Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Jac a'r Angel
Jac a'r Angel
Jac a'r Angel
Ebook190 pages2 hours

Jac a'r Angel

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

A humorous, charming and sensitive novel. Jac a'r Angel is a lively Christmas story. Children and adults alike can enjoy the 'coming of age' story of an innocent boy who uses his imagination to overcome grief and the dark forces of life.
LanguageCymraeg
PublisherY Lolfa
Release dateNov 16, 2023
ISBN9781800995352
Jac a'r Angel

Related to Jac a'r Angel

Related ebooks

Reviews for Jac a'r Angel

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Jac a'r Angel - Daf James

    Jac_ar_Angel_Daf_James.jpg

    I Bradley, Twm a Nel, ac i Mair,

    a fyddai wedi dwlu arnoch chi lawn cymaint â fi.

    Argraffiad cyntaf: 2023

    © Hawlfraint Daf James a’r Lolfa Cyf., 2023

    © Hawlfraint lluniau: Bethan Mai, 2023

    Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n

    anghyfreithlon llungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw

    Cynllun y clawr: Bethan Mai

    eISBN: 978 1 80099 535 2

    Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978 1 80099 392 1

    Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol

    Cyngor Llyfrau Cymru

    Cyhoeddwyd ac argraffwyd yng Nghymru

    ar bapur o goedwigoedd cynaliadwy gan

    Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE

    e-bost ylolfa@ylolfa.com

    gwefan www.ylolfa.com

    ffôn 01970 832 304

    Y gôl orau erioed

    Hyd nes i Jac gwrdd â’r angel roedd hi wedi bod yn ddiwrnod blincin ych-a-fi. Y bore hwnnw, roedd Dad-cu wedi cysgu’n hwyr eto. Yn ddiweddar, roedd Dad-cu wedi bod yn cysgu’n hwyr yn aml. Ei gloc larwm oedd yn cael y bai ond roedd Jac yn amau bod mwy o fai ar y poteli wisgi gwag oedd yn casglu o gwmpas y tŷ.

    A bod yn hollol onest, roedd Dad-cu wedi bod yn dweud lot fawr o gelwydd yn ddiweddar hefyd. Ddoe, pan soniodd Jac wrtho ei fod wedi gwisgo ei drowsus tu chwith, gwnaeth Dad-cu esgus ei fod wedi gwneud hynny yn fwriadol. Mynnodd hefyd mai clefyd y gwair oedd yn gwneud ei lygaid yn ddagreuol bob dydd, er ei bod hi’n ganol gaeaf. Dywedodd mam Jac wrtho unwaith fod y rhan fwyaf o gelwyddau yn ddrwg, ond bod rhai celwyddau yn gallu bod yn dda. Tybiai Jac mai celwyddau drwg oedd y rhain, ond sut oedd e i fod i wybod? Trueni na allai ofyn iddi hi nawr, ochneidiodd.

    Taflodd Jac ei wisg ysgol amdano yn gyflym. Roedd yn rhaid gwisgo’n gyflym gan ei bod hi’n rhewi yn y tŷ pen teras bach. Rhoddodd ei law ar y rheiddiadur; roedd yn hollol oer! Doedd hyn ddim yn dda. Roedd wastad yn clywed straeon ar y newyddion am hen bobl yn marw mewn cartrefi oer. Sleifiodd ar hyd y landin, heibio i ystafell wely Dad-cu a rhedeg lawr y stâr at y boeler yn y gegin a’i gynnau. Waeth iddo heb fod wedi trafferthu cropian heibio i ystafell Dad-cu a hwnnw’n cysgu ar y soffa, yn chwyrnu fel mochyn.

    Roedd ‘Tad-cu’ yn enw anaddas mewn ffordd, a’r ‘cu’ hwnnw – ‘annwyl’ – yn ei fychanu rywsut, pan nad oedd yn fach o gwbl! Roedd ymhell dros ei chwe throedfedd, â chlustog meddal o fol, a phryd bynnag y byddai’n chwerthin (er nad oedd wedi gwneud hynny ers cryn amser), roedd y ddaear yn crynu o’i amgylch. Roedd Jac yn caru ei GAWR annwyl o dad-cu yn fwy nag unrhyw un arall ar wyneb y ddaear.

    Cymerodd Jac lond llaw o Cornflakes sych a’u gwthio i’w geg – roedd hi’n rhy hwyr i frecwast iawn – a rhoddodd gusan ysgafn ar dalcen Dad-cu. Ych! Roedd wedi dechrau drewi. Pryd yffach gafodd e fàth ddiwethaf? Gwnaeth nodyn iddo’i hunan y byddai’n rhaid iddo ei atgoffa ar ôl ysgol, ac aeth at y drws. Oedd Dad-cu yn mynd i fod yn ddigon cynnes? Aeth i nôl blanced o’r cwpwrdd crasu a’i rhoi drosto. Jyst rhag ofn.

