Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Cyfres Annalisa: Annalisa Swyn Seren y Sioe
Cyfres Annalisa: Annalisa Swyn Seren y Sioe
Cyfres Annalisa: Annalisa Swyn Seren y Sioe
Ebook84 pages28 minutes

Cyfres Annalisa: Annalisa Swyn Seren y Sioe

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

Annalisa Swyn is special because she's different. Her mum is a fairy and her dad is a vampire and she's a bit of both. It's almost time for the vampire ball, and Annalisa can't wait! There's just one problem: she's got to compete in a talent show with the other vampire children. Annalisa's talents aren't very vampire-y, what if the audience laugh at her? Bravery is the key...
LanguageCymraeg
PublisherRily
Release dateSep 20, 2021
ISBN9781849678834
Cyfres Annalisa: Annalisa Swyn Seren y Sioe

Read more from Harriet Muncaster

Related to Cyfres Annalisa

Related ebooks

Related categories

Reviews for Cyfres Annalisa

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Cyfres Annalisa - Harriet Muncaster

    ‘Mae hi’n nosi’n gynharach bob dydd,’ meddai Dad gan sbecian drwy’r ffenest ar yr awyr dywyll. ‘Mae hi bron yn amser cynnal Dawns y Fampirod!’

    Fampir yw Dad, ac mae e’n dwlu gweld y dyddiau’n byrhau, yr aer yn oer a ffres, a’r dail crin yn crensian dan draed.

    ‘Dy hoff noson o’r flwyddyn!’ meddai Mam, oedd wrthi’n brysur yn rhoi dŵr i’r planhigion ar sil y ffenest. Tylwythen Deg yw Mam (a gyda llaw, mae hynny’n golygu taw hanner tylwythen deg, hanner fampir ydw i!) ac mae hi wrth ei bodd gyda byd natur. Mae’n tŷ ni wastad yn llawn o flodau.

    ‘Ie wir,’ atebodd Dad gan lapio’i fraich amdana i. ‘Ac fe fydd hi’n noson fwy arbennig fyth eleni – mae Annalisa’n ddigon hen i ddod hefyd!’

    ‘Waw! Alla i ddim aros,’ llefais, ‘na Bwni Binc chwaith! Fe fydd hi’n cael dod, yn bydd?’ Bwni Binc oedd fy hoff degan, ond defnyddiodd Mam ei hud a lledrith i’w gwneud hi’n fyw – a nawr mae hi’n dod i bobman gyda fi.

    ‘Wrth gwrs,’ meddai Dad, ‘ond bydd raid iddi wisgo clogyn fampir go iawn.’

    ‘Dim problem,’ atebais yn llawn cyffro.

    Dechreuodd Dad yfed ei sudd coch. Fel pob fampir, dyw e ddim ond yn bwyta ac yfed bwydydd coch. ‘Mae ’na un peth arall,’ meddai. ‘Bydd y ddawns eleni’n un arbennig iawn. Mae’n cael ei chynnal ar noson lleuad waed!’

    ‘Lleuad waed? Beth yn y byd yw hynny?’ holais.

    ‘Mae’n digwydd pan mae’r lleuad yn isel yn yr awyr,’ esboniodd Mam. ‘Mae’r Ddaear yn symud rhwng yr haul a’r lleuad, gan wneud i’r lleuad dywynnu’n goch. Mae’n hardd iawn.’

    ‘Ydy,’ cytunodd Dad, ‘a dyw Dawns y Fampirod heb gael ei chynnal ar noson lleuad waed er pan o’n i’n grwtyn bach. I ddathlu, mae’r holl fampirod ifanc wedi cael gwahoddiad i baratoi eitem i’w pherfformio o flaen pawb. Rhyw fath o gystadleuaeth ’Sgen ti dalent? fydd hi!’

    ‘Cystadleuaeth?’ gofynnais yn bryderus.

    ‘Ie,’ atebodd Dad, ‘ond does dim rhaid i ti fecso. Fe fyddi di’n siŵr o feddwl am rywbeth hollol wych. A galli di gydweithio gydag un o’r fampirod bach eraill os wyt ti’n moyn.’

    ‘Ond does gen i ddim ffrindiau fampir!’ dywedais. ‘Dwi’n mynd i ysgol plant go iawn!’

    ‘Ie, wel, does dim problem,’ dywedodd Dad. ‘Galli di wneud rhywbeth ar ben dy hun. Dim ond rhyw gant neu ddau o fampirod fydd yno,’ ychwanegodd gan lyncu’r sudd

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1