Discover millions of ebooks, audiobooks, and so much more with a free trial

Only $11.99/month after trial. Cancel anytime.

Bod Rhydderch
Bod Rhydderch
Bod Rhydderch
Ebook234 pages3 hours

Bod Rhydderch

Rating: 0 out of 5 stars

()

Read preview

About this ebook

After a quarrel with her mother, Ana, a young girl from Patagonia, flees to Wales on her own. She travels all the way to Aberdaron, her grandmother's birthplace to learn more about the place she's heard so much about, without knowing how long she'll stay. However, instead of escaping her troubles, she is drawn deeper and deeper into the turbulent story of her family.
LanguageCymraeg
Release dateFeb 26, 2024
ISBN9781845245696
Bod Rhydderch

Related to Bod Rhydderch

Related ebooks

Reviews for Bod Rhydderch

Rating: 0 out of 5 stars
0 ratings

0 ratings0 reviews

What did you think?

Tap to rate

Review must be at least 10 words

    Book preview

    Bod Rhydderch - Lona Patel

    Dymunaf gyflwyno’r nofel hon i bobl y Wladfa, am bob cymorth a gefais yno yn ystod fy ymweliad ac am eu croeso cynnes a diffuant.

    Dymunaf ddiolch yn fawr i:

    Wilma Roberts, Tŷ Newydd, Aberdaron, am fanylion am y gwesty

    Colin Evans, gyrrwr a pherchennog Benlli, y cwch sy’n cludo teithwyr i Ynys Enlli

    Bet Jones am ei ffeithiau manwl am Aberdaron yn y gorffennol

    Alun Roberts (John ac Alun) am fy rhoi ar ben ffordd ynglŷn ag offer grwpiau canu cyfoes

    Menna Jones am ddarllen trwy’r nofel gyda chrib mân fel bob amser

    Fy ffrindiau o’r Wladfa am eu help ynglŷn â’r gwahanol fwydydd traddodiadol sydd ar gael yno, y digwyddiadau hanesyddol a phob gwybodaeth a gefais ganddynt am eu ffordd o fyw a’u geirfa

    Fy mab, Anil, am ei help gyda Sbaeneg de America

    Fy mab, Suresh, am fy annog i fynd i Batagonia

    Steven Stansfield, Warden Gwylfa Maes ac Adar Enlli

    ac i Nia Roberts, Gwasg Carreg Gwalch, am wneud popeth yn well!

    Pennod 1

    Ar ôl deuddydd o deithio roedd Ana wedi cyrraedd Aberdaron. Dringodd i lawr o’r bws yn araf gan deimlo awel dyner o’r môr ar ei hwyneb. Roedd fel petai ei chês wedi trymhau’n aruthrol ers iddi gychwyn ar ei thaith o’r Gaiman – prin yr oedd yn gallu ei dynnu i lawr stepiau’r bws i’r lôn.

    ‘Diolch,’ meddai wrth y gyrrwr yn ddi-ffrwt, a chododd yntau ei ên i ddangos ei gydnabyddiaeth.

    Roedd Ana wedi cynllunio a threfnu ei thaith i Gymru bythefnos ynghynt, ac wedi mwynhau ymgolli mewn sawl myfyrdod lle dychmygai pa mor gyffrous fyddai cyrraedd pen ei thaith. Ond nawr ni theimlai na gwefr na chyffro, dim ond dyhead mawr i gael cysgu’n sownd.

    Pedair ar hugain oed oedd hi, ac fel y rhan fwyaf o drigolion yr Ariannin doedd hi erioed wedi hedfan o’r blaen. Roedd wedi poeni ynglŷn â ffeindio’i ffordd drwy’r meysydd awyr, colli’i chês a mynd ar yr awyren anghywir, gan fwydro’i hun gyda phob petai a phetasai. I wneud pethau’n waeth, gwyddai na allai drafod ei hofnau gyda’i theulu na’i ffrindiau: doedden nhw ddim yn gwybod ei bod yn bwriadu gadael y Gaiman.

