Siân Phillips
()
About this ebook
Siân Phillips is one of Wales's most iconic actresses ever. As she celebrates her 90th birthday, this volume records her interesting and entertaining life and career - both full of variety and drama.
Hywel Gwynfryn
Hywel Gwynfryn has been one of the best-known names in the world of radio, television and entertainment in Wales for over half a century. A native of Anglesey, he lives in Cardiff with his wife, Anja, and works as a broadcaster and writer.
Related to Siân Phillips
Related ebooks
Theatr y Gymraes: Byth Rhy Hwyr, Mefus, Mab Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsLlwyfannu’r Genedl Anghyflawn: Iaith a Hunaniaeth yn y Theatr Gymraeg Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCranogwen Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsPerfformio'r Genedl: Ar Drywydd Hywel Teifi Edwards Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsY Gyfraith yn ein Llên Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsClywed Cynghanedd - Cwrs Cerdd Dafod Rating: 3 out of 5 stars3/5Leila Megane: Ei Dawn a'i Stori Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsAllet Ti Beswch!: Allet Ti Beswch Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsYn Blwmp ac yn Blaen Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsHer a Hawl Cyfieithu Dramâu: Saunders Lewis, Samuel Beckett a Molière Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsStafell Ddirgel, Y Rating: 4 out of 5 stars4/5O'r Aman i'r Ystwyth Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyfres Clasuron: Cerddi T. H. Parry-Williams Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsHanes Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsMadam Wen (eLyfr) Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsNansi Lovell: Hunangofiant Hen Sipsi Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsMynd Fel Bom Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsRhywle Fel Hyn Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsDramâu'r Rhosys Cochion: Ede Hud, Holl Liwie'r Enfys, Trafaelu ar y Trên Glas Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsMerêd - Dyn ar Dân Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsHi-Hon: Casgliad o straeon ac ysgrifau gan fenywod am eu profiadau o fywyd yn y Gymru gyfoes Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsHunanbortread David Griffiths Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCyw Haul Rating: 3 out of 5 stars3/5Gynghanedd Heddiw, Y Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsDychmygu Iaith Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsHiwmor Tri Chardi Llengar Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsCuddwas Rating: 4 out of 5 stars4/5Nest Merfyn (eLyfr) Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsBreision Rating: 0 out of 5 stars0 ratingsStori Cymru - Iaith a Gwaith Rating: 0 out of 5 stars0 ratings
Reviews for Siân Phillips
0 ratings0 reviews
Book preview
Siân Phillips - Hywel Gwynfryn
I Anja sydd yno’n wastadol,
lle bynnag y byddaf
Argraffiad cyntaf: 2023
© Hawlfraint Hywel Gwynfryn a’r Lolfa Cyf., 2023
Mae hawlfraint ar gynnwys y llyfr hwn ac mae’n anghyfreithlon llungopïo neu atgynhyrchu unrhyw ran ohono trwy unrhyw ddull ac at unrhyw bwrpas (ar wahân i adolygu) heb gytundeb
ysgrifenedig y cyhoeddwyr ymlaen llaw
Dymuna’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol
Cyngor Llyfrau Cymru
Cynllun y clawr: Y Lolfa
Llun y clawr blaen: Getty Images
eISBN: 978-1-80099-565-9
Rhif Llyfr Rhyngwladol: 978-1-80099-383-9
Cyhoeddwyd, rhwymwyd ac argraffwyd yng Nghymru gan
Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion SY24 5HE
gwefan www.ylolfa.com
e-bost ylolfa@ylolfa.com
ffôn 01970 832 304
Cynnwys
Rhagair
Cyflwyniad
Pennod 1
Pennod 2
Pennod 3
Pennod 4
Pennod 5
Pennod 6
Pennod 7
Pennod 8
Pennod 9
Pennod 10
Pennod 11
Pennod 12
Pennod 13
Pennod 14
Pennod 15
Pennod 16
Pennod 17
Pennod 18
Pennod 19
Pennod 20
Pennod 21
Pennod 22
Lluniau
Diolchiadau
Ffynonellau
Rhagair
Yn y gyfrol hynod ddifyr hon cawn, am y tro cyntaf yn y Gymraeg, hanes manwl bywyd a gyrfa Siân Phillips, yr actor byd-enwog o Waencaegurwen. Dyma gofiant gwerth ei ddarllen, gan fod yr awdur, Hywel Gwynfryn, yn meddu ar y ddawn brin honno o ddenu’r darllenydd i ymgolli yn hynt a helynt taith wefreiddiol, syfrdanol y gwrthrych i uchelfannau byd y theatr, teledu, ffilm a radio.
