Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Trothwy
Trothwy
Trothwy
Ebook113 pages1 hour

Trothwy

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

A factual creative volume comprising reflections on the author's experiences as he finds his place in the world: as a stepfather, as a regular visitor to Berlin and as a frequenter of the Twthill Vaults in Caernarfon, where he now lives.
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateNov 16, 2023
ISBN9781800995376
Trothwy

Related to Trothwy

Related ebooks

Reviews for Trothwy

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Trothwy - Iwan Rhys

    Trothwy_Iwan_Rhys.jpg

    Diolch i ’ngwraig a’r bechgyn – fyddai’r gyfrol,

    yn amlwg, ddim yn bodoli hebddoch chi.

    Diolch i fy rhieni a ’nheuluoedd am bob cefnogaeth,

    ac i ’nghymuned o ffrindiau yn y Twthill Vaults a thu hwnt.

    Diolch am bob cymorth gan Y Lolfa a Chyngor Llyfrau Cymru.

    Mae nifer o unigolion hefyd wedi bod o gymorth ymarferol

    ar hyd y daith, gan ddarllen drafftiau a chynnig cyngor

    gwerthfawr – diolch i bob un ohonoch.

    Argraffiad cyntaf: 2023

    © Hawlfraint Iwan Rhys a’r Lolfa Cyf., 2023

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon i lungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw.

    Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol

    Cyngor Llyfrau Cymru.

    Cynllun y clawr: Manon Awst

    eISBN: 978-1-80099-537-6

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978-1-80099-512-3

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd yng Nghymru gan

    Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    gwefan www.ylolfa.com

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    Cynnwys

    Rhagair

    Rhan I

    1

    2

    3

    4

    5

    6

    7

    8

    9

    10

    11

    12

    13

    14

    15

    16

    17

    18

    19

    20

    21

    22

    23

    24

    25

    26

    Rhan II

    27

    28

    29

    30

    31

    32

    33

    34

    35

    36

    Rhan III

    37

    38

    39

    40

    41

    42

    43

    44

    45

    Rhagair

    Ar drothwy’r gyfrol, mae’n well i mi esbonio beth yw hi. Nid ffuglen yw hi, ac yn sicr nid nofel. Fy mhrofiadau go iawn i, Iwan, sydd yma, ar ffurf ffeithiol greadigol: atgofion a myfyrdodau ar groesi trothwy, yn fras rhwng 2017 a 2021.

    Ro’n i wedi bod drwy dor priodas ychydig cyn hynny, yn fy nhridegau cynnar; y cyntaf o blith fy nghyfoedion agos i wneud hynny. Wrth ddechrau ffurfio perthynas â ’ngwraig bresennol, cefais y profiad anochel o fagu perthynas hefyd â’i meibion ifanc. Cododd hynny res o gwestiynau – pwy oeddwn i ar yr aelwyd? Beth oedd fy rôl? Fyddwn i eisiau fy mhlant fy hun? Fel yn achos fy ysgariad, dyma brofiad arall nad oedd neb o fy ffrindiau, ar y pryd, wedi’i wynebu.

    Rwy’n cyflwyno’r profiadau hyn ar ffurf darluniau o’r aelwyd a phortreadau o bobl a lleoedd o Gaernarfon i Berlin. Golygfeydd real ydyn nhw. Roedd rhai’n flynyddoedd oed erbyn i mi eu bwrw ar bapur, ac felly rhaid derbyn eu bod nhw wedi bod drwy ffilter fy nghof. Mae eraill, fel nifer o’r golygfeydd yn Berlin, wedi’u hysgrifennu yno ar y pryd.

    Rwy’n siarad o’r galon, gan geisio bod mor onest â phosib. O dro i dro, rwy’n cyfeirio at berthynas pobl go iawn â’i gilydd ymhlith fy nghymuned fan hyn yn Twthill, Caernarfon, ynghyd â ’nheulu estynedig fy hun. Er mwyn gwneud hynny mewn ffordd sensitif a pharchus, rwy wedi penderfynu newid enwau pawb ac eithrio fi fy hun, a Chunk y Twthill Vaults, am fod Chunk yn sefydliad ynddo’i hun.

    Ond peidiwch â phoeni, atgofion hapus ac annwyl sydd yma. Oherwydd, a minnau bellach wedi hen groesi trothwy tŷ ni, fe allaf gadarnhau mai cael chwarae rhan lawn fel llystad ym mywyd y bechgyn yw pennaf fraint fy mywyd.

    Iwan Rhys

    Twthill, Caernarfon

    Hydref 2023

    Tendio, procio a hel priciau yw rôl

    yr aelwyd i minnau;

    troi’r glo’n iawn, trio glanhau,

    a’r cynnal wedi’r cynnau.

    Rhan I

    1

    Dyna biti na wnes i ddod â fy narts fy hun gyda mi.

