Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Gŵr y Dolau (eLyfr)
Gŵr y Dolau (eLyfr)
Gŵr y Dolau (eLyfr)
Ebook192 pages2 hours

Gŵr y Dolau (eLyfr)

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

(The Welsh novel Gŵr y Dolau by William Llewelyn Williams) - eBook version


W. Llewelyn Williams

LanguageCymraeg
PublisherMelin Bapur
Release dateMay 27, 2024
ISBN9781917237178
Gŵr y Dolau (eLyfr)

Related to Gŵr y Dolau (eLyfr)

Related ebooks

Related categories

Reviews for Gŵr y Dolau (eLyfr)

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Gŵr y Dolau (eLyfr) - William Llewelyn Williams

    1

    Gŵr y Dolau

    W. Llewelyn Williams

    Gŵr y Dolau

    Roedd William Llywelyn Williams (1867-1922) yn newyddiadurwr, yn gyfreithiwr ac yn wleidydd yn ogystal â nofelydd. Bu’n Aelod Seneddol dros

    Gaerfyrddin o 1906-1918.

    Ysgrifennodd ei ddwy nofel yn ystod yr 1890au ac roeddynt ymhlith rhai mwyaf poblogaidd ei oes, nid lleiaf oherwydd eu portread hoffus o gefn gwlad Sir Gaerfyrddin, ac yn enwedig o dafodiaith yr ardal.

    Comedi cymdeithasol yw Gŵr y Dolau sy’n dychanu cymeriadau bro enedigol yr awdur. Hon oedd y nofel Gymraeg gynharaf gan awdur o Dde Cymru i fod yn destun clod ysgolheigion yr 20fed ganrif.

    Llun y clawr:

    Schmeide (1886)

    George Schöbel (1858-1928)

    Statws llun: Parth Cyhoeddus

    Hawlfraint y testun diwygiedig yn y fersiwn hwn:

    ©Melin Bapur, 2024

    Cedwir pob hawl. Ni ellir atgynhyrchu unrhyw ran o’r llyfr hwn heb ganiatâd, heblaw at

    ddibenion adolygiad llyfr.

    ISBN:

    978-1-917237-17-8 (eLyfr)

    W. Llewelyn Williams

    Gŵr y Dolau

    neu

    Ffordd y Troseddwr

    Llyfrgell Gymraeg Melin Bapur

    Golygydd Cyffredinol: Adam Pearce

    William Llewelyn Williams A. S. (1867-1922)

    Ymddangosodd y llun yn 1906

    2

    Rhagair

    Disgrifiodd Dafydd Jenkins i’r nofel Gymraeg fod yn crwydro yn yr anialwch am ddegawdau yn dilyn marwolaeth Daniel Owen, y nofelydd mawr cyntaf yn yr iaith:

    Nid symud ymlaen o’r fan a gyraeddasai Daniel Owen a wnaeth y nofelwyr Cymraeg a ddaeth ar ei ôl ef, ond graddol ymlwybro tua’r fan honno, a phrin y mae neb ohonynt eto wedi’i chyrraedd.

    Nid bychanu camp Daniel Owen yw dweud ei bod hi’n hen bryd i’r safbwynt hwn, a adlewyrchir mewn mannau fel y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, gael ei herio. Nid yn unig ydyw’n llwyr ddibrisio camp nofelwyr mawr y genhedlaeth ar ôl Owen—T. Gwynn Jones a Gwyneth Vaughan—ond mae’n diystyru hefyd torf fawr o nofelwyr llai yr oedd eu nofelau’n boblogaidd iawn yn ystod eu cyfnod, ac sy’n haeddu cydnabyddiaeth am eu cyfraniad at draddodiad y nofel Gymraeg. Fodd bynnag, yr hyn mae’r syniad o anialwch y nofel Gymraeg yn llwyddo i’w gyfleu yw maint a dylanwad y cysgod a daflodd Owen ar y nofelwyr a’i ddilynodd.

    O holl nofelwyr yr anialwch a dderbyniodd unrhyw fath o gydnabyddiaeth feirniadol o gwbl, gan W. Llewelyn Williams (1867-1922) hwyrach oedd y ddyled fwyaf i’r nofelydd o’r Wyddgrug. Nid beirniadaeth o gwbl yw cydnabod hynny. Er bod cefndir a phrofiad bywyd Williams yn dra gwahanol i’w ragflaenydd, mae ei ddyled iddo mor amlwg fel amhosib yw trafod Gŵr y Dolau—unig nofel aeddfed Williams—heb wneud hynny yng nghyd-destun gwaith Owen.

