eisteddais wrth y bwrdd yn fy lle arferol.

    ‘Fe fyddwn ni’n dy golli di,’ meddai Mam yn dawel.

    Ac yn sydyn, roedd y cyfan yn ormod i mi. Neidiais ar fy nhraed, rhuthro at Mam, a rhoi clamp o gwtsh iddi hi. Ac unwaith ro’n i wedi agor fy ngheg, llifodd y geiriau mas yn ddi-stop.

    ‘O, Mam!’ llefais. ‘Mae hyn mor, mor, mor gyffrous! Dwi’n mynd i’r gwersyll haf . . . ac mae Alys yn dod hefyd . . . fe fydd e’n hollol wych . . . a byddwn ni’n gwneud pethe grêt bob dydd ac . . .’

    ‘Ac wyt ti’n mynd i’n colli ninnau hefyd?’ holodd Mam.

    Ysgydwais fy mhen, cyn sylwi mor drist roedd Mam yn edrych. ‘Wel,’ dywedais yn gyflym, ‘mae’n debyg y bydda i’n colli pawb ar y dechrau . . .’

    Gwenodd Mam a dweud, ‘ond dwyt ti ddim yn debygol o ffonio i ofyn i Dad a fi ddod i gasglu di?’

    ‘Dim gobaith!’ atebais, gan roi cwtsh arall iddi hi.

    ‘Wel, wel,’ meddai Mam, ‘mae fy merch fach wedi tyfu lan ac yn mynd i ffwrdd hebddon ni am y tro cynta. Nawr stedda i lawr a bwyta’r uwd ’ma, neu chei di ddim mynd i unman!’

    Ro’n i’n teimlo’n rhy hapus i ddadlau gyda Mam, felly llowciais yr uwd organig, di-flas, yn gyflym gan wenu wrth feddwl am y 21 diwrnod gwych, di-uwd, oedd yn ymestyn o ’mlaen i!

    Ar ôl brecwast, rhuthrais i’m stafell wely i orffen pacio, ac erbyn un ar ddeg ro’n i’n barod i fynd. Caeais fy sach gefn a’i chario i’r cyntedd lle roedd Mam yn aros amdana i, a’r olwg ‘dwi’n gwenu ond yn drist’ ar ei hwyneb.

    ‘Dwi’n barod,’ dywedais. (Jest rhag ofn nad oedd hi wedi sylwi!)

    ‘Reit,’ meddai Mam, a dechrau mynd drwy’r rhestr yn ei llaw. ‘Wyt ti wedi pacio brwsh a phast dannedd?’

    Nodiais.

    ‘Oes gen ti ddigon o ddillad isa glân?’

    Nodiais eto.

    ‘A’r top newydd roddodd Anti Mair i ti?’

    Er i mi nodio, ro’n i’n dweud celwydd y tro hwn. Roedd y top ges i gan Anti Mair yn gwbl erchyll – un oren a phinc, wedi’i addurno â llwyth o ffrils hyll. Ro’n i wedi llwyddo i’w guddio o dan y fatras heb i Mam sylwi.

    ‘A digon o siwmperi twym?’

    ‘A llyfr i’w ddarllen?’

    ‘Ac eli haul?’

    A llond sach o losin a siocled?

    Ddywedodd Mam mo hynny, wrth gwrs! Dim ond mam ‘normal’ fy nychymyg fyddai’n dweud peth felly! Roedd fy mam go-iawn i’n dal i fynd ’mlaen a ’mlaen . . .

    ‘A het haul?’

    ‘A chot law?’

    Edrychais yn ddiamynedd ar fy wats. Ro’n i mewn peryg o golli’r bws, ac os byddai hynny’n digwydd fyddai dim taten o wahaniaeth o’n i wedi cofio popeth ai peidio . . .

    Yr eiliad honno clywais gloch y drws yn canu, a thrwy’r gwydr gallwn weld siâp cyfarwydd. Diolch byth, roedd Alys wedi cyrraedd – a fues i ’rioed mor falch o weld neb!

    Agorais y drws a cherddodd hi i mewn. ‘Popeth yn barod gen ti?’ gofynnodd.

    ‘Shhh,’ sibrydais, ‘neu fe Mam yn dechrau eto!’

    Yna, mewn llais cryfach, dywedais, ‘Gawn ni fynd nawr, Mam?’

    ‘Cewch, sbo,’ meddai, a golwg bryderus ar ei hwyneb. ‘Wyt ti’n berffaith siwˆr bod popeth gen ti?’

    ‘Ydw, dwi’n addo. Rhaid i ni fynd nawr neu fe fyddwn ni’n colli’r bws.’

    Ar y gair, daeth Dad a Seren fy chwaer fach i lawr y staer a dringodd pawb i mewn i’n hen groc o gar. Safodd tad Alys ar stepen y drws ffrynt i godi’i law arnon ni.

    Pam, o pam, na allai fy nheulu innau wneud hynny, yn hytrach na mynnu dod at y bws i ffarwelio? Pam oedd raid i mi wastad edrych fel taswn i’n dianc o syrcas deithiol?

    Ond gwenodd Alys arna i, ac yn sydyn anghofiais am bopeth heblaw ’mod i’n mynd i’r gwersyll haf am dair wythnos. Doedd dim byd arall yn bwysig – hyd yn oed y ffaith taw Mam a Dad yw’r bobl lleia cwˆl yn y byd i gyd yn grwn.