    Mae’n NADOOOOOOOLIIIIIIIIIG!

    Cyn gynted ag yr agorodd Jac y drws ffrynt, bu bron iddo neidio allan o’i groen. Roedd Mr Hughes y postmon yn gwisgo pâr o gyrn carw ar ei ben.

    Ti’n dishgw’l mlân ’te?

    Wel… ym…

    Beth oedd yr ymateb cywir? A oedd hyn yn gyfle i ddweud celwydd da? Ond cafodd Jac ei arbed rhag ateb.

    O, wrth gwrs, mwmialodd Mr Hughes, gan sylweddoli nad oedd yn gwestiwn addas dan yr amgylchiadau. Ar ruthr, taflodd amlen (bil heb ei dalu, siŵr o fod) ar y mat, ac edrych yn druenus ar y tŷ di-liw, cyn martsio i lawr gweddill y teras oedd yn disgleirio â lliwiau Nadoligaidd llachar.

    Chi’n gweld, roedd rheswm da iawn pam nad oedd Dad-cu’n ymddwyn fel fe’i hunan a pham nad oedd Jac yn edrych ymlaen at y Nadolig. Llynedd, roedd wedi disgwyl cael y Nadolig gorau erioed. Ychydig fisoedd cyn hynny, roedd wedi symud o’r ddinas gyda’i fam i fyw gyda Dad-cu, gan ei bod hi’n ei chael hi’n anodd ymdopi ar ei phen ei hunan. Doedd Jac ddim wir yn adnabod ei dad gan i hwnnw adael ei fam cyn iddo fe gael ei eni. Erbyn hyn roedd e’n byw yn Awstralia gyda menyw arall. Pur anaml y byddai’n eu gweld, ac roedd wastad yn lletchwith ofnadwy am nad oedd Dad yn gwybod sut i siarad gyda phlant ac roedd Pauline yn mynnu rhoi cwtsh iddo, ac yn ei wasgu’n lot rhy dynn. Mewn gwirionedd, roedd yn teimlo rhywfaint o drueni dros Pauline, oherwydd gallai weld ei bod hi’n trio’n galed iawn i fod yn gyfeillgar. Ond gan fod ei dad wedi achosi tipyn o boen i’w fam, roedd Jac yn teimlo y byddai’n ei bradychu hi petai e’n rhy garedig i’r ddau…

    Ochneidiodd Jac eto. Roedd yn sefyll islaw polyn lamp ar waelod y teras. Dyma sut roedd hi ar hyn o bryd: meddyliau’n troelli’n gyflym, sydd fawr o help a finnau’n trio dod â chi up to speed â’r stori. Beth bynnag, roedd symud i’r pentref bach hwn – Bethlehem – i fod yn ddechrau newydd iddyn nhw. Dyna oedd y bwriad. Fel arfer, dyma’r math o beth y byddai bachgen ifanc wedi protestio amdano, o bosib: gorfod gadael ei ffrindiau a symud o oleuadau disglair y ddinas. Ond doedd dim lot o ffrindiau gyda Jac ar y pryd; roedd e’n treulio’r rhan fwyaf o’r amser yn chwarae ym myd ei ddychymyg, felly doedd dim ots ganddo ble roedd e’n byw mewn gwirionedd. Fedrai wastad ddianc i unrhyw le yn ei feddwl! A gan fod Jac yn DWLU ar y Nadolig roedd e wrth ei fodd ei fod am gael byw mewn pentref o’r enw Bethlehem. Felly roedd ei Nadolig cyntaf, y llynedd, yn mynd i fod yn hollol sbesial.

    Tan i fam Jac fynd yn dost.

    Wna i ddim manylu gormod ar y salwch ych-a-fi, nid am fy mod i’n trio eich amddiffyn – wedi’r cwbl, doedd neb wedi medru amddiffyn Jac, a dim ond naw oed oedd e ar y pryd – ond petawn i’n disgrifio’r dyddiau o boen a phryder mewn manylder, fydden i byth yn cyrraedd diwedd y bennod yma. Ond doedd y salwch ddim yn neis o gwbl. Aeth mam Jac yn sâl yn ystod yr haf a bu farw ar ddydd Nadolig. Roedd yr amseru yn ofnadwy i grwtyn bach oedd yn caru’r Nadolig. Ymgollodd Jac mewn byd o lyfrau – roedd gan y straeon ddiwedd llawer hapusach na stori ei fam – a darllen am deimladau pobl eraill er mwyn ceisio deall ei deimladau ei hunan. Ond lwyddodd e ddim i ddod o hyd i unrhyw eiriau oedd yn dod yn agos at fynegi ei deimladau cymhleth.

