Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Cyfres Pen Dafad: Rhyfel Cartref
Cyfres Pen Dafad: Rhyfel Cartref
Cyfres Pen Dafad: Rhyfel Cartref
Ebook114 pages1 hour

Cyfres Pen Dafad: Rhyfel Cartref

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

Manon lives with her mother and grandfather since her parents separated. Three years went by without a word from her father but she was lucky to have the support of her good friend, Kirsty. Then, one afternoon whilst going home on the bus, she saw him - her father was back! Tall, dark and handsome. She couldn't believe her eyes.
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateJul 27, 2012
ISBN9781847715647
Cyfres Pen Dafad: Rhyfel Cartref

Related to Cyfres Pen Dafad

Related ebooks

Related categories

Reviews for Cyfres Pen Dafad

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Cyfres Pen Dafad - Gwenno Hughes

    Rhyfel%20Cartref%20-%20Gwenno%20Hughes.jpg

    Argraffiad cyntaf: 2011

    © Hawlfraint Gwenno Hughes a’r Lolfa Cyf., 2011

    Golygyddion Pen Dafad: Alun Jones a Meinir Edwards

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon i lungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw

    Comisiynwyd y gyfrol gyda chymorth ariannol Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

    Cynllun y clawr: Y Lolfa

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978 1 84771 349 0

    E-ISBN: 978-1-84771-564-7

    fsc-logo%20BACH.tif

    Cyhoeddwyd, rhwymwyd ac argraffwyd yng Nghymru gan

    Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    gwefan www.ylolfa.com

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    ffacs 832 782

    Pennod 1

    Cododd Manon ei phen o’r sinc a syllu arni hi ei hun yn y drych uwchben y bath. Agorodd ei llygaid llwydlas led y pen.

    O na! Plis, Duw, na…

    Roedd ei gwallt yn biws. Piws tywyll. Piws anhygoel o afiach!

    ‘Brown tywyll ydi o i fod!’ bytheiriodd Manon. ‘Brown, dim piws! Dy fai di ydi hyn, Kirsty! Chdi ddudodd wrtha i am adael y lliw i mewn yn hirach na mae o’n ’i ddeud ar y bocs!’

    ‘Ro’n i’n meddwl bysa fo’n cydio’n well,’ ebychodd Kirsty a golwg ’di dychryn yn ei llygaid gwyrdd.

    ‘Wel, roeddat ti’n meddwl yn rong, doeddat?’ mygodd Manon sgrech. ‘A be dwi’n mynd i’w wneud?’

    Ymosododd Manon ar ei gwallt gyda pheipen y gawod. Dechreuodd siampwio fel hogan wyllt ond doedd dim symud ar y piws.

    ‘Dwi’n sori. Dwi mor, mor sori,’ meddai Kirsty mewn llais bach, bach. ‘Dim ond trio helpu o’n i.’

    ‘Aiff Mam yn bananas!’

    ‘Yli, paid â phoeni. Mae’r lliw i fod i olchi allan ar ôl wyth golchiad. Dyna mae o’n ddeud ar y bocs.’

    ‘Ddaru ni ddim dilyn y cyfarwyddiada, naddo?’ llefodd Manon o ganol cwmwl o swigod siampŵ. ‘Ddaru ni adael o mlaen yn hirach nag oedd o i fod. Mae Mam yn mynd i’n lladd i…’

    ‘Dwi’m yn gwybod pam roeddat ti eisiau’i liwio fo yn y lle cynta,’ meddai Kirsty.

    ‘Digon hawdd i chdi ddweud hynny a chditha’n blond! Ond dwi’n jinjar, dydw! A phwy sydd eisiau bod yn jinjar?’

    ‘Mae o’n well na phiws,’ cynigiodd Kirsty.

    Melltiodd llygaid Manon a chaeodd Kirsty ei cheg yn glep ac estyn tywel iddi. Anwybyddodd Manon hi gan ddal i sgrwbio’i gwallt.

