Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Rhwng Bethlehem A’r Groes
Rhwng Bethlehem A’r Groes
Rhwng Bethlehem A’r Groes
Ebook101 pages1 hour

Rhwng Bethlehem A’r Groes

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

A volume of reminiscences through the songs of musician and tv producer Barry 'Archie' Jones.
LanguageCymraeg
Release dateFeb 26, 2024
ISBN9781845245672
Rhwng Bethlehem A’r Groes

Related to Rhwng Bethlehem A’r Groes

Related ebooks

Reviews for Rhwng Bethlehem A’r Groes

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Rhwng Bethlehem A’r Groes - Barry (Archie) Jones

    Rhwng

    Bethlehem a’r

    Groes

    Atgofion drwy Ganeuon

    Barry ‘Archie’ Jones

    Gwasg Carreg Gwalch

    gwalch_tiff__copy_11.tif

    Argraffiad cyntaf: 2023

    Hawlfraint geiriau’r caneuon: Barry ‘Archie’ Jones

    Hawlfraint y gyfrol: Gwasg Carreg Gwalch 2023

    Cedwir pob hawl.

    Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn, na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy, na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng, electronig, electrostatig, tâp magnetig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan y cyhoeddwyr, Gwasg Carreg Gwalch, 12 Iard yr Orsaf, Llanrwst, Dyffryn Conwy, Cymru LL26 0EH.

    ISBN clawr meddal: 978-1-84527-936-3

    ISBN elyfr:  978-1-84524-567-2

    Cyhoeddwyd gyda chymorth Cyngor Llyfrau Cymru

    Cynllun y clawr: Eleri Owen

    Cyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch, 12 Iard yr Orsaf, Llanrwst, Dyffryn Conwy, Cymru LL26 0EH.

    Ffôn: 01492 642031

    e-bost: llyfrau@carreg-gwalch.cymru

    lle ar y we: www.carreg-gwalch.cymru

    Argraffwyd a chyhoeddwyd yng Nghymru

    1.

    Rachub

    Crafu’r barrug oddi ar y ffenest,

    Gweld Rachub am y tro diwetha,

    Y clycha’n canu yng Nghapal Wesla,

    Rhywun arall ’di ei eni mewn i’r mess ’ma.

    Ma’i’n anodd tyfu fyny

    Efo’r cwmwl ’ma uwch fy mhen i,

    Un llaw tu ôl i nghefn

    A’r llaw arall yn twyllo’r dyn rhent.

    Ma’i’n anodd tyfu fyny

    Efo’r cwmwl ’ma uwch fy mhen i,

    Ma’i’n anodd tyfu ’ma.

    Un tro roedd y lle ’ma’n annwyl

    Ond nawr ’di o’m byd ond carchar,

    Mae ’na ddarn dwi’n dal i garu

    A ’di hynna ddim yn helpu.

    Ma’i’n anodd tyfu fyny

    Efo’r cwmwl ’ma uwch fy mhen i,

    Ma’i’n anodd tyfu ’ma.

    PENNOD_1_-_RACHUB.tif

    Alwyn a fi yn perfformio yn y Royal Oak yn Rachub

    yn nyddiau cynnar Celt

    ‘Crafu’r barrug oddi ar y ffenast a gweld Rachub am y tro dwetha’ oedd llinell agoriadol y gân gyntaf go iawn i mi sgwennu. A doedd hi ddim yn galw am fawr o ddychymyg o’m rhan i.

    Ma’ Rachub yn bentref bychan yn Nyffryn Ogwen, tua milltir i’r mynyddoedd o Fethesda, ac yn gartref i ryw naw cant o bobol, a be sy’n teimlo fel pymtheg miliwn o ddefaid. Roedd ein tŷ ni yn un o chwe deg o dai ar stad cyngor Maes Bleddyn. Roedd y tai yn gallu bod yn uffernol o oer, yn enwedig yn y gaeaf, ac roedd crafu’r barrug oddi ar du fewn ffenest y stafell wely’n rhywbeth oedd yn rhaid ei wneud yn gyson yn ystod y gaeaf.

    Fi oedd yr ola o bump o blant i Glenys a Robert Elwyn Jones, neu Bobbie Bara fel oedd o’n cael ei nabod yn lleol. Roedd fy nhad yn gweithio fel gyrrwr i un o’r ddau fecws oedd yn y pentref ar y pryd, a Mam yn nyrsio, nes i salwch orfodi iddi roi’r gorau i’w gwaith.