    *   *   *

    Hanner awr yn ddiweddarach, dechreuodd y bws symud yn araf o’r orsaf bysiau. Roedd Dad a Seren yn chwifio’u dwylo’n wyllt, a Mam yn gwneud ei gorau glas i ddal y dagrau’n ôl. Am eiliad ro’n i’n teimlo trueni drosti hi, ond wrth feddwl am yr amser grêt roedd Alys a fi’n mynd i’w gael, buan iawn yr anghofiais am Mam druan.

    Ro’n i’n dal i fethu credu ei bod wedi gadael i mi fynd yn y lle cyntaf. Un pnawn, ro’n i wedi gofyn iddi mewn rhyw lais di-hid, ‘Maaaam, mae Alys yn mynd i wersyll haf am dair wythnos yn y gwyliau. Ga i fynd hefyd – pliiis?’ Wrth gwrs, ro’n i’n disgwyl iddi hi restru cant a mil o resymau pam na chawn i fynd, a mynnu taw syniad twp oedd yr holl beth. Dychmygwch fy sioc, felly, pan atebodd. ‘Wrth gwrs y cei di, bach!’

    Efallai ei bod yn rhy brysur yn meddwl am ryw lysiau organig newydd i’w tyfu yn yr ardd . . . neu bod gwres yr haul wedi effeithio arni. Ond yr unig beth oedd yn bwysig i mi oedd bod Mam wedi cytuno!

    Roedd hynny wythnosau’n ôl, wrth gwrs, ac erbyn hyn roedd Alys a fi’n ddiogel ar y bws. Drwy’r ffenest, gwyliais nes bod Mam, Dad a Seren yn ddim mwy na thri smotyn bach ar y gorwel cyn gweiddi, ‘Hwrê! Dwi’n rhydd o’r diwedd!’

    Am y tro cyntaf y bore hwnnw, gadewais i mi fy hun ymlacio. Ro’n i’n gwbl sicr bod y tair wythnos nesa’n mynd i fod yn grêt. Roedd Alys a fi wedi edrych ar wefan y gwersyll gannoedd o weithiau, ac yn gwybod popeth am y lle. Bydden ni’n cael cyfle i wneud pob math o chwaraeon, a chymryd rhan mewn helfa drysor a chystadleuaeth goginio. Ac ar ddiwedd y gwyliau roedden nhw’n trefnu disgo gwych. Do’n i erioed wedi bod mewn disgo o’r blaen, ac roedd meddwl am y gerddoriaeth a’r goleuadau llachar yn gwneud i mi deimlo’n gyffrous iawn.

    Ar y daith, estynnais am lyfryn y gwersyll o’r bag a’i ddarllen am y canfed tro. Roedd y lle’n cynnig pedair gêm wahanol – pêl-rwyd, tennis, hoci a phêl-droed. Roedd yn rhaid i bawb ddewis un ‘brif’ gêm gan y bydden ni’n treulio tair awr bob bore yn ei chwarae.

    ‘Ry’n ni wedi dweud taw pêl-rwyd fydd ein prif gêm, yn do?’ gofynnais i Alys.

    ‘Do, yn sicr,’ cytunodd Alys. ‘Fe benderfynon ni hynny reit o’r dechrau. Mae’r ddwy ohonon ni’n mwynhau pêl-rwyd, a byddwn ni’n ei chwarae yn yr ysgol uwchradd ym mis Medi. Man a man i ni gael tipyn o hyfforddiant cyn hynny. Dwyt ti ddim wedi newid dy feddwl, yn nagwyt?’

    ‘Naddo, siwˆr,’ atebais. Do’n i erioed wedi chwarae pêl-droed na hoci, a dwi’n anobeithiol am chwarae tennis, felly ro’n i’n hapus bod Alys a fi’n cytuno.

    ‘Trueni bod Gwawr a Lois yn methu dod, ontefe?’ meddai Alys, wrth i ni droi tudalennau’r llyfryn.

    Er ’mod i wedi nodio, do’n i ddim yn cytuno â hi. Mewn gwirionedd, ro’n i’n falch bod y ddwy’n rhy hwyr yn gwneud cais am le a bod y gwersyll yn llawn. Maen nhw’n ferched hyfryd, ac roedden nhw’n garedig iawn wrtha i pan oedd Alys yn dal i fyw yng Nghaerdydd – ond y gwir oedd ’mod i’n edrych ’mlaen at gael Alys i mi fy hun am dair wythnos gyfan.

    Roedden ni wedi cael blwyddyn anodd rhwng popeth. I ddechrau, roedd rhieni Alys wedi gwahanu, a bu raid iddi hi symud i fyw yng Nghaerdydd am sbel gyda’i mam a’i brawd bach, Jac. Cafodd Alys drafferth i ymdopi gyda’r sefyllfa, a bu’n meddwl am bob math o gynlluniau hanner call a dwl i gael ei rhieni’n ôl gyda’i gilydd. Ond, diolch byth, roedd hynny i gyd y tu ôl i ni bellach, ac Alys yn byw yn Aberystwyth unwaith eto.  A nawr roedden ni ar ein ffordd i’r gwersyll haf am dair wythnos gyfan o hwyl a sbri.

    *   *   *

    Cymerodd dros ddwy awr i ni gyrraedd y gwersyll, ond gan fod Alys a fi mor brysur yn siarad doedd y daith ddim yn teimlo’n hir o gwbl.

    Pan stopiodd y bws, roedd dyn mewn bws mini yn aros i fynd â ni weddill y ffordd i’r gwersyll, oedd mewn plasty mawr ar gyrion Caerdydd. Roedden ni’n methu deall pam taw ni oedd yr unig rai ar y bws mini, ond yn rhy swil i ofyn i’r gyrrwr.

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1