Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Eneth Ga'dd ei Gwrthod, Yr
Eneth Ga'dd ei Gwrthod, Yr
Eneth Ga'dd ei Gwrthod, Yr
Ebook333 pages5 hours

Eneth Ga'dd ei Gwrthod, Yr

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

A whodunnit with a twist in its tail! At the end of a drunken evening, Mererid finds herself in the middle of a mystery, and things go from bad to worse . . .
LanguageCymraeg
Release dateNov 2, 2021
ISBN9781913996451
Eneth Ga'dd ei Gwrthod, Yr
Author

Gwen Parrott

Although she has lived in Bristol for many years now, Gwen Parrott was born and brought up in the depths of rural North Pembrokeshire, West Wales. Having worked in many creative writing fields such as theatre, television, radio, short stories and novels, in both English and Welsh, she was also a freelance translator until fairly recently, but is now a full-time fiction writer, concentrating on both semi-historical and contemporary murder mysteries. Her background has allowed her to write in both languages and she translates her own novels as a matter of course.She has published four Welsh language novels with Gomer: Gwyn eu byd (2010), Hen Blant Bach (2011), Cyw Melyn y Fall (2012), and Tra Bo Dwy (2015).The English translation of her first novel Gwyn eu byd was released in paperback as Dead White (2019).

Read more from Gwen Parrott

Related to Eneth Ga'dd ei Gwrthod, Yr

Related ebooks

Related categories

Reviews for Eneth Ga'dd ei Gwrthod, Yr

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Eneth Ga'dd ei Gwrthod, Yr - Gwen Parrott

    llun clawr

    Yr Eneth

    Gadd ei

    Gwrthod

    Gwen Parrott

    Gwasg y Bwthyn

    ⓒ Gwen Parrott 2021 ⓗ

    Gwasg y Bwthyn

    ISBN: 978-1-913996-45-1

    Cedwir pob hawl.

    Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng, electronig, electrostatig, tâp magnetig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan y cyhoeddwyr.

    Cyhoeddwyd gyda chymorth ariannol

    Cyngor Llyfrau Cymru

    Dyluniad y clawr: Siôn Ilar

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd gan

    Wasg y Bwthyn, Caernarfon

    gwasgybwthyn@btconnect.com

    www.gwasgybwthyn.cymru

    01286 672018

    Troswyd i e-lyfr gan Almon

    I Dawn a Sarah –

    medrwn i ddim gofyn am

    ferched-yng-nghyfraith gwell

    DIOLCH

    Hoffwn ddiolch o galon i Wasg y Bwthyn a Marred Glynn Jones am eu cymorth a’u cefnogaeth trwy gydol y broses.

    Pennod 1

    Dim gormod o blyshar brown neu bydda i’n edrych fel slwt. Mae’r groten ar y blog yn pwyso’i phenelin ar ford er mwyn tynnu llinell eyeliner. Un llinell ddu syth gyda fflic i fyny ar y diwedd, ond dwi’n edrych fel Goth gyda’r ffliw. Dechreua ’to. I ble’r aeth y blydi weips? Reit, nawr canolbwyntia. Gwell, os nad yn hollol berffaith. Y llygad arall. Dwi’n dechre’i deall hi. O leiaf mae’r gwallt yn ffab – dyle fod am faint gostiodd e. Dim powdwr fel rhyw hen fenyw. A dim lipstic coch chwaith. Naturiol, ifanc… a gorjys.

    * * *

    Deuai’r sawr traed yn bendant o ben arall y fan fawr, meddyliodd Donna Davies. Parciwyd y fan mewn stryd gul, nid nepell o brif stryd adloniant tref Maeseifion, a dim ond ambell i grŵp o ferched yn trotian heibio ar sodlau amhosibl y gallai hi ei weld, a hynny drwy bipo rhwng ei chyd-weithwyr. Eisteddai’r heddweision mewn dwy res yn wynebu’i gilydd, gan wingo am fod eu gwasgodau arfog a’u holl offer yn gwneud pobl fawr yn fwy fyth. Lle cyfyng oedd hwn i wyth ohonynt. Gwasgwyd Donna, un o’r lleiaf, yn erbyn y drysau cefn. Tasen nhw’n agor yn sydyn, amheuai a allai arbed ei hun rhag disgyn o’r cerbyd wysg ei chefn. Traed pwy oedd yn drewi, tybed? Gari, mwy na thebyg. Gallai faddau i Phil, ei phartner gwaith, am sugno losin mintys yn ddi-baid. Gwnaeth stumiau eisiau losin arno. Gwyddai’n well na gofyn yn uchel. Ni fyddai Phil yn fodlon gweld y pecyn cyfan yn mynd o amgylch pawb, gan adael dim ond stribed o bapur. Trosglwyddwyd un i’w llaw yn dawel fach.