    Mae’r nofel yn datblygu mewn ffordd debyg iawn i ran gyntaf Rhys Lewis neu Gwen Tomos, sef gyda chyfres o olygfeydd sy’n sefydlu’r prif gymeriadau: Dafi Jones, Nat, yr Hen Binacl ac ati. Yn union fel Owen, nofelydd cymeriadau yw Williams, ac wrth bortreadau’r cymeriadau hyn mae’n dangos ei ddawn. O ran y cymeriadau eu hunain, mae nifer ohonynt yn debyg i’r mathau o gymeriadau yr oedd Owen mor hoff o ddwyn gerbron ei ddarllenwyr: gallasai Sali a Leisa’r llaethwraig fod yn gyfnitherod i Marged yn Enoc Huws; mae’r Hen Binacl yn bur debyg i ryw hanner dwsin o bregethwyr neu flaenoriaid pybyr Owen. Er nad yw Benni Bach neu Nat yn union debyg i Wil Bryan, mae elfennau ohono ynddynt, ac yn eu swyddogaeth fel cymeriadau digrif sydd, er eu digrifwch, yn dangos rhagrith a ffolineb cefnsyth y cymeriadau eraill (rôl y gellir ei olrhain ymhell iawn yn ôl i orffennol llenyddiaeth y Gorllewin).

    Ni ddylid meddwl serch hynny mai dim ond efelychu Owen oedd Williams. Diystyriwn y gwahaniaeth arwynebol mai nofelydd o Sir Gaerfyrddin a’r De-orllewin oedd un a nofelydd o’r Wyddgrug a’r Gogledd-ddwyrain oedd y llall—roedd y ddau yn nofelwyr eu milltir sgwâr, yn portreadu broydd eu mebyd a’u cymeriadau—roedd eu cefndir personol yn dra gwahanol i’w gilydd. Er gwaethaf ‘coleg’ Daniel Owen yn siop deiliwr Angel Jones, hunan-ddysgedig ydoedd yn y bôn, heb fanteision addysg Rydychen W. Llewelyn Williams. Yr addysg a’r cefndir mwy cosmopolitan hwn sy’n esbonio rhai o’r gwahaniaethau rhwng y ddau nofelydd: ni chreodd Daniel Owen, er enghraifft unrhyw gymeriad tebyg i Robin o’r Llwyn. Dyma greadigaeth gŵr a chanddo gydnabyddiaeth lawnach o draddodiad barddonol ei wlad, heb sôn am ei hanes; digon i deimlo y gallai ei ddychanu. Mae byd y Cymry alltud yn Rhagarweiniad Gŵr y Dolau yn sicr yn rhywbeth na fyddai Owen wedi’i bortreadu. Os gellid dweud nad yw byd ffuglen W. Llewelyn Williams hwyrach mor ddwfn ag eiddo Daniel Owen, mae’n un lletach, a hwyrach ei fod hefyd yn awdur yn fwy goddefgar. Mae cryn ddadlau wedi bod ynghylch i ba raddau yr oedd Daniel Owen yn rhagfarnllyd tuag at yr enwadau eraill ai peidio, ond y gwir yw na fyddai Owen chwaith wedi creu cymeriad fel Mr. Rowlands y ciwrat, sef eglwyswr y mae’r darllenydd i fod i gyd-ymdeimlo ag ef a’i hoffi. Soniwyd llawer am y ffaith nad oedd Owen ei hun yn ddirwestwr, a bod ei berthynas bersonol â dirwest yn gymhleth felly ’i fod felly yn gyndyn i gollfarnu’r meddwyn pechadurus yn ddiamod fel y gwnaethai llawer i nofelydd oes Fictoria; ond beth bynnag am hynny mae cwymp Dafi Jones yn Gŵr y Dolau yn bortread mwy cydymdeimladol a thosturiol o feddwyn nag a geir mewn unrhyw un o nofelau Owen.