    Yr unig berson a wyddai am ei chynllun oedd Ricardo. Gallai ymddiried yn Ricardo. Wnâi o ddim ei bradychu. Bu’r ddau yn ffrindiau gorau ers pan oedden nhw’n ddeg oed, pan wnaethon nhw achub Miguel, brawd bach Ricardo, rhag boddi, ac roedd y ddau wedi addo cadw’r gyfrinach honno hyd y bedd.

    Dwyflwydd oed oedd Miguel, a gadawyd Ricardo i warchod ei frawd bach un prynhawn. Wrth i’r tri chwarae ar lan afon Camwy, llithrodd Miguel i’r afon dros ei ben; er i Ricardo neidio ar ei ôl i geisio’i achub roedd yn anodd gweld y bychan drwy ddŵr lleidiog yr afon. Rhedodd Ana draw i’w helpu, a rhywsut neu’i gilydd llwyddodd y ddau i halio Miguel allan o’r afon yn llipa a thrwm. Trodd Ana y bachgen ar ei fol a churo’i gefn â’i holl nerth nes iddo besychu cegaid o ddŵr allan. Yn llawn rhyddhad, ni soniodd yr un o’r ddau am y digwyddiad brawychus wrth neb, yn enwedig eu rhieni. Roedd Miguel yn rhy ifanc i gofio dim nac achwyn, a seliwyd eu cyfeillgarwch o’r dydd hwnnw ymlaen.

    Felly Ricardo helpodd Ana i fwcio’r daith awyren. Fo hefyd wnaeth gyfnewid pesos i bunnoedd iddi, archebu trwydded ryngwladol iddi rhag ofn y byddai angen gyrru car yng Nghymru, a’i danfon i faes awyr Trelew. A Ricardo oedd yr unig un a wyddai pam ei bod yn mynd i Gymru.

    ‘Cofia adael i mi wybod pan gyrhaeddi di Aberdaron,’ atgoffodd Ricardo hi, wrth dynnu ei chês o fŵt y car.

    ‘Mi fydda i’n siŵr o wneud.’

    ‘Bydda’n ofalus.’

    ‘Diolch. Hasta luego, Ricardo.’

    ‘Hasta luego, amiga.’

    Cofleidiodd y ddau am ennyd, a cherddodd Ana tuag at fynedfa’r maes awyr. Cododd ei llaw ar Ricardo cyn troi ei chefn arno a mynd i mewn. Gwyddai y byddai’n hiraethu amdano, ond yn gyntaf byddai’n rhaid iddi ddelio â’r ansicrwydd a’r pryder oedd yn ei llethu pan feddyliai am ei thaith hir i Gymru. Roedd cledrau ei dwylo’n llaith a rhyw deimlad crynedig yn codi trwy ei chyfansoddiad. Beth petai un o’i theulu wedi ei dilyn i’r maes awyr?

    Gan nad oedd maes awyr Trelew yn fawr iawn llwyddodd i ffeindio’i ffordd ei hun at y giât gywir i ddal yr awyren i faes awyr Jorge Newbery yn Buenos Aires. Cododd ei chalon pan sylweddolodd nad oedd y broses o fynd drwy’r gwiriadau diogelwch mor gymhleth ag roedd wedi ei ofni, ac erbyn iddi gyrraedd ei sedd ar yr awyren roedd ei meddwl yn llawer tawelach. Ar ôl i ddrws yr awyren gau roedd yn fodlon na fuasai ’run o’i theulu’n gallu ei hatal rhag cychwyn ar ei hantur, a setlodd i lawr i ryfeddu at adeiladau a cheir Trelew yn troi’n deganau plant wrth i’r awyren godi yn uwch ac yn uwch.

    Tra oedd yn dechrau mwynhau ei rhyddid, trodd ei meddwl at y ffrae gafodd â’i mam bythefnos ynghynt. Roedd ei gwaed yn dal i ferwi.