    ‘Odyn nhw’n mynd i ddod, ’na’r cwestiwn,’ meddai Gari. Swniai’n obeithiol, ac o adwaith y lleill, roeddent hwythau’n edrych ymlaen at y cyffro o redeg, gwahanu a chadw trefn.

    Sniffiodd Phil. ‘Gydag unrhyw lwc bydd y bws ’di torri lawr.’

    ‘Yffach, paid â bod mor ddiflas, ’achan. Mae e’n well nag ishte yn yr orsaf yn yfed te.’

    ‘Nadi ddim,’ atebodd Phil yn bendant. ‘Fe ddewch chi’n gallach unwaith i chi gael eich anafu mewn ffeit a cholli misoedd o waith.’

    Ysgydwodd un neu ddau eu pennau arno. Roedden nhw’n ifanc ac felly’n anfarwol ac anffaeledig. Pan ddaeth gwybodaeth i mewn y prynhawn Gwener hwnnw fod criw ar eu ffordd i lawr o Abergorwel, gwefreiddiwyd yr orsaf gyfan, ar wahân i Phil a Donna. Roedd hen hanes rhwng ieuenctid trefi Maeseifion ac Abergorwel. Digwyddodd yr un peth ryw ddeufis ynghynt, a bu sgarmesoedd ffyrnig tu allan i’r clybiau a’r tafarnau, heb ddigon o heddlu ar ddyletswydd i’w hatal. Wedi derbyn rhybudd o flaen llaw, nid oedd gan benaethiaid heddlu’r dref unrhyw ddewis ond galw pawb i mewn, rhag ofn. Dechreuodd y gweddill drafod yr achlysur blaenorol gydag awch.

    ‘Ble fyddet ti nawr, ’blaw am y blwmin niwsans hwn?’ sibrydodd Phil.

    ‘Gartre gydag Iolo ar y soffa’n gwylio box set o Poldark,’ atebodd Donna’n syth.

    Meddyliodd Phil am ennyd. Roedd ei wyneb hir mor ddifynegiant, roedd yn anodd darllen ei feddyliau.

    ‘Mae e’n bendant yn dy garu di ’te,’ meddai. ‘Ma’r cyhyre ar stwmog y Poldark ’na’n ddigon i droi arnoch chi.’

    Gwenodd Donna yn y tywyllwch, wrth iddi wthio cudyn o’i gwallt golau nôl i’r sgrynshi ar gefn ei phen. ‘Beth sy’n gwneud i ti feddwl nad oes rhai cystal ’da Iolo?’

    Edrychodd gyrrwr y fan dros ei ysgwydd arnynt, o lle bu’n gwrando ar y clebar ar ei radio, ac agorodd ei ddrws.

    ‘Ma’ nhw ’ma, bois! Bant â ni!’

    Ar y gair, clywsant sŵn dwfn injan yn dynesu ar y stryd fawr ac er na allent weld mwy na thrwyn y goets, awgrymai’r dorf a lifodd ohoni fod holl boblogaeth Abergorwel wedi cyrraedd. Taflwyd y drysau cefn ar agor, ond roedd Donna’n barod erbyn hynny.

    ‘Jawl,’ meddai Phil. ‘Ma’ nhw wedi dod â’u rocesi gyda nhw’r tro hwn. Byddi di’n fishi. Watsia dy lyged.’ Gwnaeth arwydd dwy grafanc gyda’i ddwylo gan dynnu wep.

    Yn nhoiledau’r merched yng nghlwb Bubbles, anadlodd Mererid Jenkins yn ddwfn, gan deimlo’i thrwyn yn llosgi ar ôl chwydu. Am faint fu hi yno? Ymbalfalodd am ddarn arall o bapur tŷ bach i sychu ei cheg. Tu allan i’r drws roedd y lle dan ei sang fel arfer, a gwrandawodd Mererid drwy niwl o alcohol ar y chwerthin a’r sgrechian. O bob tu iddi yn y ciwbiglau eraill roedd merched yn piso ac yn fflysio ac yn tynnu papur o’r rholiau gyda sŵn fel taranau pell. Rhedai tapiau’n uchel a chwythai corwyntoedd o’r sychwyr dwylo. Teimlai fel pe bai mewn storom ar y môr. Gafaelodd yn dynnach yn ochrau’r bowlen, heb hidio am bwy fu yno o’i blaen, nac am wlypdra’r llawr teils dan ei phengliniau. Daeth pwl arall drosti, a llifodd mwy fyth drwy ei cheg a’i ffroenau. ’Sbosib nad oedd ei stumog yn wag erbyn hyn!

