Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Eliffant yn Eistedd ar Enfys
Eliffant yn Eistedd ar Enfys
Eliffant yn Eistedd ar Enfys
Ebook88 pages39 minutes

Eliffant yn Eistedd ar Enfys

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

An ABC list of ideas by Casia Wiliam aimed at inspiring children to write their own poetry.
LanguageCymraeg
Release dateOct 30, 2020
ISBN9781845243524
Eliffant yn Eistedd ar Enfys
Author

Casia Wiliam

Casia Wiliam is a former Bardd Plant Cymru and author of multiple books for this age group. She won the 2021 Welsh-language Primary Tir na n-Og award for Sw Sara Mai (Y Lolfa), and was shortlisted again the following year for Sara Mai a Lleidr y Neidr (Y Lolfa). She has been particularly commended for her sensitive treatment of issues of race and identity.

Read more from Casia Wiliam

Related authors

Related to Eliffant yn Eistedd ar Enfys

Related ebooks

Reviews for Eliffant yn Eistedd ar Enfys

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Eliffant yn Eistedd ar Enfys - Casia Wiliam

    Cyflwyniad

    Casia Wiliam

    Ydych chi eisiau clywed cyfrinach? Mae llawer o blant Cymru yn meddwl bod ysgrifennu barddoniaeth yn anodd ac yn ddiflas! Bobol Bach! Dyna pam es i ati i ysgrifennu’r llyfr hwn; er mwyn dangos i chi bod darllen ac ysgrifennu barddoniaeth yn gallu bod yn hawdd ac yn llawer o hwyl, a bod pob un ohonom yn gallu ysgrifennu cerdd.

    Dwi wedi sylwi hefyd bod llawer o athrawon gwych yn ddihyder pan mae’n dod at farddoni, felly mae’r llyfr hwn yn llawn sesiynau a gweithgareddau syml, byr, y medrwch eu gwneud yn y dosbarth ar brynhawn Gwener, yn ystod amser cinio gwlyb, neu hyd yn oed ben bore dydd Llun!

    Y gyfrinach ydi bwrw iddi, peidio poeni, a mwynhau.

    Felly ewch ati a chyn pen dim bydd pob un ohonoch yn gwirioni ar farddoni, fel fi!

    Casia

    Anifeiliaid

    A

    Mae ‘Anifeiliaid’ yn thema wych ar gyfer cerdd – mae pawb yn gwybod rhywbeth am anifeiliaid. Efallai fod gen ti anifail anwes adref, neu fod gan rywun arall yn y teulu anifail anwes. Efallai dy fod wedi bod am drip i’r sw neu am dro i’r parc ac wedi gweld anifeiliaid anhygoel.

    Beth yw dy hoffi anifail, a pham? Dewisia un anifail ac ysgrifenna ei enw ar ganol dy bapur. Wedyn, llenwa dy bapur gydag ansoddeiriau i’w ddisgrifio. Sut mae’n edrych? Ydi o’n flewog? Ydi o’n llyfn? Pa liw yw ei groen neu ei gôt? Sut mae’n teimlo? Sut fath o sŵn mae’n ei wneud? Sut mae o’n ymddwyn? Sut mae o’n symud? Sut un ydi o? Ydi o’n ffyrnig? Ydi o’n addfwyn? Yn filain? Yn hoffi hel mwythau? Dyma gyfle da i hel llond trol o syniadau!

    Yna, dos ati i greu cerdd syml gan ddefnyddio’r holl ansoddeiriau. Mae enghraifft i ti islaw – gelli ddilyn yr un patrwm os yw’n haws. Cofia nad oes raid i’r gerdd odli!

    Bobi

    Bobi Bobi bwni wen,

    Ti yw’n ffefryn dan y nen.

    Clustiau hirion,

    synau gwirion,

    cynffon bwt,

    trwyn bach twt.

    Bobi Bobi bwni wen,

    ti yw’n ffefryn dan y nen.

    Edrychwch! Gallwch ailadrodd mewn cerddi.

    Be wela i?

    B

    Darllenwch y gerdd Be wela i? gan Anni Llŷn efo’ch gilydd fel dosbarth.

    Be wela i?

    Dwi’n y car,

    fy nhrwyn wedi ei wasgu

    i weld y byd yn mynd heibio.

    Heibio.

    Heibio.

    Fy nhro i ydi o!

    "Mi wela i efo’n llygaid bach i …

    … rhywbeth yn dechrau efo … A!"

    Awyr?

    Aderyn?

    Arwydd yn mynd heibio’n sydyn?

    Arth?

    Arian?

    Annwyd Anti Marian?

    Adeilad?

    Angor?

    Aaa! … Afon Dwyfor?

    Amlen?

    Allwedd?

    Afal ar y sedd?

    Anghenfil?

    Anifail?

    Asyn heb ei ail?

    Angel?

    Anrheg?

    Tydi hyn ddim yn deg!

    Daliwch ati, daliwch ati …

    ’dan ni bron iawn yna.

    Dyma ni …

    A am adra.

    Anni Llŷn

    Ar ôl i chi ei darllen, ewch ati fel dosbarth i ysgrifennu cerdd sydd yn dechrau yn union yr un fath, ond y tro hwn, wrth chwarae Mi wela i efo’n llygaid bach i, bydd rhywbeth yn dechrau efo … B!

    Ar ôl creu cerdd B gyda’ch gilydd fel dosbarth, mae’n amser i ti roi cynnig arni dy hun. Fedri di ysgrifennu cerdd Mi wela i efo’n llygaid bach i … rhywbeth yn

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1