    Mae’n pluo’n ysgafn, a golau neon melyn y bar yn goglais ystlys y noson. Ond arwydd lliwgar bwrdd darts uwch y drws wnaeth ddal fy llygad. Arhosaf. Mae’r drws cyntaf wedi’i ddal ar agor â diffoddwr tân mawr brown ond, ddau gam yn nes i mewn, mae’r ail ddrws â’i wydr barugog ar gau. Clywaf lais sylwebydd pêl-droed yn esgyn a thawelu, cyffroi ac arafu, fel y gwna mewn unrhyw iaith. Dyna ben ac ysgwyddau’n symud yn aneglur y tu draw i’r gwydr. Gwaedd agosach, gynhesach, a chriw bach yn chwerthin.

    Mae gen i awydd tafliad. Cydiaf yn nolen y drws. Efallai fod gan y landlord set sbâr ar ryw silff y tu ôl i’r bar. Ond a allwn i fy mynegi fy hun yn gall? A fyddai’r criw lleol yn tawelu, yn edrych arnaf i’n rhyfedd, fel pe na bawn i’n perthyn? Dydy ardal Kreuzberg ddim yn gyfarwydd i mi.

    Fe af i mewn ryw dro, pan ddof i â fy narts fy hun.

    2

    Doeddwn i erioed wedi bod i Berlin tan bum mlynedd yn ôl. Rwy wedi colli cyfri’n iawn, ond rwy’n dyfalu mai dyma fy neuddegfed ymweliad â’r ddinas bellach. Na, mae’n fwy na hynny. Dydw i’n dal ddim yn adnabod fy ffordd o amgylch yn dda, er bod gen i le i fod yn fwy hyderus ynghylch yr ardaloedd canolog erbyn hyn. Rwy’n troi at Google Maps yn rhy aml pan na fyddaf i yng nghwmni Sioned. Mae’r signal yn syndod o anwadal ac yn fy ngadael yn aml ar groesffordd brysur yn dal fy ffôn i’r awyr yn gobeithio rhwydo bripsach o fap. Gwell fyddai rhoi’r sgrin i lawr ac edrych o ’nghwmpas.

    Ie, roeddwn i’n gywir, Torstraße yw hon. Mae’r dyn bach yn wyrdd, felly ymlaen â mi fan yma a throi i’r chwith. Rwy’n mwynhau’r ffaith bod y dyn bach gwyrdd a choch yn nwyrain Berlin yn gwisgo het. Yr Ampelmännchen yw’r enw arno – dyn bach y golau traffig – ac mae’n un o fanylion Dwyrain yr Almaen sydd wedi goroesi. Mwy na goroesi, mae’n dipyn o eicon yn y ddinas, i’w weld ar fygiau a chardiau post yn y siopau twristaidd, fel y Tŵr Teledu, Porth Brandenburg, y currywurst a’r cwrw. Dydw i ddim wedi bod yn prynu’r taclau twristaidd yma ar fy ymweliadau â Berlin, fel y byddwn i mewn dinasoedd eraill. Ar wahân i’r currywurst a’r cwrw, wrth gwrs.

    Ar fy chweched ymweliad â Berlin yr es i i weld Checkpoint Charlie, a dydw i’n dal heb fod i ben y Tŵr Teledu, y symbol Sofietaidd sy’n sefyll yn drawiadol ben ac ysgwydd uwch y ddinas. Wedi’r cyfan, nid twrist mohonof. Wel.

    Mae fy mherthynas i â Berlin yn go wahanol. Mae’n berthynas gymhleth. Rwy yma i ddod i adnabod y ddinas yn raddol, ac nid fel twrist. Ond na, nid fel un o’i dinasyddion chwaith. Cymro ydw i, yn byw yng Nghaernarfon, a fydda i byth yn ddinesydd Almaenig hyd yn oed os caf gyfle i fyw yma ryw dro. Dydw i chwaith ddim yn debygol o ddysgu’r iaith er fy mod i’n ei chlywed yn go reolaidd ers pum mlynedd. Mae llond dyrnaid o eiriau’r flwyddyn yn glynu, a gallaf archebu diod yn yr iaith a rhoi ambell gyfarchiad cyffredin. Mae’r gystrawen yn aml yn ddieithr i siaradwr Cymraeg a Saesneg, ac un o’r ymadroddion prin rwy wedi’i ddysgu ar fy nghof yw Entschuldigung, ich spreche wenig Deutsch (Esgusodwch fi, ychydig o Almaeneg rwy’n ei siarad). Rwy’n ei ynganu’n rhy grac, medd Sioned.

    A, ie, dyma’r lle, caffi bach MilchHalle, ond mae’r byrddau y tu allan i gyd wedi’u cymryd, ac mae ’na giw at y cownter. Byddai’n ddigon hawdd dod o hyd i siop goffi arall ond rwy’n gartrefol iawn fan hyn. Ac oes! Mae ’na Schokocroissant ar ôl (pain au chocolat yn Gymraeg). Ymunaf

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1