    Ma’ sawl un wedi deud wrtha’i fod Mam yn un dda efo geiriau, yn sgwennu ac yn cymryd rhan mewn sgetsus comedi ar gyfer y ‘Mothers Club’ yn ogystal â sgwennu penillion a chaneuon ar gyfer gwahanol ddigwyddiadau. Felly peryg mai o fan’na mae fy niddordeb mewn sgwennu a chyfansoddi wedi dod.

    Farwodd Mam yn hanner cant, wythnos yn union cyn fy mhenblwydd yn ddeg oed yn 1977, a dwn i’m os giciodd ryw ‘defence mechanism’ i mewn i ngwarchod, ond hyd heddiw, bach iawn dwi’n gofio o ’negawd cyntaf, a lot o be dwi’n wybod am fy mam wedi dod o hanesion mae pobol wedi eu rhannu efo fi.

    Fel lot o ddynion o’r cyfnod, doedd fy nhad, ddaru fyw nes o’n i yng nghanol fy ugeiniau, ddim yn un am rannu ei emosiynau, a cafodd hynny, siŵr o fod, effaith ar sut ’nes i ddelio â digwyddiadau. Ond wedi deud hynny, oedd o’n licio laff, a rhai o’r atgofion gorau sy genna’i o ’nhad ydi gwylio rhaglenni fel Monty Python’s Flying Circus a’r Two Ronnies efo fo. Dwi’n siŵr fysa fo yn ei gweld hi’n ffyni iawn mod i wedi mynd ymlaen i neud gyrfa o sgwennu comedi.

    Wedi i Mam farw, mi ddysgais i dderbyn be oedd wedi digwydd y gorau gallwn i, a symud ymlaen. Ar ôl sbel, prin o’n i’n teimlo ’mod i’n wahanol i unrhyw blentyn arall, nes un diwrnod daeth fy athro cynradd, Mr Dilwyn Pritchard, â comic Beano i’r ysgol. Dyma fo’n deud wrtha’i faswn i’n cael eistedd wrth ei ochr yn darllen y comic tra bod gweddill y dosbarth yn gweithio. Am yr unig dro yn fy mywyd o’n i’n teimlo fel y ‘teacher’s pet’!

    Ddim ond pan ddaru un o ’nghyd-ddisgyblion ddod â’i waith at ddesg yr athro i’w ddangos ’nes i sylweddoli ma’ gwneud cardyn Sul y Mamau oedd tasg y wers. Yn sydyn, ’nes i deimlo’n wahanol iawn i’r plant eraill.

    Ond un dasg ges i gymryd rhan ynddi oedd sgwennu cerdd ar gyfer cystadleuaeth yng ngholofn Cornel y Plant yn y papur bro lleol, Llais Ogwan. Ar ôl cnoi pensal a syllu drwy’r ffenast ar fynyddoedd Dyffryn Ogwen am y rhan fwya o’r wers, daeth y campwaith yma allan:

    Mae’r eira’n oer, mae’r eira’n wyn,

    Mae’r eira’n gorffwys ar y bryn.

    Mae’r eira’n wyn, mae’r eira’n oer,

    Mae’r eira’n sgleinio o dan y lloer.

    A fel dwi’n siŵr fysa chi’n ei ddisgwyl o ddarllen cerdd mor ddwys, ges i’r wobr gyntaf, a ges i fy ngalw fyny i’r llwyfan yng ngwasanaeth boreol yr ysgol i dderbyn fy ngwobr mewn amlen wen, a’i rhwygo yn ei hanner i weld be oedd ynddi, ddim ond i ffendio papur punt mewn dau ddarn oherwydd fy mrys i agor yr amlen.

    Pan ddaeth y rhifyn hwnnw o Lais Ogwan allan, es i’n syth i dudalen Cornel y Plant, a fan’na oedd fy ymdrech greadigol gyntaf wedi ei chyhoeddi mewn print. Ond dwi’n cofio’r teimlad o ddryswch wrth ei darllen, achos roedd y gerdd wedi ei newid i fynd fel hyn:

    Mae’r eira’n oer, mae’r eira’n wyn.

    Mae’r eira’n gorffwys ar y bryn.

    Mae’r eira’n hwyl, mae’r eira’n oer

    Mae’r eira’n sgleinio o dan y lloer

    Roedd Mr Pritchard wedi newid y drydedd linell am ei bod hi’n rhy ailadroddus, a dyma fy mhrofiad cyntaf o ymyrraeth golygydd sgript! Yr eironi ydi, fysa ailadrodd yn dod yn rhan ganolog o lawer iawn o’r caneuon fyswn i’n mynd ymlaen i’w sgwennu dros y blynyddoedd.

    Roedd 1977 yn flwyddyn fydda’n cael effaith anferthol ar fy mywyd am sawl rheswm. Wythnos

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1