Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Cyfres Copa: Llanast
Cyfres Copa: Llanast
Cyfres Copa: Llanast
Ebook69 pages51 minutes

Cyfres Copa: Llanast

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

A novel for teenagers dealing with homelessness, drugs and a parent's alcoholism, where the lives of the two main characters, their friends and families follow different paths before converging.
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateMay 7, 2014
ISBN9781847719614
Cyfres Copa: Llanast

Related to Cyfres Copa

Related ebooks

Related categories

Reviews for Cyfres Copa

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Cyfres Copa - Gwen Lasarus

    Cover.jpg

    Yr Awdur

    Daw Gwen Lasarus o Sir Fôn yn wreiddiol ond mae bellach yn byw ym Methel, Arfon gyda’i gŵr. Mae hi’n fam i ddau, sef Ifan a Greta. Bu’n actores am ugain mlynedd, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ym myd llenyddiaeth yn ogystal ag astudio i fod yn athrawes ioga.

    I Jâms, fy ngŵr,

    am ei amynedd ac am ei gefnogaeth bob amser.

    I Greta, fy merch, am ei brwdfrydedd, ei diddordeb

    ac am gredu ynof i ac i Ifan, fy mab, am wneud imi chwerthin a’m hannog i gario mlaen i ysgrifennu.

    Argraffiad cyntaf: 2014

    © Hawlfraint Gwen Lasarus a’r Lolfa Cyf., 2014

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon i

    lungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac

    at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y

    cyhoeddwyr ymlaen llaw

    Cynllun y clawr: Rhys Aneurin

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978 1 84771 745 0

    E-ISBN: 978-1-84771-961-4

    Comisiynwyd Cyfres Copa gyda chymorth ariannol

    Adran AdAS Llywodraeth Cymru

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd yng Nghymru

    ar bapur o goedwigoedd cynaladwy gan

    Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    gwefan www.ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    ffacs 01970 832 782

    Y daith

    Taith ydi bywyd. Cerdded, un cam ar y tro, un goes o flaen y llall, ymlaen, ymlaen ar hyd y llwybr, dim ots pa lwybr. Mae pob un llwybr yn iawn, ti jyst yn mynd i ddysgu rhywbeth gwahanol ar bob un ac mae’n rhaid dewis bob tro. Mi fedri di eistedd a pheidio symud i nunlle, ond ble mae’r hwyl yn hynny?

    Ac mae llwybrau bob amser yn croesi ei gilydd.

    Bob tro.

    Wyt ti erioed wedi sylwi ar olion traed bach adar yn yr eira? Maen nhw’n mynd y ffordd yma, a’r ffordd arall, ymlaen ac yn ôl, ar draws, i fyny ac i lawr, o’r naill ochor i’r llall, byth mewn llinell syth.

    Ac, yn sydyn, mae ’na batrwm yn yr eira. Fel hynny mae dy lwybrau di a fi, fel ôl traed bach adar yn yr eira. Yn un patrwm mawr.

    Weithiau, fe weli di ddau lwybr yn croesi ac yn gwneud siâp X.

    Siâp cusan. Y siâp pwysicaf un. Siâp cariad.

    Ac yng nghanol y gusan, mae dau berson yn cyfarfod am y tro cynta.

    Felly, fy ffrind, mi af i â chdi ar daith, ar ddau lwybr sy’n cyfarfod yng nghanol un gusan.

    Sbeic

    Dim pres. Roedd pob dim yn flêr. Roedd Sbeic ar y ffôn efo Hi.

    Helô, helô?

    Dim sŵn, jyst sŵn anadlu, ’run fath â mewn ffilmiau.

    Plis deud rhwbath. Plis.

    Anadlu’n araf. Cau’r ffôn. Clep i’r drws, ac ar ei feic. Whiiiiiiiiiii… i lawr yr allt.

    Armi o frêcs. Red Arrows yn hedfan.

    Sbeic a’i fêts oedd Arwyr y Lôn Fawr, yn rasio fel ffyliaid.

    Sbeic enillodd y ras.

    Mewn i’r siop.

    Pedwar can o lagyr, mêt.

    On your bike! meddai dyn y siop.

    Fedra i ddim, ma gen i byncjar!

    Chwarddodd yr hogia fel sgrech y waltzers. A chwarddodd Sbeic hefyd.

    Ac yna tecst ganddi Hi.

    Arnat ti £1,000 i mi, mêt. Tu allan i Spar mewn awr. Dallt? Dallt????

    Cnoi gwm yn galad wnaeth Sbeic.

    Llanast. Meddwl. Methu meddwl am ddim. Sbio ar y cloc ar ei ffôn.

    58 munud i fynd.

    Dianc, roedd raid i Sbeic ddianc oddi wrth y llais ar y ffôn. Aeth ar ei feic a phedlo i fyny’r allt am ei dŷ.

    Dympiodd y beic y tu allan i’r drws ffrynt, ac edrychai fel sgerbwd hen geffyl yn gorwedd yno.

    Sylwodd ar gyrtans net tŷ drws nesa yn symud. Roedd y ddynes yno wedi bod yn ei wylio fo a’i dad a’i fam ers iddyn nhw symud i fyw i’r tŷ.

    Ti isio llun? gwaeddodd Sbeic at y cyrtans net drws nesa. Caeodd y cyrtans net yn sydyn fel tasa’r cyrtans eu hunain wedi dychryn.

    Gwenodd Sbeic iddo fo’i hun. Hen ddynes fusneslyd. Roedd yn iawn iddi gael ceg weithiau, dysgu gwers iddi. A gwyddai yn ei galon y byddai’n ei cholli pan fyddai’n bell i ffwrdd yn nes ymlaen y noson honno. Byddai’n hiraethu am ei feic, a’i fam a’i dad, a’i frawd bach a’r pysgodyn aur a enillodd yn y ffair. Doedd o

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1