    Ffustodd rhywun ar y drws. ‘Siapwch hi, ’newch chi? Dwi bwti byrsto mas fan hyn!’

    A hithau ar fin ceisio llunio brawddeg esboniadol, clywodd Mererid ddrws y ciwbigl nesaf yn agor a chyn pen dim eisteddodd y ffustwraig yn drwm ar y sedd, gydag ochenaid o ryddhad. Ond ni pharodd y llonyddwch yn hir.

    ‘Hei, drws nesa,’ meddai llais y ferch drwy’r pared tenau. ‘Oes papur miwn ’na?’

    ‘Wes,’ atebodd Mererid yn floesg.

    ‘Paswch damed i fi, ’newch chi?’

    Weindiodd Mererid rywfaint ohono o gwmpas ei bysedd, cyn ei drosglwyddo i’r llaw gyda’r ewinedd gwyrdd a ymddangosodd dan y pared.

    ‘Thenciw. Ti’n angel.’ Bu saib wrth i’r ferch aildrefnu ei dillad. ‘Ti’n dost?’ gofynnodd yn sydyn.

    ‘Wdw,’ atebodd Mererid, gan sylwi, er gwaethaf ei salwch, bod ei chymwynas wedi ei dyrchafu o niwsans i ffrind.

    ‘Buest ti ddim ar y coctels, do fe? Ma’ nhw’n waeth na ffycin meths. Dwi’n meddwl ’u bod nhw’n prynu nhw miwn jeri-can o ryw garej. Gallet ti redeg moto-beic arnyn nhw.’ Clywodd Mererid y ferch yn chwilio mewn bag a rholiodd potel fach o ddŵr drwy’r bwlch tuag ati. ‘Yfa hwnna. Ma’ un arall ’da fi. Gwela i ti!’

    Llwyddodd Mererid i godi gan fwmial diolch. Pwysodd yn erbyn y pared gan gymryd llymaid o’r dŵr llugoer. Pylodd y llosgi enbyd yn ei cheg a’i gwddf a theimlodd ei phen yn clirio rhyw fymryn. Byddai’n rhaid iddi gael tacsi i fynd adref. Am eiliad frawychus, ni allai weld ei bag llaw’n unman, ond yna sylweddolodd ei bod yn ei wisgo ar ei strapen hir o gwmpas ei chorff. Diolch i’r drefn am hynny. Taclusodd ei hun gorau gallai, gan obeithio nad oedd hi wedi chwydu dros ei dillad.

    Allan yn sŵn y clwb, prin y gallai gofio ymhle bu’n eistedd. Pam oedd hi yma? Nid hwn oedd y bar lle bu’r band yn chwarae. O ie, roedd hi wedi gadael ar ras pan ddechreuodd ffeit gas. Ond doedd hi ddim ar ei phen ei hun bryd hynny. Roedd merch arall gyda hi a gyfarfu am y tro cyntaf y noson honno. Rhywun â gwallt hir, golau, godidog, o’r math y byddai Mererid wedi rhoi ei braich dde i fod yn berchen arno, yn lle llond pen o gyrls na allai wneud dim â nhw. Beth ddiawl oedd ei henw? Gwthiodd drwy’r dorf er mwyn chwilio amdani. Roedd y gerddoriaeth mor uchel fel bod y llawr yn pwlsio dan ei thraed, a sbonciai’r sŵn oddi ar y waliau a’r nenfwd isel, gan ei aflunio’n llwyr. Roedd medru darllen gwefusau’n sgìl angenrheidiol, os gallech weld unrhyw beth yn y tywyllwch, a oleuwyd yn rhythmig ond yn annigonol gan sbotoleuadau amryliw. Cofiodd Mererid eu bod wedi llwyddo i fachu dwy sedd mewn cornel tu ôl i fwrdd bach. Am eiliad, safodd wrth i’r ystafell droi o’i hamgylch, ond nid oedd unman i eistedd, felly palodd ymlaen i’r gornel bellaf. Roedd y ferch â gwallt golau wedi mynd, ac roedd rhyw griw arall wedi meddiannu’r cadeiriau a’r bwrdd.

    ‘Sgusodwch fi!’ gwaeddodd.