    A’r hyn oedd yn gwneud pethau’n waeth oedd ei fod yn beio’i hunan: pe na bai hi wedi gorfod edrych ar ei ôl e, yna falle na fyddai hi wedi symud i Fethlehem ac wedyn, falle, fyddai hi ddim wedi mynd yn sâl. Doedd hyn ddim yn wir, wrth gwrs. Roedd yr un mor wirion â dweud pe na bai Jac wedi sefyll ar yr hollt yna yn y pafin ar ei ffordd i’r ysgol, neu petai ond wedi dal ei anadl tan ddiwedd twneli Brynglas, byddai ei fam yn fyw o hyd. Y gwir amdani yw, ambell waith mae pobl yn mynd yn sâl ac yn marw, a does dim bai ar neb. Ond roedd hynny’n fwy anodd i’w dderbyn rywsut, felly roedd yn well gan Jac feio’i hunan, a dianc i fyd hud a lledrith ei ddychymyg i leddfu’r boen.

    Ond doedd dim hud a lledrith yn nhŷ Jac y Nadolig hwn. Dim coeden Nadolig, dim tinsel, dim goleuadau llachar, dim. Fyddai ddim dathlu o gwbl yn nhŷ Jac y Nadolig hwn. Pan awgrymodd i’w dad-cu y gallen nhw gael coeden i godi eu calonnau, dywedodd Dad-cu wrtho nad oedd e eisiau codi ei galon. Roedd yn ddigon bodlon teimlo’n hollol gachlyd, diolch yn fawr iawn. Doedd dim Nadolig i fod yn y tŷ yma eleni!

    Dwi’n siŵr y gallwch chi ddychmygu pa mor fed up roedd Jac yn teimlo ar y ffordd i’r ysgol, yn enwedig gan nad oedd yn hoffi’r ysgol ryw lawer. Roedd hi wedi bod yn anodd setlo yno. Roedd rhai o’r plant yn y dosbarth yn gwneud ei fywyd yn anodd; ac er bod ganddo un ffrind ardderchog – Sam – sydd lot gwell na chael nifer fawr o ffrindiau gwael, doedd Jac ddim wedi sylweddoli gwerth hyn eto.

    Serch hynny, roedd Jac yn meddwl bod Sam yn hollol ffabiwlys. Roedd ganddi wallt byr golau, a doedd hi ddim yn becso am beth roedd pobl eraill yn ei feddwl ohoni. Pryd bynnag y byddai hi’n dadlau gyda Jac, gallai wastad wneud iddo faddau iddi drwy wneud dawns wirion. Hi oedd y math o ffrind oedd yn gwneud i chi deimlo’n saff yn y byd: fel petai ganddi’r atebion i bopeth, er mai dim ond deg oed oedd hi.

    Be sy’n bod arnot ti, Jac y Jwc? Dyrnodd Sam ei ysgwydd ychydig yn rhy galed wrth ei gyfarch wrth giât yr ysgol.

    Dim byd.

    Ma ’da ti gornfflec yn styc yn dy ddant.

    Methodd Jac â’i gael allan.

    Oes rhaid i fi neud popeth i ti? Eiliad yn ddiweddarach tynnodd y cornfflec o’i geg. Ti isie fe?

    Ysgydwodd Jac ei ben a gwthiodd Sam e i’w cheg ei hunan a’i lyncu’n syth bin.

    Ges i ddim brecwast bore ’ma, o’n i’n hwyr i Taekwondo.

    Doedd gan Jac ddim syniad beth neu pwy oedd Taekwondo, ac roedd arno ofn gofyn. Doedd dim posib dal i fyny â Sam. Roedd hi byth a beunydd yn mynd i weithgareddau gwahanol y tu allan i’r ysgol. Nofio, merlota, saethu, jiwdo. Roedd Jac yn aml yn meddwl sut roedd ganddi amser i gysgu. Roedd ei fam o’r farn mai’r rheswm fod Sam mor ofnadwy o brysur o hyd oedd bod ei rhieni yn ffermwyr gyda work ethic cryf. Doedd Jac ddim yn rhy siŵr o ystyr hyn, ond roedd yn argyhoeddedig yr hoffai e gael work ethic cryf ryw ddiwrnod hefyd. Roedd yn swnio’n hynod bositif. Roedd wedi rhoi cynnig ar jiwdo unwaith gyda Sam ond roedd wedi cael cymaint o sioc pan wnaeth hi ei daflu i’r llawr, fe darodd rech fach ar ddamwain. Roedd Sam wedi esgus peidio â sylwi, ond roedd yr hyfforddwr wedi chwerthin yn uchel a’i alw’n ‘Farty Pants’ am weddill y sesiwn, felly aeth Jac fyth yn ôl.