Cawn yn ogystal sythwelediad i fywydau preifat (arteithiol ar brydiau) Siân Phillips, Peter O’Toole, ei hail ŵr, a Robin Sachs, ei thrydydd gŵr, a oedd ddwy flynedd ar bymtheg yn iau na hi. Ni fyddai’r gair ‘lliwgar’ ond yn hanner disgrifio bywyd cyffrous Siân Phillips, ac un o gryfderau’r cofiant yw’r modd gonest ond sensitif y cyflëir y cyfan gan yr awdur. Ond ei doniau fel actor a erys yn y cof, ynghyd â chadernid ei chymeriad a’i phenderfyniad diysgog i gyrraedd y brig yn ei phriod faes. Dyma rara avis, aderyn prin a fu’n rhannu llwyfannau gydag actorion, cyfarwyddwyr a dramodwyr blaenllaw ei chyfnod. Nid yw’n syndod fod y Fonesig Siân Phillips, er gwaethaf pob anhawster a ddaeth i’w rhan, wedi ennill gwobrau lu.
Dengys rhan gyntaf y gyfrol sut yr ymwreiddiodd yn ddwfn yn nhir a daear Cymru. Cawn weld sut (a phaham) y bu Cymry Cymraeg amlwg megis Saunders Lewis, Emyr Humphreys a’r Athro Moelwyn Merchant (un o’i darlithwyr yn Adran Saesneg Prifysgol Caerdydd) yn gefn iddi. Yn wir, bu Moelwyn Merchant yn ffrind allweddol pan oedd yn fyfyrwraig anturus a chwbl anghonfensiynol yn y Brifysgol.
Yn ei ddarlith ar y grefft o berfformio dramâu Shakespeare, a draddodwyd yn 1976 yn eglwys Llanddewi Brefi, cyfeiriodd yr Athro Merchant yn ganmoliaethus at sgiliau actio Siân Phillips, ei gyn-ddisgybl. Canmolodd yn arbennig ei phenderfyniad di-sigl i ennill ysgoloriaeth i RADA a dilyn gyrfa, a honno’n yrfa ansicr ac anodd, ym myd y theatr broffesiynol. Yn ei ffordd theatrig ei hun, dyfynnodd Moelwyn Merchant linellau olaf y gerdd ‘The Road Not Taken’ gan y bardd Americanaidd Robert Frost:
Two roads diverged in a wood, and I –
I took the one less travelled by,
And that has made all the difference.
Aeth rhagddo i ganu clodydd Siân am iddi ddewis troedio’r llwybr cystadleuol, ansefydlog a arweiniai at lwyfannau’r theatr broffesiynol: ‘This young Welsh girl from Gwauncaegurwen chose to leave her safe and secure place in the land of her birth and enthusiastically embraced the major challenges of the English and international theatre scene.’
Er cymaint oedd edmygedd Moelwyn Merchant o ddoniau Siân, nid ef, ond yn hytrach Saunders Lewis, oedd y catalydd a sicrhaodd ei bod yn gadael Cymru am RADA. Wrth ei gweld, pan oedd yn ferch ifanc, yn perfformio yng Nghymru, sylweddolodd y dramodydd ei bod yn meddu ar sgiliau actio tra addawol, ond yr oedd angen meithrin a datblygu ei thalentau. Rhaid felly oedd elwa ar athrawon profiadol RADA. Dyma, wedi’r cyfan, oedd meithrinfa actorion llwyddiannus eraill o Gymru megis Hugh Griffith a Rachel Roberts. Cymaint oedd ffydd Saunders Lewis yng ngalluoedd Siân fel y bu iddo sicrhau bwrsari iddi gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ddilyn cyrsiau heriol yr Academi.