    Wrth iddi geisio esbonio, gallai weld eu talcenni’n crychu a phwysodd merch ymlaen dros y bwrdd mewn ymdrech i glywed. Yn amlwg, nid oeddent wedi gweld y ferch gwallt golau ond yna tynnodd yr un fu’n gwrando got o gefn ei chadair. Estynnodd hi i Mererid a gwenodd. Amneidiodd Mererid, er nad hi oedd piau’r got, a chofiodd godi bawd fel pe bai popeth wedi’i ddatrys.

    Cyrhaeddodd y cyntedd o’r diwedd. Roedd bownsar anferth yn cnoi gwm ger y fynedfa ac yn cadw llygad barcud ar y llu a safai’n ysmygu ar y pafin. O leiaf roedd golau yn y cyntedd, ac edrychodd Mererid yn fwy manwl ar y dilledyn. Roedd cot gan y ferch gwallt golau, a chofiodd Mererid ei bod wedi meddwl nad oedd hon yn rhywun a arferai fynychu clybiau. Doedd neb yn mynd â chot i glwb, oherwydd y gwres a’r perygl o’i cholli.

    ‘Olreit?’ gofynnodd y bownsar, wedi sylwi arni’n sefyll a phendroni.

    ‘Odych chi wedi gweld merch â gwallt hir golau’n mynd mas? Mae hi wedi gadael ei chot.’

    Tynnodd y bownsar wep amheus cyn troi a gofyn i’w gyd-weithiwr a oedd newydd gamu dros y trothwy. Amneidiodd hwnnw.

    ‘Bwti ddou funud nôl. Aeth hi rownd y gornel. Aros am lifft, weden i. Mae’n haws parco yn yr ale. Chi’n denu llai o sylw. Mae hi blydi off ’co heno.’

    Roedd bron cymaint o bobl allan ar y ffordd ag yn y clwb a chadwodd Mererid at y mur er mwyn eu hosgoi. Ar noson o haf fel hyn, roedd bod allan yn yr awyr agored yn fwy deniadol na bod tu mewn i dafarn neu glwb. Yn bendant, ni theimlai Mererid mor ofnadwy o sâl wrth iddi ddynesu at y gornel. Hyd yn oed a hithau mor feddw ag yr oedd hi, doedd ganddi ddim llawer o obaith y byddai’r ferch yn dal i sefyll yn aros am ei lifft, ond byddai wedi gwneud ei gorau i roi ei chot nôl iddi. Gallai fynd adref wedyn, â chydwybod glir. Pwy wyddai a welai hi fyth eto?

    Roedd car yn aros i droi i mewn i’r ale, a manteisiodd Mererid ar y cyfle i groesi, ond roedd hi fymryn yn araf. Gwgodd y gyrrwr arni drwy’r ffenest flaen cyn treiglo heibio iddi. Gwyliodd ei oleuadau coch yn lleihau wrth i’r ale droelli i’r chwith, a sadiodd ei hun yn erbyn y wal frics. Codai hen furiau adeiladau Fictoraidd bob ochr i’r ale ac nid oedd lle i lampau stryd ar y palmentydd cul. Tywynnai lamp neu ddwy o’r muriau eu hunain oherwydd hyn, ond oni bai fod ceir wedi goleuo’r ffordd o bryd i’w gilydd, ni fyddai wedi gallu gweld ei thraed. Cyflymodd ei chamau, nad oedd yn hawdd ar y pafin drylliog. Nid oedd hwn yn lle y byddai wedi dewis camu drwyddo yn ystod y dydd ond roedd yn fwy poblog gyda’r nos, er mai dim ond cysgodion oeddent. Roedd ei gobeithion o ganfod y ferch yn gwywo gyda phob cam. Os nad oedd hi i’w gweld erbyn iddi gyrraedd y troad, byddai’n mynd nôl i’r stryd fawr i chwilio am dacsi. Daeth sawr cyfog iddi, a ffroenodd frethyn ei blows, a oedd yn lletchwith gyda’r got a’r botel ddŵr yn ei breichiau. Sylweddolodd mewn pryd fod y sawr yn dod o bwll mawr ar y llawr o’i blaen, ac yn ddifeddwl camodd o’r pafin. Dychrynwyd hi gan gorn car yn canu fodfeddi tu ôl iddi, gan na chlywodd ef yn dod. Saethodd llaw fawr allan o encil yn y wal gan ei thynnu o’r ffordd. Syllodd Mererid i fyny ar wyneb barfog, di-syfl ac yn ei braw, trawodd ei hachubwr ar ei frest. Nid ymddangosai ei fod wedi teimlo hyn o gwbl, ond rhoddodd siglad bach iddi a gollyngodd ei afael. Rhuthrodd Mererid oddi wrtho, gan daflu cipolygon nerfus tu ôl iddi, ond ni symudodd y dyn wedi hynny. Yn hytrach, ymdoddodd yn ôl i’w encil, ac wedi decllath ni allai ei weld mwyach.