    Mae tebygrwydd mawr rhwng Williams ac Owen serch hynny o ran prif wendid eu nofelau, sef y gwendid sy’n nodweddu pob un o nofelau’r ddau awdur ac eithrio Enoc Huws: y plot. Prin fod yna blot o gwbl i Gwilym a Benni Bach, ffaith y gellir ei faddau mewn gwaith mor fyr a chyfyng ei orwelion. Mae plot Gŵr y Dolau rywfaint yn gryfach, ond â’r nofel gymaint yn fwy uchelgeisiol na nofel gyntaf yr awdur mae’n wendid amlycach ynddi o’r herwydd. Mae’r Rhagarweiniad yn ein harwain i feddwl mai dilyn hynt a helynt Gladys yn dychwelyd i fro ei mebyd y byddwn; ond wedyn yn y bennod gyntaf cyflwynir cymeriad hollol newydd yn Dafi Jones. Ef yw Gŵr y Dolau, ond os yw hynny’n ein harwain i ddisgwyl iddo fod yn ganolbwynt y nofel o hyn ymlaen, camarweiniol yw hynny, oherwydd caiff ei roi o’r neilltu bron yn llwyr er mwyn dilyn helyntion ei gyfaill Nat y Gof am ychydig benodau, cyn i Gladys ddychwelyd i’r llwyfan, ychydig llai na hanner ffordd drwy’r llyfr. Dilynwn wedyn cymeriad hollol newydd eto yn Mr. Rowlands y ciwrat, a’i ymdrechion chwithig i ennill calon Gladys, cyn ail-gydio yng Ngŵr y Dolau ei hun o’r diwedd, dim ond i’w yrru i’r bedd yn gyflym gan rym fwyaf nerthol ffuglen oes Fictoria: y foeswers. O edrych ar y nofel yn ei chyfanrwydd gwelwn mai Nat, mewn gwirionedd, yw’r peth agosaf sydd at brif gymeriad yn y nofel; yn yr ystyr mai ef sy’n cael y sylw mwyaf, ac ef yn unig sy’n dangos unrhyw fath o ddatblygiad neu newid wrth i’r nofel ddirwyn at ei diwedd.

    Mae’r newid ffocws parhaus yma, bron ar fympwy, yn awgrymu nad oedd Williams yn gwybod mewn gwirionedd pa fath o nofel yr oedd arno eisiau ei hysgrifennu, neu ar y gorau nad oedd rhyw lawer o gynllun ganddo mewn golwg wrth ddechrau (cyffelybiaeth arall rhwng Williams a Daniel Owen). Mae tynged Dafi Jones yn awgrymu mai nofel ddirwest a fwriadwyd i hon fod yn y bôn; serch hynny mae’r foeswers yn teimlo fel atodiad y teimlodd yr awdur bod rhaid iddo’i gynnwys yn hytrach na rhywbeth yr oedd mewn gwirionedd eisiau canolbwyntio arno. I Dafydd Jenkins gwendid mewn safbwynt oedd hyn, am fod [yr awdur] yn ystumio’i farn i gydymffurfio â chonfensiwn ei ddydd. Mae’n hollol amlwg o ddarllen nofelau Williams mai fel awdur comedïau cymdeithasol y rhagorai’r awdur (tebygrwydd eto fyth i Daniel Owen), ac mae’r foeswers yn Gŵr y Dolau yn teimlo’n chwithig am na lwyddodd yr awdur i’w gydblethu i’r plot mewn ffordd naturiol.

