Cymru Mewn 50 Cerdd
()
About this ebook
Related to Cymru Mewn 50 Cerdd
Related ebooks
Rhywle Fel Hyn Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsAtgofion drwy Ganeuon: Nôl Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsMeini Llafar Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsClywed Cynghanedd - Cwrs Cerdd Dafod Rating: 3 out of 5 stars3/5Llwybrau Ddoe Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsGwaith Alun Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsStagio Dre Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCartrefi Cymru Rating: 5 out of 5 stars5/5Y Clerwr Olaf Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsElystan - Atgofion Oes: Atgofion Oes Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCranogwen Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsBreision Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsGynghanedd Heddiw, Y Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsBywyd ar Ddu a Gwyn - Hunangofiant Annette Bryn Parri Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsStori Cymru - Iaith a Gwaith Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsHer a Hawl Cyfieithu Dramâu: Saunders Lewis, Samuel Beckett a Molière Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsY Mae y Lle yn Iach' - Chwarel Dinorwig 1875-1900 Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsHanes Tregaron a'r Cyffiniau Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsHen Enwau o Ynys Môn Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsFaciwî, Y Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsLeila Megane: Ei Dawn a'i Stori Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsBardd Cwsg Arall Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsAtgofion Hen Wanc Rating: 5 out of 5 stars5/5Nansi Lovell: Hunangofiant Hen Sipsi Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsSiôn Powel Wehydd Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsO'r Aman i'r Ystwyth Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsDyfroedd Dyfnion - Hunangofiant John Elfed Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsBreuddwyd Roc a Rôl - Hunangofiant Cleif Harpwood Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCerddi'r Mynydd Du Sef Caneuon Hen a Diweddar Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsFro Dywyll, Y Rating: 3 out of 5 stars3/5
Reviews for Cymru Mewn 50 Cerdd
0 ratings0 reviews
Book preview
Cymru Mewn 50 Cerdd - Cyhoeddiadau Barddas
Golygwyd gan Alan Llwyd
Lluniau gan Iestyn Hughes
Cyhoeddiadau Barddas
ⓗ Alan Llwyd / Cyhoeddiadau Barddas ⓒ
ⓗ y cerddi: y beirdd a’r gweisg ⓒ
ⓗ Ffotograffiaeth: Iestyn Hughes ⓒ
Argraffiad cyntaf: 2021
ISBN: 978-1-911584-70-4
Cedwir pob hawl. Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, tâp magnetig, mecanyddol, ffotocopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan y cyhoeddwr, Cyhoeddiadau Barddas.
Dymuna’r cyhoeddwr ddiolch i’r beirdd a pherchnogion hawlfraint y cerddi, ynghyd â’u cyhoeddwyr, am eu caniatâd i’w hatgynhyrchu yn y gyfrol hon. Er pob ymdrech i geisio cysylltu, methwyd dod o hyd i rai perchnogion hawlfraint ac ymddiheurwn am hynny. Ceir rhestr o gydnabyddiaethau ar ddiwedd y gyfrol. Diolch hefyd i Cadw ac i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru am bob cymorth, a hefyd i berchnogion Melin Llynon (cerdd 1) a’r Cadno (cerdd 41).
Cyhoeddwyd gan Gyhoeddiadau Barddas
www.barddas.cymru
Mae’r cyhoeddwr yn cydnabod cefnogaeth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru.
Y darlun clawr a’r dyluniad: Dylunio GraffEG.
Trosiad i e-lyfr: Almon.
Diolchiadau
Comisiwn gan Gyngor Llyfrau Cymru a Gwasg Gomer oedd y gyfrol hon yn wreiddiol, a thrwy reolwr cyhoeddiadau Gwasg Gomer ar y pryd, Meirion Davies, y daeth y comisiwn. Pan benderfynodd Gwasg Gomer roi’r gorau i gyhoeddi llyfrau, trosglwyddwyd y gwaith i Gyhoeddiadau Barddas. Diolch, fodd bynnag, i Meirion am fraenaru’r tir ar gyfer y gyfrol. Dymunaf ddiolch i Alaw Mai Edwards am bob cymorth a gefais ganddi ar hyd y daith, ac am bob awgrym a chyngor hefyd. Diolch yn ogystal i’r ffotograffydd, Iestyn Hughes, am y lluniau bendigedig ac i gwmni Dylunio GraffEG, am y gwaith gwych ar y gyfrol.