    Aeth yr ale’n lletach fymryn cyn y troad. Safai tri char yno, gyda’u hinjans yn rhedeg. Brysiodd ymlaen, gan geisio pipo drwy ffenest gefn yr un agosaf, ond roedd yr un ar y pen eisoes â’i drwyn ar ongl, wrth baratoi i fynd. Roedd hanner ffordd allan pan welodd Mererid fod rhywun yn y sedd gefn, gyda gwallt hir, golau. Gwaeddodd a chwifiodd y got ond nid oedd unrhyw arwydd bod y teithwyr yn y car wedi’i chlywed. Dechreuodd Mererid redeg, heb sylwi bod yr hen fur wedi colli bricsen neu ddwy a’u bod dan ei thraed. Baglodd, arbedodd ei hun yn drwsgl, ond baglodd eto a syrthiodd yn drwm gan daro’i phen yn galed. Diflannodd goleuadau cefn y car blaen wrth i ryw ddüwch mawr ei hamgylchynu.

    Ni welodd y ddau yrrwr arall yn dringo o’u ceir, nac ychwaith y ffigwr mawr, barfog yn camu’n bwrpasol ar hyd y pafin tuag ati, gan bwyntio bys tew atynt, a dweud ‘Ambiwlans’ mewn llais o ddyfnderoedd y ddaear.

    ‘Beth ddiawl sy’n digwydd draw fanna nawr ’to?’

    Roedd Phil a Donna newydd roi dwy ferch i eistedd ar fur isel ar y brif stryd, un ohonynt mor feddw fel na allai sefyll na siarad, ond y llall yn ddigon cegog i’r ddwy ohonynt. Roedd tafarn gerllaw Bubbles wedi gwrthod gwerthu mwy o ddiod iddynt, ac roedd y ferch gegog wedi gweld yn chwith. Trodd Phil ei ben wrth i seiren ambiwlans agosáu. Safai dyn mawr blewog yn y fynedfa i’r ale gan alw’r cerbyd i mewn trwy chwifio’i fraich.

    ‘Dy ffrind di yw hwnnw, ontefe?’ gofynnodd.

    Pipodd Donna draw a chododd ei haeliau. ‘Oes ffôn ’da Hubert Malinowski, ’te?’ meddai. ‘Mae’n rhaid bod rhywbeth difrifol wedi digwydd. Cwato mae e fel rheol. A galla i ddim ei weld yn siarad ar ffôn â neb.’

    ‘Galla i ddim ei ddychmygu fe’n siarad o gwbl,’ atebodd Phil. ‘Cer i weld, os wyt ti moyn. Dyw’r rhein ddim yn mynd i unman. Na ’dych ddim!’ ychwanegodd yn uwch wrth y ferch gegog a oedd yn bygwth dianc nôl i mewn i dafarn gyfagos i ailddechrau’r ddadl.

    Roedd yr ambiwlans yn sefyll â’i ddrysau cefn ar agor erbyn i Donna ei gyrraedd. Plygai dau barafeddyg dros gorff merch anymwybodol. Bu bron i Donna beidio â gweld Hubert gan fod ei got yr un lliw â’r muriau yn y tywyllwch. Roedd y ddeuddyn yn y ceir a fu’n aros yn yr ale yn taflu cipolygon nerfus ato. Cododd un o’r parafeddygon o lle bu’n penlinio ac amneidiodd ar Donna, cyn mynd i mofyn mwy o offer o gefn y cerbyd.

    ‘Beth ddigwyddodd, Hubert?’ gofynnodd Donna mewn llais isel. ‘Gafodd hi ei bwrw gan rywun neu gan gar?’

    Ysgydwodd Hubert ei ben, er bod ei lygaid yn dal wedi’u hoelio ar berchnogion y ceir.

    ‘Cwmpo,’ meddai. ‘Rhedeg. Baglu.’ Sgwffiodd flaen ei esgid drom yn erbyn y brics rhydd ar y pafin. ‘Bai’r Cownsil.’ Sniffiodd yn ddirmygus.