Er i Siân pan oedd yn RADA, ac yn ystod ei phriodas liwgar a thymhestlog â’r enwog Peter O’Toole, gefnu i raddau helaeth ar y traddodiad Cymraeg ymneilltuol cyfyng, yr oedd yn cydnabod y dylanwad cadarnhaol a gafodd cewri dramatig y pulpud arni yn ystod ei phlentyndod: ‘I remember listening for hours as a child to preachers, because it was the one treat – there was no theatre, you see’. Ac wedi’r cyfan, ei hen fodryb oedd yr efengylwraig fentrus Rosina Davies o Dreherbert. Ymddengys i Siân etifeddu cryn dipyn o ragoriaethau a chryfderau ei hen fodryb, yn enwedig ei gallu i gyfareddu cynulleidfa a’i pharodrwydd arloesol i fentro.
Wrth baratoi ar gyfer ei pherfformiad o’r brif ran yn St Joan gan George Bernard Shaw yn y Belgrade Theatre, Coventry yn 1958, canfu Siân elfennau ‘Celtaidd’ yn y cymeriad: ‘I remember wishing I could play it in Welsh, because all the visionary part lends itself very much to the Celtic temperament. It seemed perfectly natural to me that this girl would be standing there listening to voices, because this is a thing that is easily accessible to Celtic people’. Mor wahanol oedd hyn oll i ddehongliadau o St Joan gan actorion amlwg eraill megis Joan Plowright, Janet Suzman, Judi Dench a Lynn Redgrave.
Bu dehongli cymeriad Siwan ar gyfer ei hamryw berfformiadau o ddrama Saunders Lewis yn bleser iddi gan fod y dramodydd ei hun wrth law ar y dechrau i’w chynghori a’i chynnal. Pwysodd arni i gofio bod Siwan wedi ei chodi gan y Frenhines Eleanor o Aquitaine, gwraig hynod ddeallus, a’i bod, dan ddylanwad Eleanor, wedi dysgu sgiliau diplomyddol o’r radd flaenaf. Y nodwedd a ddenodd Siân ei hun oedd yr hyn a ddisgrifiodd fel yr ‘elfen afresymol’ yn y cymeriad. Mewn cyfweliad â hi yn Rhydychen yn 1993 dywedodd hyn wrthyf: ‘There is a certain unreasonableness about Siwan at times which I find tremendously appealing. It is this very unreasonableness, her willingness to follow her heart rather than her head that makes her so interesting to me.’ Nid yw’n syndod i’r elfen hon yn Siwan ddenu Siân, oherwydd o ddarllen ei hunangofiant ymddengys fod yr union elfen yn gryf yn ei chymeriad hithau. Sylw Emyr Humphreys, o glywed am briodas Siân yn 1997 i Robin Sachs oedd: ‘Wel dyna Siân yntê, yn ymserchu mewn gŵr llawer iau na hi ei hun. Ailadrodd yr hyn a wnaeth Siwan a wnaeth onid e?’
Bu Emyr Humphreys yn cyfarwyddo Siân mewn nifer o gynyrchiadau o ddramâu Saunders Lewis, a hynny yn Gymraeg ac yn Saesneg. Yn ei farn ef, cryfder merched dramâu Saunders a ddenodd Siân, ac mae hi yn ategu hyn: ‘Blodeuwedd, Siwan, Iris, Esther, they are all immensely clever, courageous women and they are not at all afraid to show the power of feeling, the intellectual validity of passion’. Ond credai mai grym yr iaith Gymraeg sydd â’r gallu i ddangos hyn orau. Wrth berfformio’r cyfieithiadau Saesneg o’r dramâu, megis perfformiad o Siwan yn yr Hampstead Theatre Club, ac eto ar gyfer y BBC pan oedd O’Toole yn chwarae rhan Gwilym Brewys, teimlai nad oedd ei chyflwyniad o Siwan yn cyfleu o bell ffordd ardderchogrwydd drama Saunders Lewis: ‘I felt I had let Saunders down. It was a bitter feeling. No translation can possibly reproduce the greatness of the Welsh original’.