Alan Llwyd
Rhagair
Amser a lle. Mae pawb ohonom yn byw mewn lle (neu leoedd) arbennig ar amser (neu amseroedd) arbennig. Ac mae lleoedd yn newid drwy’r amser. Erydir rhannau o’n harfordiroedd yn gyson, gan newid ffurf a natur yr arfordiroedd hynny; dymchwelir hen dai, codir tai newydd; troir capel yn archfarchnad a safle hen ffatri yn faes parcio. Mae lle yn newid o fewn amser ac mae amser yn newid o fewn lle. ‘Old houses were scaffolding once and workmen whistling,’ meddai T. E. Hulme yn ei gerdd un-llinell enwog. Ond nid pobol yn unig sy’n gweddnewid lleoedd. Mae’r tymhorau hefyd yn eu gweddnewid. Y mae i bob lle dair elfen: yr elfen ddaearyddol, yr elfen hanesyddol a’r elfen lenyddol. Yr elfennau hyn sy’n rhoi i bob lle ei natur unigryw ei hun, ei awyrgylch a’i arwyddocâd arbennig, ei hunaniaeth a’i arwahanrwydd. Lleoliad lle yw ei ddaearyddiaeth; hanes a chwedloniaeth lle yw’r elfen hanesyddol honno sy’n rhoi nod arwahanrwydd ar bob lle; a’r hyn a ysgrifennwyd am leoedd yw’r elfen lenyddol sy’n rhan o hunaniaeth lleoedd. Dyna i ni Bantycelyn William Williams, Rhosgadfan Kate Roberts, Rhyd-ddu T. H. Parry-Williams, Ynys Môn Goronwy, Llanbryn-mair Iorwerth C. Peate, Preseli Waldo, yr Allt-wen a Phontardawe Gwenallt, ac yn y blaen. Bardd sy’n effro i naws ac ysbryd lle yw Bobi Jones, ac iddo ef, pobol sy’n gwneud lle, nid golygfeydd nac adeiladau. Meddai yn ‘Dyffryn Dysynni’, un o gerddi’r gyfres ‘Chwythu Plwc’:
Nid pridd a cherrig, Llanfihangel Pennant,
Na’i thai hyd yn oed, er iddynt gogio felly:
Pan ddwedaf Bantycelyn ni ddwedaf le
Ychwaith. Wrth gwrdd â lleoedd clywaf enwau:
Caerfallwch, Dyfed, Gwenallt a Brynsiencyn,
Caledfryn, Tanymarian, Islwyn, Gwili.
Fy ngwynfyd i wrth hercyd tir yw yngan
Cadwyn o bobl sy’n hongian llygaid eu dydd
Yn sillau am bentrefi. Siffrydaf sawr
Eu hargraff arnom, Alun, Mynyddog, Glyndŵr
Yn edliw i ni’r adleisiau a’n cenhedlodd;
A’u lle yw’r Triawd trem ar Unwedd Cloc.
Ac felly, mi awn ar daith ddaearyddol, hanesyddol a llenyddol drwy Gymru.
Sir Fôn, lle mesuraf fawl,
Sy baradwys ysbrydawl;
Gorau gwlad dan y goron,
A gorau had yw gwŷr hon.
Siôn Brwynog o Fôn (1510–1562)
1
Llanfair-yng-Nghornwy
Derec Llwyd Morgan
Un prynhawn gwag
prin ei gast ar galendr Ebrill,
pan oedd y gwydr yn braf,
aethom,
y ddau ohonom,
yn y car
yn uwch uwch ar hyd yr ynys
nag y buasem erioed o’r blaen:
a chyrraedd,
fry yng nghern Môn,
Lanfair-yng-Nghornwy:
a gweld yno
y gaeaf a’r gwanwyn yn un,
yn un heb fod ar wahân,
yn dymor undydd tawdd
didueddiadau,
canys ar y coed
o boptu’r ffordd
yr oedd hi’n blaguro eira:
o weld, ystyriais
mai peth pentrefol, plwyfol fel hyn
yw gwyrth,
oherwydd nid oedd y tu hwnt
i benrhyndod eithriadol y lle
ddim byd mwy anghyffredin
na dibyn
yn cydymarfer â’r môr.
Cychwynnwn y daith yng ngogledd Cymru, lle sy’n ‘baradwys ysbrydawl’ yn ôl y bardd o Lanfflewyn, Siôn Brwynog. Un o’r pwyntiau mwyaf gogleddol ar y map yw Llanfair-yng-Nghornwy a phrofiad y bardd, Derec Llwyd Morgan, wrth iddo ymweld â’r lle a geir yn y gerdd hon. Mae’n cael ei swyno gan hud y lle – o arfordir gogleddol yr ynys, Hen Borth, hyd at Fynydd y Garn i’r de o’r pentref. Yng nghanol y pentref ei hun ceir eglwys wedi ei chysegru i’r Santes Fair sy’n cynnwys olion canoloesol sylweddol, ac, fel nifer o safleoedd ym Môn, mae hynafiaeth y lle yn rhoi’r teimlad cyfrin hwnnw o fod yn un â’r gorffennol.