    ‘A ddaeth neb yn agos iddi? Gadwest ti lygad arni?’

    ‘Mm.’ Gwnaeth ystum â’i fawd tuag at y ddau gar a’u gyrwyr. ‘Isie mynd. Gadel hi. Hm.’

    O’i adnabod, deallodd Donna nad oedd Hubert yn cymeradwyo’r fath ymddygiad calongaled. Nid oedd hi eisiau meddwl am beth wnaeth Hubert i’w perswadio i aros yn y fan a’r lle. Bygwth datgysylltu eu pibellau egsôst, efallai. Sylweddolodd ei fod yn estyn rhywbeth iddi.

    ‘Cot,’ meddai, gan ei dangos iddi. Pwyntiodd at y pocedi. ‘Stwff.’

    ‘Reit,’ atebodd Donna. ‘Diolch.’ Tynnwyd ei sylw gan stretsier yn cael ei dynnu ar hyd y llawr. Nid oedd sôn, hyd yma, bod y ferch yn dihuno.

    ‘Odych chi moyn siarad â ni?’ galwodd un o’r dynion ger y ceir. ‘Welon ni ddim byd, ’chwel.’

    Naddo, sownd, meddyliodd Donna. Am faint fyddai hi wedi gorwedd yno, heblaw am Hubert? Trodd i ddiolch iddo’r eildro, ond ni synnwyd hi o ganfod nad oedd e yno mwyach, a’i fod wedi diflannu fel gwlith y bore. Camodd draw at ddrysau’r ambiwlans er mwyn cael gair â’r parafeddygon.

    Pennod 2

    ‘Tîm Doctor Adams i’r Adran Frys nawr, os gwelwch yn dda.’

    Doedd Mererid yn bendant ddim ar ddihun. Doedd hi ddim yn bwriadu bod hyd nes i’w mam, Tina, adael y ciwbigl. Gallai synhwyro symud a phobl eraill trwy ei hamrannau, gyda llais ei mam fel hoelen ar wydr yn gweld bai ar bawb a phopeth. Bob nawr ac yn y man, byddai ei thad, Wiliam, yn gwneud ei sŵn amwys arferol, a gallai glywed ei brawd, Lleu, yn taro’i draed fel rhywun yn chwarae drwm ar y llawr teils dan ei gwely.

    ‘Galla i ddim deall eu hagwedd o gwbl! Ble mae’r meddyg ymgynghorol? Pam nad yw hi’n derbyn gofal dwys? Beth os yw ei hymennydd hi wedi’i effeithio?’

    ‘Oes gobeth am ddished o goffi?’

    Daeth llais Lleu o rywle’n agos i’w chlust dde. Syniad da, meddyliodd Mererid. Os gallent gael perswâd ar ei mam i’w nôl, gallai agor ei llygaid a galw rhywun i dynnu’r goler anghysurus oddi ar ei gwddf.

    ‘Coffi? Pwy all yfed coffi nawr? Wyt ti’n trio ’mhryfocio i?’

    Pwy ond ei mam allai weld bai ar rywun am yfed coffi? Clywodd ei thad yn symud o’i sedd.

    ‘Ewn ni’n dau i’r caffi,’ meddai’n dawel. ‘Caiff Lleu aros gyda Mererid. Gwnaiff les i ti gael brêc bach, Tina. Ry’n ni wedi bod yma ers oriau.’

    ‘Saib,’ cywirodd ei mam yn reddfol, ond ni wrth­wynebodd yr awgrym. Serch hynny, roedd ei llais yn dal yn glywadwy am rai eiliadau.

    Teimlodd Mererid ei brawd yn pwyso nôl ar goesau cefn ei gadair, a meddyliodd yn resynus mor wahanol y byddai’r olygfa pe bai ef yn y gwely a hithau’n holliach. Ni fyddai wedi gallu osgoi dadlau gyda’i mam. Roedd gan Lleu amynedd sant mewn cymhariaeth.

    ‘Emynau,’ meddai, o gornel ei cheg. Clywodd glec wrth iddo fwrw’i ben mewn syndod yn erbyn y locer. ‘Ody ddi wedi dewis yr emynau i’n angladd i?’

    ‘Mowredd! Ers pryd wyt ti ar ddihun? A pham wyt ti’n siarad am angladd?’

    Ceisiodd droi ei phen tuag ato, ond roedd y goler yn y ffordd.

    ‘Dwi’n trio dy bryfocio di,’ meddai gyda gwên. ‘Cer i mofyn rhywun er mwyn i fi gael gwared ar y coler ci ’ma.’