    Beirniadaethau eithaf difrifol yw’r rhain, a hawdd deall sut y mae rhai, er enghraifft R. T. Jenkins wrth grynhoi gyrfa W. Llewelyn Williams yn y Bywgraffiadur, yn diystyru nofelau’r awdur yn llwyr. Fodd bynnag mae rhagoriaethau nofelau W. Llewelyn Williams yn disgleirio mor llachar fel iddynt eu dyrchafu uwchlaw’r gwendidau strwythurol hyn, a mynnu ein hystyriaeth a’n gwerthfawrogiad. Mae’r rhyddiaith hyd heddiw’n ddarllenadwy a huawdl, a’r ddeialog yn naturiol (fe ddychwelwn at y dafodiaith). Mae’r ffaith mai nofel digon byr yw Gŵr y Dolau yn gwneud y diffyg strwythur a chyfeiriad yn llai o broblem nag ydynt yn Rhys Lewis, er enghraifft: nid yw’r nofel hon yn aros yn hwy na’i chroeso. Fel y dwedwyd eisoes, portreadu cymeriadau oedd prif gryfder Williams fel nofelydd, ac yn hynny o beth rhagorai ar lawer i awdur, megis T. Gwynn Jones, y mae eu gweithiau’n dangos adeiladwaith strwythurol sicrach o lawer. Cofiodd ufuddhau i un o reolau aur ysgrifennu creadigol, sef y dylid dangos i’r darllenydd hanfodion cymeriadau neu sefyllfa yn hytrach na’u hesbonio. Rhoddwn y foeswers gwan, ystrydebol o’r neilltu, ac edrych yn hytrach ar bennod XX er enghraifft. Uchafbwynt emosiynol y nofel yw’r bennod hon: portread dirdynnol a phrydferth o faddeuant a chariad priodasol. Mae celfyddyd yr olygfa hon yn ei chodi ymhell uwchlaw diben digon confensiynol ei chyd-destun yn y stori. Buasai’r bennod hon yn gwneud stori fer effeithiol pe tynnid hi allan o’i chyd-destun, a gellid dweud yr un peth am nifer o benodau Gŵr y Dolau. Mae llawer o’r golygfeydd digrif er enghraifft yn gofiadwy iawn ar eu pennau eu hunain, megis caru trwstan y ciwrat druan, neu’r bererindod i goed y Parc.

    Ni ellir trafod gwaith W. Llewelyn Williams chwaith heb grybwyll ei ddefnydd o dafodiaith. Roedd awduron eraill wedi ceisio portreadu tafodieithoedd amrywiol y Gymraeg cyn i Williams wneud, ond neb mor fanwl na mor helaeth, na chwaith gan grwydro mor bell oddi wrth gonfensiynau’r iaith lenyddol. Er mai anuniongyrchol hwyrach yw’r dylanwad, yn hyn mae Williams yn rhagflaenydd ar yr holl awduron Cymraeg eraill a wnaeth yr un peth yn ddiweddarach, o Caradog Prichard i Robin Llywelyn. Darllen hanfodol yw nofelau Williams i bawb sy’n ymddiddori mewn tafodieithoedd y Gymraeg, ond yn fwy na hynny mae iaith ei gymeriadau’n cyfrannu nid ychydig at mor fyw, hoffus a chofiadwy ydynt.

    Os nad oedd Dafydd Jenkins yn gywir ynghylch anialwch y nofel Gymraeg, anodd serch hynny yw anghytuno â’i ddarlleniad sylfaenol o Gŵr y Dolau, ac anodd meddwl am grynodeb gwell o’i rinweddau a’i ffaeleddau na’i eiddo ef:

    Nid yw hi o bell ffordd yn nofel berffaith: nid oes gynllun a phlot cymen iddi, ond mae ynddi ddefnyddiau sy’n dangos fod Llewelyn Williams yn wir nofelydd. Ym mhensaernïaeth y cyfanwaith y mae’r llyfr yn colli: mae crefftwaith y penodau’n llawer gwell, a’r darlunio ar gymeriadau’n feistrolaidd. Mae bron pob cymeriad unigol wedi’i ddarlunio gan greawdwr sy’n ei garu er ei fod yn sefyll yn ddigon pell wrtho i’w weld yn gyflawn fel y mae, gyda’i rinweddau a’i wendidau’n ymuno i’w wneud ychydig yn ddigrif er ei waethaf. Hynny yw, mae pob cymeriad wedi’i ddarlunio gan nofelydd.

    AP2024Nodyn ar y testun:

    Seiliwyd y testun hwn ar destun cynharaf Gŵr y Dolau, sef yr un ymddangosodd ar dudalennau y Genedl yn 1898. Rydym wedi cadw at ddefnydd wreiddiol yr awdur mewn pob achos nad oedd yn anramadegol neu’n orgraffyddol yn unig, yn wahanol i rai golygiadau diweddarach o’r llyfr, er enghraifft golygiad Thomas Jones yn 1946, newidiodd enw Gladys i Gwladus, ymhlith newidiadau eraill. Newidiadau orgraffyddol yn unig a wnaed i’r deialog.

    1

    Rhagarweiniad

    Pe chwilid Llundain ben bwygilydd, ni ddigwyddid ar gwmni mwy difyr nag a welid yn ystafell Bob ’y mrawd, a Gladys, ei chwaer, ar nos Wener cyn Nadolig, 1895, yn No. 2, Cambridge Mansions, gerllaw’r Amgueddfa Brydeinig. Wrth edrych ar y wynebau llon, a gwrando ar y rhialtwch trystfawr, anhawdd fuasai gan neb gredu fod gofal byd yn blino un o’r fintai ddiddan. Eto, nid oedd y llawenydd ond arwynebol, oblegid wedi dod i ffarwelio â Bob yr oedd ei gyfeillion.