Un o gryfderau pwysig Siân, yn ôl Emyr Humphreys, oedd ei bod yn deall ‘gwir hanfod’ dramâu Saunders i’r dim, a bod ganddi afael sicr ar y ffaith mai’r hyn a geir ynddynt yw’r angerdd a’r ddrama sy’n bodoli mewn syniadau, elfen sy’n brin iawn y tu allan i’r traddodiad Ffrengig clasurol. Efallai i Siân ddilyn cyngor Saunders Lewis i ddarllen a deall dramâu Racine a Corneille ac i fynychu perfformiadau o’r gweithiau hynny. Ym marn Emyr Humphreys, y trueni mawr oedd na chafodd Siân y cyfle, pan oedd yn ddynes ganol oed, i berfformio Siwan, gan y credai y byddai ei phrofiad o fywyd wedi cyfoethogi ymhellach ei dehongliad o’r prif gymeriad.
Diddorol oedd cael clywed gan Siân mai Saunders Lewis a’i dysgodd sut i fwynhau bywyd a gwerthfawrogi bwydydd gwahanol. O dro i dro âi Saunders â hi i fwyty Ffrengig yn Tiger Bay, ac yno cyflwynodd hi i fwydydd na wyddai’r ferch ifanc ddim amdanynt: ‘He introduced me to the delights of garlic, olive oil, vinaigrette, Salade Niçoise and good wine’. Cafodd hi felly y fraint o gwmni Saunders y bon viveur: ‘He was a delight, skittish, witty and excellent company. Visiting him and his wife at their home in Penarth was so relaxing and such fun’. Yn anffodus, dinistriodd O’Toole y cyfeillgarwch hwn, a hynny dros ginio yng ngwesty’r Parc, Caerdydd pan ddywedodd yn haerllug wrth Saunders fod Cymru ‘completely outside the mainstream of life and art’. I Saunders yr oedd y fath ddatganiad yn sarhad. Rhuthrodd o’r gwesty a diflannodd o fywyd Siân am flynyddoedd.
Yn y cyfamser, mynd o nerth i nerth a wnaeth ei gyrfa. Bu’n cydweithio â Samuel Beckett ar Eh Joe, ac fe ddaeth Tennessee Williams i’w gweld yn perfformio yn ei ddrama Night of the Iguana, gan ysgrifennu cerdd yn arbennig iddi wedi iddo ddychwelyd i’r Unol Daleithiau. Enillodd wobrau lu, ac fel y dywedodd Moelwyn Merchant yn ei ddarlith yn Llanddewi Brefi, ‘We’d be here till nightfall were I to list Siân’s many triumphs’. Bu i Moelwyn gloi’r ddarlith fythgofiadwy honno – a oedd yn sôn lawn cymaint am Siân Phillips ag am ddramâu Shakespeare – drwy ddisgyn yn araf o’r pulpud gan bwyntio bys at ddyrnaid o ddisgyblion chweched dosbarth o Ysgol Tregaron a gweiddi fel hen broffwyd: ‘Gwrandewch arnaf fi, fechgyn a merched Tregaron. Gwn fod rhai ohonoch yn awchu am yrfa yn y theatr, ond cofiwch, bydd yn rhaid i chi ddewis the road less travelled by
. Dyna a wnaeth fy nghyn-fyfyrwraig fyd-enwog, y Gymraes Siân Phillips.’ Tybed beth fyddai ymateb Siân i berfformiad dramatig ei chyn-diwtor petai wedi bod yn eglwys Llanddewi Brefi y prynhawn hwnnw?
O ddarllen cofiant gafaelgar Hywel Gwynfryn cawn syniad go dda sut y byddai wedi ymateb i’r fath folawd. A hithau bellach yn ei nawdegau, dal i berfformio a wna Siân Phillips, ac mae’r gyfrol hon yn deyrnged glodwiw i un a wnaeth, drwy gydol ei bywyd, ‘arwain yr aradr a’r og i ben y gwys heb droi’n ôl.’
Hazel Walford Davies
Cyflwyniad
Yn nrama Shakespeare Antony and Cleopatra mae cymeriad Enobarbus yn peintio llun geiriol o harddwch Cleopatra, ac yn ceisio dyfalu sut ei bod hi’n ‘myned yn iau wrth fyned yn hŷn’ ac yn hŷn heb fynd yn hen. Gellid yn hawdd briodoli ei eiriau am Cleopatra i ddisgrifio Siân Phillips: ‘Age shall not wither her, nor custom stale her infinite variety.’