    Gwgodd ei brawd arni o’i sedd. ‘Oes ’da ti unrhyw syniad am faint buest ti fel corff marw? Ers neithwr – ocê? Ac mae’n amser brecwast nawr.’

    ‘Dwi wedi bod ar ddihun ers sbel fach, yn aros iddi fynd.’

    ‘Gallet ti ddim fod wedi…?’ Clywodd ef yn ochneidio. ‘Ry’ch chi cynddrwg â’ch gilydd.’

    ‘Dyna pam ry’n ni’n cyd-dynnu mor dda. Nawr, cer i mofyn rhywun, cyn iddi ddod nôl. Gyda thamed o lwc, bydda i mas o ’ma mewn hanner awr.’

    ‘Gobeth caneri melyn,’ mwmialodd Lleu, wrth wthio’r llenni ar agor.

    Roedd hi’n falch o’r cyfle i feddwl am eiliad. Y gwir oedd nad oedd hi’n gwybod beth oedd wedi digwydd i arwain at y sefyllfa hon. Er gwaethaf ei gallu i siarad â Lleu yn union fel yr arferai, a chynllunio i osgoi ei mam, roedd rhyw ofod gwag a thywyll yn ei chof. Ble fuodd hi’r noson gynt? Cofiodd fod yn ei stafell yn y fflat. Oedd hi wedi cwympo yno? Ond eto, roedd sŵn mawr yn atsain trwy’r gofod. O ble ddaeth hwnnw? Meddylia, er mwyn popeth. Beth o’t ti’n ei wneud yn dy stafell? Agor drysau’r wardrob. Tynnodd ei braich allan o’r gynfas, gan obeithio y byddai ei dillad yn rhoi cliw iddi, ond roedd gwisg ysbyty amdani. Syllodd ar y plastrau ar gefn ei llaw a thu mewn i’w phenelin. Buont wrthi’n tynnu gwaed, felly, ond doedd ’na ddim pibell ‘drip’ i’w gweld. Efallai i un fod yno’n gynharach. Ceisiodd droi ei phen i weld beth oedd o’i hamgylch, ond roedd rhywbeth yn rhwbio’n boenus. Teimlodd ei phen a gwingodd. Pa anaf bynnag oedd ganddi, glanhawyd y clwyf a rhoddwyd rhwymyn amdano. Ei thalcen oedd waethaf, i fyny wrth y fan lle’r oedd ei gwallt yn dechrau. Roedd pad o dan y rhwymyn yno. Gafodd hi bwythau, tybed? A fyddai craith fawr ganddi byth mwy? Mererid Scarface Jenkins.

    Agorodd y llenni ac ailymddangosodd Lleu.

    ‘Gest ti afael ar rywun?’ gofynnodd Mererid.

    ‘Do, yn y diwedd. Welest ti ’rioed y fath set ddi-wardd yn ishte ym mhobman. Eu bai nhw’u hunen am ddod lawr o Abergorwel ar nos Wener yn whilo am ffeit. Ma’ nhw’n conan nawr am fod y bws wedi mynd nôl hebddyn nhw. Sai’n meddwl bod dim yn bod ar eu hanner nhw. Ffws fawr achos bod un roces wedi torri sawdl ei hesgid. Mae’n hopo lan a lawr fel cwningen.’

    Felly roedd hi’n fore Sadwrn, meddyliodd Mererid, a mwy na thebyg bu allan yn y dref y noson flaenorol. Pam fyddai’n dewis dillad o’r wardrob fel arall? Fflachiodd darlun drwy ei meddwl o Lleu ar lwyfan, gyda’i gitâr, yn dal ei geg yn agos i’r microffon.

    ‘Gest ti ddim trafferth ’da nhw neithwr, do fe?’ gofynnodd, gan aros am yr olwg a ddywedai wrthi ei bod wedi cymryd cam gwag.

    Ysgydwodd ei ben, a thaflodd ei hun nôl i’w eisteddle.

    ‘Na, we’n i wedi paco’r stwff a mynd cyn i bethe fynd dros ben llestri.’ Gwenodd arni. ‘’Na ti un fantes o beidio â bod yn headline act. We’n nhw’n weddol sobor ym Mar Seleri pwr’ny – ’blaw amdanat ti, wrth gwrs.’

    ‘We’n i ddim cynddrwg,’ atebodd Mererid yn amddiffynnol, er na wyddai a oedd hynny’n wir.