    Gyda’r wawr drannoeth yr oedd Bob yn hwylio tua Deheubarth Affrica, ac ni wyddai neb pryd y gwelid ef drachefn yn Cambridge Mansions. Gofidiai degau ac ugeiniau o Gymry ieuainc y Brifddinas pan glywsant y newydd.

    Robert Bowen yn ’madel? meddent. Beth ddaw o’r Eisteddfodau a’r Cyngherddau a’r Cyrddau Diwylliadol pan na fydd ef gyda ni?

    Canys nid oedd un cyfarfod Cymreig yn gyflawn yn Llundain ers blynyddoedd heb Bob, a galerid ar ei ôl gan lu nad adwaenai ef mo’u hwynebau.

    Ond ymaith yr oedd yn rhaid i Bob gychwyn, ac i bellteroedd daear Newyddiadurwr oedd Bob o ran ei grefft. Yr oedd si yn y gwynt fod Cecil Rhodes yn cynllunio rhywbeth mawr, a phenderfynodd perchenogion newyddiadur Bob ddanfon gohebydd arbennig i Ddeheubarth Affrica. Gan fod Bob wedi ennill ymddiriedaeth y golygydd, arno ef y syrthiodd y goelbren. Nid gwiw iddo feddwl am ballu; yr oedd y cyfle yn rhy werthfawr i’w wrthod ac er mor galed ymadael, a thorri eu cartref bach i fyny, penderfynodd Gladys a Bob gadw eu calonnau’n siriol, gan edrych yn hytrach at daledigaeth y gwobrwy, pan y cawsent gydgyfarfod drachefn ar ôl llawer o ddyddiau.

    Bob ’y mrawd y gelwid Robert Bowen gan ei holl gydnabod, am mai fel hynny y byddai Gladys yn sôn amdano—byth oddi ar pan ddechreuodd Winnie Parry ysgrifennu hanes y teulu hapus hwnnw yn Sir Gaernarfon. Ni allai neb, meddai Gladys, fod wedi ysgrifennu am Bob heb yn gyntaf adnabod ei brawd. Ni chodwyd yng Nghymru erioed fachgen mwy hynaws a serchog na Robert, ac ni allai neb, yn enwedig os meddai galon agored a chynes, aros yn hir yn ei gwmni heb ei alw yn Bob neu Bob ’y mrawd. Yr oedd golwg ar ei wyneb hawddgar, a sŵn ei chwerthiniad iachus, yn gystal â phythefnos o fôr, yn ôl tystiolaeth Sali Nat, ac yn well na galwyni o foddion doctor. Er mor felys ei natur, cafodd lawer dyrnod chwerw wrth ymladd â’r byd. Collodd ei rieni pan yn ieuanc, ac er nad oedd ond wyth ar hugain oed, yr oedd wedi bod yn ennill ei damaid ar newyddiaduron ers deuddeng mlynedd. Bu’n brwydro’n galed am flynyddoedd, ond erbyn Nadolig 1895 yr oedd wedi sicrhau iddo ei hun safle cysurus, ac yr oedd ei chwaer fach—oblegid yr oedd, Gladys wyth mlwydd yn iau nag ef—wedi bod yn cadw tŷ iddo ers yn agos i ddwy flynedd. Dyma’r adeg ddedwyddaf yn mhrofiad Bob—pan y bu ef a Gladys fyw gyda’i gilydd yn Cambridge Mansions; ni wyddai ef beth oedd ystyr cartref o’r blaen; ac nid oedd yn rhyfedd fod ei galon yn trymhau wrth feddwl am ffarwelio—fe allai am byth—â’r chwaer yr hon oedd ei unig berthynas agos yn y byd.

    Nid rhyfedd, meddaf, fod Bob yn drist, a phe bai tithau, ddarllenydd mwyn, yn adwaen Gladys, ni fuaset yn synnu oherwydd ei ofid. Ni chymeraf arnaf ei disgrifio hi. Nid oedd o daldra mwy na chyffredin, ond gan mor lluniaidd a gwylaidd

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1