    ‘Fedra i ddim mynd i’r ysgol fory yn edrych fel’ma,’ llefodd Manon. ‘Bydd pawb yn chwerthin am fy mhen i…’

    Cliciodd drws ffrynt 2, Bryn Gwyrfai yn agored a nofiodd llais heulog Nansi Morris i fyny’r grisiau.

    ‘Iw-hw! Dwi adra!’

    Anghofiodd Manon bob dim am yr ysgol. Roedd ei mam ’nôl o’r gwaith a beryg na welai Manon Ysgol Glan Gwyrfai byth eto wedi i’w mam ddarfod hefo hi.

    ‘Clo’r drws, Kirsty!’ gorchmynnodd Manon.

    ‘Y?’

    ‘Clo’r drws i stopio Mam rhag dod i mewn!’

    Clywodd Kirsty Nansi Morris yn sgipio i fyny’r grisiau a chythrodd am gliced drws y stafell molchi a’i droi jest fel y glaniodd Nansi Morris ar dop y landin. Trodd Nansi Morris fwlyn y drws a ffeindio ei fod wedi’i gloi.

    ‘Pwy sy i mewn yn fan’na?’ gofynnodd.

    Edrychodd Manon a Kirsty ar ei gilydd.

    Panic!

    ‘Manon?’

    Llyncodd Manon ei phoer yn galed.

    ‘Naci? Dad? Chi sy i mewn yna ’ta?’

    ‘Mae Taid yn dal yn y gwaith,’ atebodd Manon.

    ‘O, Manon, chdi sy ’na,’ meddai Nansi Morris. ‘Wel, agor y drws, pwt. Dwi bron â byrstio eisiau mynd i’r tŷ bach!’

    Ond fentrai Manon ddim agor y drws. Edrychodd Manon ar Kirsty, ac yna ar ffenest y stafell molchi. Allai hi ddianc drwyddi? Sylweddolodd Kirsty beth oedd ei bwriad ac ysgydwodd ei phen.

    ‘Paid â bod yn jolpan!’ sibrydodd. ‘Mi dorrwn ni’n coesau wrth ddianc drwy honna!’

    ‘Be ti’n wneud i mewn yn fan’na?’ cyfarthodd Nansi Morris gan guro ar y drws. ‘Nefoedd wen! Agor y drws cyn i mi gael damwain! ‘Tyrd ’laen! Agor y drws, Manon!’

    ‘Fydd rhaid i ti wynebu dy fam rywbryd,’ meddai Kirsty. ‘Fedrwn ni ddim cuddio i mewn yn fan’ma am byth.’

    ‘Oes ’na rywun i mewn hefo chdi, Manon?’ holodd Nansi Morris.

    ‘Kirsty,’ atebodd Manon.

    ‘Wel, be dach chi’n wneud? Agorwch y drws ’ma! Reit handi!’

    Wrth iddi ddal i guro gwyddai Manon ei bod hi wedi darfod arni.

    ‘Agor y drws, Kirst,’ meddai. ‘Ond aros rhyngdda i a Mam achos gall petha fynd yn flêr.’

    Gwthiwyd y drws yn agored.

    ‘O’r diwedd!’ meddai Nansi Morris ond wrth iddi wibio i mewn, mi stopiodd yn stond pan welodd hi wallt Manon.

    Swatiodd Manon a Kirsty wrth aros am ffrwydriad fyddai fel Vesuvius.

    ‘Be… be ti wedi… Manon?’ chwiliodd Nansi Morris am y geiriau.

    ‘Wel… ym…’

    Distawrwydd.

    Dechreuodd dagrau bigo llygaid llwydlas Manon. ‘Dwi’n edrach fel Zoom,’ meddai mewn llais gwan.

    A gyda’i thrywsus coch, ei thop melyn a’i gwallt piws, mi roedd hi’n edrych fel lolipop. Ond er gwaetha’r ffaith ei bod hi wedi’i sgytio, meddalodd Nansi Morris.

    ‘Dwi’n sori, Mam,’ meddai Manon wrthi. ‘Dwi mor sori…’

    Yn hytrach na ffrwydro, agorodd Nansi Morris ei breichiau a chofleidio Manon. Chwalodd Manon yn rhaeadr o ddagrau.