Erbyn hyn yr wyf wedi croesi Pont Borth ugeiniau o weithiau ac wedi fy nghyfarwyddo fy hun yn o lew â byw ar yr ynys. Ac eto ambell waith mewn ambell ran ohoni byddaf yn synio fod y tir odanaf yn symud ryw ychydig o hyd ac nad wyf ar bridd sad y byd arferol hwn. Yna, yn wyllt, chwarddaf am fy mhen fy hun.
Heddiw cefais y teimlad hwn eto yn Llanfair-yng-Nghornwy. Pa le mae honno, dywedwch? Wel! Os na wyddoch am y gornel hon o Ynys Môn, am Lanrhuddlad, am Ryd-wyn, Llanfaethlu, Llanfachreth, Llanfwrog, Llanynghenedl, Bodedern, oni fuoch yno a chrwydro o’u cwmpas a mwynhau eu hawyr a’u cymdeithas, yna ni wyddoch ddim, ddim pwysig yn siŵr, am fywyd Cymru.
Bobi Jones, Crwydro Môn, 1957.
Bardd a beirniad llenyddol a aned ym mhentref Cefn-bryn-brain, sir Gaerfyrddin, yw Derec Llwyd Morgan. Bu’n ddarlithydd yn Adran y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, o 1969 hyd 1975, pan ymunodd â staff Adran y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor. Ym 1989 fe’i penodwyd yn Athro’r Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac ym 1995, fe’i penodwyd ef yn Brifathro’r Coleg. Y mae’n awdur nifer o lyfrau, ac yn eu plith ceir pedair cyfrol o farddoniaeth, Y Tân Melys (1966), Pryderi (1970), Gwna yn Llawen, Ŵr Ieuanc (1978), Cefn y Byd (1987) a Bardd Cwsg Arall (2021). Y mae’n byw yn sir Fôn.
Môn, y fam ynys, ynys sy’n llawn o rin a dirgelwch y gorffennol – hen gladdfeydd, hen eglwysi, hen bentrefi. Yn ei gerdd ‘Môn, Ynys’, y mae Gwyn Thomas yn sôn am y modd y mae ynysoedd, yn gyffredinol, yn apelio at ein dychymyg a’n chwilfrydedd. Maen nhw fel bydoedd ar wahân, bydoedd cudd, anhygyrch yn aml, sy’n gwarchod cyfrinachau oesol; ac y mae’r môr yntau yn gwarchod ynysoedd, gan eu hamddiffyn rhag y byd mawr, gan ddwysáu a dyfnhau’r dirgelwch. Roedd trigolion Môn eu hunain yn ymwybodol iawn o unigrwydd ac arwahanrwydd eu hynys, ac yn ymwybodol hefyd o’r hen drysorau a’r hen greiriau a geid ynddi.
Ac y mae gan y beirdd eu hynysoedd personol eu hunain, Ynys Afallon ac Ynys Enlli T. Gwynn Jones, Ynys yr Hud W. J. Gruffydd, Ynys Môn Goronwy. Pan godwyd pontydd rhwng y Tir Mawr ac Ynys Môn, roedd modd cyrraedd yr ynys yn rhwydd, a’i gorfodi i ildio’i chyfrinachau. Troes tir y gwahanrwydd yn dir cyfarwydd, ond eto, ni lwyddwyd i ddatgloi cyfrinachau’r ynys na datrys yr un dirgelwch. Yn wir, roedd yr elfen hon o ddirgelwch a dieithrwch yn hen hyd yn oed pan laniodd y Rhufeiniaid ar Ynys Môn ganrifoedd yn ôl. Dyna yw thema ‘Môn, Ynys’, gan Gwyn Thomas:
… A thros gerrynt ffyrnig y Fenai
Fe hwyliwyd o Arfon i Fôn
I geisio creu cyfathrach;
Ac, yn y man, fe godwyd pontydd
I gydio’r glannau dros ddyfroedd y gwahanrwydd.
Daeth Môn yn dir cyfarwydd –
Fe grëwyd cysylltiadau.
Pam, felly, y mae yno
O hyd – mewn mannau cyfrin –
Ryw unigrwydd, rhyw ddirgelwch
Oedd yn hen, yn hen
Pan fu i filwyr Rhufain
Ymlafnio drwy’r Fenai i Fôn
Yn amser y Derwyddon?
Ac fe gaiff Gwyn Thomas ein tywys i un o’r lleoedd mwyaf diddorol ym Môn, Din Lligwy yn ymyl Moelfre.
2
Din Lligwy
(ar ddechrau Mawrth)
Gwyn Thomas
Y tu draw y mae’r môr,
Y tu draw y mae’r glas yn treiglo,
Treiglo y tu draw, ar erchwyn y byd.
Y meini hyn.
Yma yn