Beth yw ei chyfrinach? Ateb i’r cwestiwn oesol hwnnw yr oedd Enobarbus yn chwilio amdano, a’r Daily Mail pan aeth i holi Siân ar ddechrau cyfnod COVID. Mae Siân yn feistres ar ateb cwestiynau y mae hi eisiau eu hateb ac ar osgoi ateb y gweddill. A dyna wnaeth hi’r tro hwn: ‘How do I look like this? No men … and Botox for 60 years.’ No men? Fe fu hi’n briod deirgwaith. ‘… And Botox for 60 years’ – do, pan oedd gwir ei angen, ar ôl iddi gael damwain.
Nid am y tro cyntaf, fe ofynnwyd y cwestiwn anghywir iddi. Pe byddai’r newyddiadurwr wedi ei holi am ddamwain a gafodd yn ferch ifanc, byddai wedi cael ateb sy’n dweud ac yn esbonio’r cyfan am gymeriad Siân a’i hagwedd gadarnhaol at fywyd yn gyffredinol – y bywyd y bu hi bron â’i golli un bore yn ardal Paddington, Llundain, pan oedd hi’n fyfyrwraig yn yr academi ddrama frenhinol, RADA, ’nôl yn 1955.
Roedd hi’n fore niwlog ac fe fu’r car yr oedd hi’n teithio ynddo mewn gwrthdrawiad â lori. Bu ond y dim iddi gael ei lladd. Yr unig beth mae Siân yn ei gofio pan ddaeth hi ati ei hun yw clywed lleisiau pobl o’i chwmpas a hithau’n gorwedd ar y ffordd, ar ôl cael ei thaflu’n syth drwy ffenest flaen y car, ‘She all right?’, ‘Nah’, ‘Don’t look it…’, ‘She’s in a bit of a mess.’
Daeth ati hi ei hun yn ysbyty St. Mary’s, Paddington. Clywodd lais llawfeddyg uwch ei phen yn dweud wrthi am orwedd yn llonydd: ‘I’m trying to sew your forehead together’. Ond roedd yna reswm arall dros anniddigrwydd Siân. Doedd hi ddim yn poeni am effaith hirdymor y ddamwain ar y ffordd y byddai’n edrych, fe fyddai popeth yn iawn. Ei phryder mwyaf oedd cyrraedd matinée y sioe The Silver Curlew ar lwyfan theatr y Vanbrugh y prynhawn hwnnw. Damwain neu beidio, ar y llwyfan roedd hi i fod ac ar y llwyfan y byddai hi. Gyda’r meddyg a’r nyrs yn colli’r frwydr i geisio ei hatal rhag gadael yr ysbyty, mynnodd arwyddo’r ffurflen angenrheidiol, diolchodd i bawb ac aeth allan o’r ysbyty i’r stryd a galw tacsi. Y prynhawn hwnnw roedd hi ar lwyfan y Vanbrugh ac yn y golau gwyrdd tu ôl i’r grochan, fyddai neb wedi dyfalu mai’r ferch ifanc oedd wedi cael damwain ddrwg ychydig oriau ynghynt oedd y wrach ar y llwyfan, ag edau du sawl pwyth yn ei hwyneb yn ychwanegu at yr hagrwch.
Oherwydd mai llawdriniaeth frys a gafodd ar ôl y ddamwain byddai angen iddi gael mwy yn y dyfodol. Byddai’n rhaid dadwneud y driniaeth wreiddiol ac ailagor y clwyfau a’u pwytho eto. Yn ffodus i Siân, llawfeddyg oedd wedi arbenigo ar drin milwyr oedd wedi cael eu llosgi yn ystod yr Ail Ryfel Byd fu’n gofalu amdani, ac yn ogystal â phwytho’r clwyfau eto, bu’n rhaid sythu ei thrwyn ac ailosod ei gên yn ei lle. Ond roedd yna un graith ddofn rhwng ei haeliau oedd angen cael ei llenwi ac fe olygodd hynny fwy nag un ymweliad. Yng ngeiriau Siân: ‘Mae croen da ’da fi, ond mae e’n dene fel papur tissue. Falle ma rhyw fath o Botox oedd e’n ei ddefnyddio i lenwi’r graith cyn bod sôn am Botox.’ Ac mae Siân yn iawn. Flynyddoedd yn ddiweddarach, yn 1989, y