    ‘Anodd gweud gyda ti. Bownso off y blydi walydd, fel arfer. Ond wedyn, mae cael un i ddawnso’n help. Encourager les autres fel petai.’

    Ers iddo fynd i’r brifysgol, meddyliodd Mererid, roedd Lleu wedi mabwysiadu ffordd newydd o siarad. Nid oedd hi’n siŵr taw dyna wir ystyr yr ymadrodd Ffrangeg hwnnw.

    ‘Sdim isie lot o encourager arnyn nhw,’ mentrodd.

    ‘Nag o’s. Wedi’r cyfan, trasion nhw stwff Downward Spiral ar ôl i ni fynd. Neidiodd hanner dwsin o drebs lan ar y llwyfan a mynd ati. Ti’n gwbod mor fach yw’r llwyfan ym Mar Seleri. Fel gwely dwbl.’

    Gwenodd arni eto’n fileinig. Golygai anffawd y band hwnnw – na allai Lleu mo’u dioddef – fod gobaith i’w fand e ddringo’r rhestr chwarae leol.

    ‘Trueni,’ meddai Mererid, yn falch o’i glywed yn chwerthin dan ei anadl. Ni ofynnodd, drwy drugaredd, pam nad oedd hi wedi crybwyll iddi weld y gyflafan.

    Roedd band Lleu wedi chwarae ym Mar Seleri, felly, ac roedd hi yno i’w clywed. Ond wedyn, onid oedd hi yno bob amser?

    ‘Aeth e’n dda, ta beth,’ meddai, gan groesi ei bysedd dan y gynfas.

    ‘Do, dwi’n meddwl ’ny. We’n i’n grac ’da Dewi ar y pryd, am fod mewn cymint o hast i adel, ond ar ôl clywed beth ddigwyddodd yn y lle wedyn, dwi’n credu buon ni’n lwcus.’ Edrychodd arni’n euog. ‘Sori,’ meddai’n annisgwyl. ‘Bydden i ddim wedi dy adel di ’na ’sen i wedi sylweddoli… ond ti ’mod, wedd ddim lle i whannen yn y bac, rhwng y drym cit, yr amps a phopeth.’

    Amneidiodd Mererid. ‘Ro’n i’n iawn,’ meddai. Gadawyd hi ym Mar Seleri, a throdd pethau’n gas yno. Roedd hi’n dysgu rhywbeth newydd bob eiliad. ‘Meddylia tase’ch holl stwff chi’n yfflon.’

    ‘Wel, anghofion ni’r pren teuluol yn y bar, so wedd hi’n jobyn y jawl i gario pethe i’r tŷ. Gan mai fi o’dd y cynta mas o’r fan, gyda dim ond amp a gitâr, ges i help, ond sai’n gwbod shwd ddaethon nhw i ben â’r gweddill. Ma’r drym cit sda Dêf yn ddigon o farn.’

    Roedd clywed am y pren teuluol, sef pastwn hir a naddwyd gan eu tad i’w wthio drwy’r ddolen ar ben yr amp trwm er mwyn i ddau allu ei gario, wedi canu rhyw fath o gloch gyda Mererid. A fu’r pren ganddi ar ôl i Lleu a’r band adael? Roedd rhywbeth amdano’n crafu ymylon y gofod gwag yn ei chof.

    ‘’Na’r fantes o fyw’n agos i’r dref,’ meddai. ‘Mae Osian yn byw filltiroedd bant, on’d yw e?’

    ‘Yn nhwll tin y bydysawd,’ atebodd ei brawd. ‘Wedd Dewi’n cwyno am hynny hyd yn oed cyn gadel Maeseifion. A sai’n siŵr nad oedd e’n bwriadu galw miwn yn y Sgowt am ddrinc bach cyn mynd gatre. Falle ’na pam wedd y fath hast arno.’ Tynnodd ei ffôn o’i boced. ‘Dim gair oddi wrthyn nhw’r bore ’ma – ond wedyn, sena i wedi cael cyfle i hala tecst.’

    ‘Shwd glywest ti am y band arall, ’te?’

    ‘Neges wrth Haf oedd arfer bod yn yr ysgol ’da fi, pan wedd hi’n ei baglyd hi o’r dref yng nghefen tacsi. Ac wedyn, galwad ffôn o’r lle hwn. Ro’n nhw wedi dod o hyd i’n rhif i ar dy ffôn di.’

    Calonogwyd Mererid o glywed hyn. Ni chollodd ei ffôn. Roedd ar fin gofyn beth ddigwyddodd i’w dillad, pan agorodd y llenni a daeth nyrs

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1