    Roedd Jac wedi ymgolli cymaint yn ei feddyliau fel na sylwodd ar y bêl yn hedfan tuag ato hyd nes iddi ei fwrw’n glec ar ochr ei ben. Rhwbiodd ei glust a chanolbwyntio yn galed ar atal y dagrau bach poeth rhag syrthio o’i lygaid.

    Cica hi’n ôl, y ffagot.

    Dyma rai o’r geiriau roedd Jac yn eu hofni fwyaf yn y byd. Ddim y gair ffagot. Yn ei farn e, roedd hwnnw’n air hollol hurt i alw ar rywun gan fod ffagots yn flasus iawn, yn enwedig gyda grefi. Ond i Jac, roedd ‘cicia hi’n ôl’ cynddrwg â’r geiriau ‘mae’n newyddion drwg’, ‘mae prawf mathemateg ’da ti’ a ‘Jac, wyt ti wedi anghofio sychu dy ben-ôl yn iawn?’.

    Cica hi’n ôl, y ffagot, wedes i.

    I fod yn hollol onest, doedd Dyfed Roberts ddim cweit yn siŵr beth oedd e’n olygu wrth alw Jac yn ffagot chwaith, ond roedd wedi clywed ei dad yn ei weiddi unwaith. Petai Dyfed wedi dysgu gwenu mwy byddai wedi bod yn fachgen golygus, ond roedd ei grechwenu cyson wedi caledu ei wyneb, ac roedd felly’n dishgw’l fel ellyll mawr. Roedd Dyfed hanner troedfedd yn dalach na’r bechgyn eraill, ac er ei wyneb pwdlyd, roedd dal yn apelio at lawer o’r merched yn ei ddosbarth (ac un neu ddau o’r bechgyn hefyd. Ond doedden nhw ddim yn teimlo y gallen nhw rannu hynny eto, yn anffodus, felly roedden nhw’n gwneud y tro â chwarae pêl-droed gydag e).

    Cica hi! Torrodd sgrech fain Agnest Heron ar draws y tawelwch. Merch fileinig, oedd yn aml wedi ei gludo i fraich Dyfed fel plastr. Erbyn hyn, roedd yr iard ysgol gyfan wedi stopio ac yn dangos diddordeb mawr yn beth oedd yn digwydd. Hyd yn oed plant y Dosbarth Derbyn. Safodd Jac yn stond. Roedd ganddo ddau ddewis: cicio’r bêl a chael pawb yn chwerthin am ei ben, neu wrthod cicio’r bêl, a chael pawb yn chwerthin am ei ben ta beth.

    "Ti’n gyment o gachgi, Jac. No wonder bod dy fam ’di marw! O’dd ’da hi ormod o gywilydd ohonot ti i fyw!"

    Am beth creulon i’w ddweud – hyd yn oed i Dyfed – a phe bai Jac wedi edrych, byddai wedi gweld y bechgyn eraill yn edrych tua’r llawr mewn cywilydd hefyd. Ond roedd Jac yn syllu’n galed iawn ar ei esgidiau fel na fyddai neb yn sylwi arno’n crio. Flynyddoedd yn ddiweddarach, pan gollodd Dyfed ei fam ei hunan mewn damwain car, cofiodd y digwyddiad hwn, a beichio llefain hefyd. Ond heddiw, doedd dim empathi o gwbl ganddo.

    CICA HI! sgrechiodd.

    Yna, fel gwyrth, saethodd Sam o ochr Jac â’r bêl fel bwled wrth ei thraed. Sylweddolodd Jac ddim beth oedd yn digwydd tan iddo ei gweld yn rhedeg tuag at Dyfed fel babŵn gwyllt.

    C’mon, ’te! gwaeddodd. Deifiodd y plant allan o’i ffordd, gan syrthio fel dominos.

    Cica DI hi, Dyfed! heriodd Sam, gan anelu’r bêl ato.

    Doedd dim gobaith gan Dyfed. Driblodd Sam y bêl tuag ato a’i saethu hi rhwng ei goesau. Chwipiodd hi i fyny â’i throed dde, neidio i’r awyr, cyn ergydio’r bêl â’i phen i’r gôl ym mhen draw’r iard. Dywedodd rhai yn ddiweddarach ei bod hyd yn oed wedi gwneud

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1