    ‘Hei, dyna fo,’ cysurodd Nansi Morris hi. ‘Paid â chrio.’

    Snwffiodd Manon a chwythu’i thrwyn smwt.

    ‘Dwi wedi dweud wrthi fod yna ddim byd o’i le ar fod yn jinjar,’ meddai Kirsty. ‘Ond mi ydach chi’n gwybod sut mae hi’n casáu ei gwallt, Mrs Morris.’

    ‘Dwi’n methu dallt,’ atebodd Nansi Morris. ‘Mae o’n ddigon da i Ginger Spice a’r hogan Florence and the Machine ’na. Ac mae o’n ddigon da i mi,’ ychwanegodd gan wthio cyrlen goch strae y tu ôl i’w chlust.

    ‘Well gen inna fo na phiws hefyd,’ meddai Manon. ‘Ond dwi’n styc efo hwn rŵan! A bydd pawb yn chwerthin ar ’y mhen i…’

    ‘Na fyddan,’ cysurodd Nansi Morris hi.

    ‘Mi wnân nhw hwyl am fy mhen i yn yr ysgol!’ igiodd Manon.

    ‘Na wnân,’ mynnodd Nansi Morris. ‘A ti’n gwybod pam? Achos mi rown ni fandana o gwmpas dy wallt di tan golchith y lliw allan. Dim ond dy ffrinj di fydd yn dangos wedyn.’

    ‘Ti’n meddwl?’ gofynnodd Manon yn obeithiol.

    ‘Mi wnawn ni i ti edrych yn cŵl.’

    ‘O, Mam! Ro’n i’n meddwl bysat ti’n wyllt gacwn…’

    ‘Sut medra i fod yn wyllt gacwn hefo ti? Ges i drychineb waeth pan o’n i dy oed di.’

    ‘Be ddigwyddodd?’ holodd Manon a Kirsty ar yr un gwynt.

    ‘Mi wnes i fleachio ’ngwallt a wedyn mynd i nofio. Mi drodd fy ngwallt i’n wyrdd!’

    Edrychodd Manon a Kirsty ar ei gilydd yn syn a chwarddodd Nansi Morris. ‘Ond o leia mi ddysgais i ’ngwers a wnes i ddim cyffwrdd yn lliw ’ngwallt byth wedyn! A mi wnei ditha ’run peth, gobeithio?’

    Nodiodd Manon.

    ‘Addo? Achos mae coch yn lliw bendigedig…’

    ‘Addo.’

    Rhoddodd Nansi Morris gusan ysgafn ar dalcen Manon. ‘Falch o glywed!’ meddai. ‘Rŵan ewch allan o’r tŷ bach ’ma cyn i minna gael trychineb hefyd!’

    Pennod 2

    Roedd Manon yn cysgu’n sownd pan laniodd Nansi Morris wrth droed ei gwely.

    ‘Pen-blwydd hapus, pwt!’

    Lledodd gwên fawr dros wyneb Manon wrth iddi ymbalfalu allan o gynhesrwydd y dwfe a lledodd y wên yn un fwy fyth pan estynnodd ei mam anrheg wedi’i lapio’n gelfydd mewn papur gloyw a rhuban pinc iddi.

    ‘Fedra i ddim credu dy fod ti’n dair ar ddeg heddiw!’ ebychodd Nansi Morris. ‘Mae’n hogan fach i’n tyfu…’

    Rhwygodd Manon y papur gloyw oddi ar yr anrheg ac roedd ei llygaid fel soseri pan welodd hi beth ydoedd. Ffôn symudol ffynci – un piws! Roedd Manon wedi gwirioni! Roedd hi wedi bod eisiau ffôn symudol ers oes pys ond roedd hi’n gwybod bod arian yn dynn yn 2, Bryn Gwyrfai. Doedd joban Mam yn gweini a llnau yng Ngwesty’r Harbwr ddim yn talu rhyw lawer ac er bod Taid yn rhannu’r biliau,

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1