    Paratoi cinio oedd ei mam y dydd Sadwrn hwnnw pan gyrhaeddodd Ana adref o Drelew.

    ‘O, mi wyt ti wedi dod yn d’ôl o’r diwedd, felly,’ oedd cyfarchiad miniog ei mam wrth iddi daflu cyllell yn swnllyd i’r sinc.

    ‘Mi fydda i’n mynd i Drelew bob dydd Sadwrn,’ atebodd Ana’n ddryslyd, ‘ac mi wyddoch chi nad ydw i byth yn aros yno’n hir.’

    ‘Byddi, ac mi fydda inna’n aros yma’n gwneud bwyd i bawb.’

    ‘Iawn, be ydach chi isio i mi wneud?’

    ‘Mae gen ti ben ar dy ’sgwyddau – be ti’n feddwl ddylet ti wneud?’

    ‘Mi osoda i’r bwrdd, ’ta.’ Tynnodd bedwar plât o’r cwpwrdd, a llithrodd un trwy’i bysedd a malu’n deilchion ar y llawr.

    ‘Un o ’mhlatiau gorau i!’ sgrechiodd ei mam. ‘Coda’r darnau, rŵan, a brwsia’r llawr yn hytrach na sefyll yn fanna fel rhywun hanner call!’

    ‘Mi bryna i blât newydd i chi, Mam,’ atebodd Ana’n ffwndrus wrth geisio clirio’r llanast â dwylo crynedig.

    ‘Fasa Dewi dy frawd ddim wedi bod mor flêr.’

    Byddai wastad yn cael ei hatgoffa o rinweddau Dewi. Dyma hi, yr un hen gân eto.

    ‘Pam na fedri di fod yn debycach i Dewi? Mi fydd o’n torri’r gwellt, sgubo’r llwybr, glanhau’r ffenestri ac yn coginio i ni i gyd ambell waith.’

    ‘Tydi hynna ddim yn deg, Mam. Mi fydda i’n gwneud dipyn i helpu hefyd.’

    ‘Paid ag edliw. Mi ddylat ti wneud, a titha’n oedolyn!’

    ‘Mi ddylai Dewi wneud hefyd – mae o’n hŷn na fi.’

    ‘Paid ti â meiddio cega’n ôl arna i!’ Roedd wyneb ei mam yn goch a’i llygaid yn filain.

    Oedodd Ana am ennyd. ‘Ella dylwn i adael ’ta, a mynd i fyw i rywle arall?’

    Nid atebodd ei mam, dim ond codi ei hysgwyddau i ddangos nad oedd hi’n malio dim, un ffordd neu’r llall.

    Roedd Ana wedi cyrraedd pen ei thennyn. Daethai i arfer â’i mam yn dangos ffafriaeth at ei brawd, ac nid hwn oedd y tro cyntaf iddi awgrymu nad oedd hi eisiau byw o dan yr un to â’i merch. Roedd Ana eisoes wedi penderfynu mai gadael ei chartref oedd y peth gorau i’w wneud, ond roedd hi wedi bod yn aros am yr amser iawn... gallai fynd ar wyliau i ddechrau, ystyriodd, er mwyn cael amser i feddwl am y tymor hir. Efallai nad âi yn ôl... doedd dim i’w chadw yno.

    Yn ystod y dyddiau canlynol, cododd Ana’n gynnar a mynd i’w gwaith cyn i neb arall godi. Deuai yn ei hôl yn hwyr y nos ar ôl i bawb fynd i’w gwlâu, gan dreulio’r nosweithiau yn nhŷ Ricardo yn cynllunio’i thaith a gwneud y paratoadau angenrheidiol. Penderfynodd mai i Aberdaron yr aethai: hen gartref ei nain.

    Edrychodd drwy ffenest yr awyren – er ei bod wedi pacio llyfr, roedd yn well ganddi syllu ar y cymylau a’r dirwedd oddi tani, ac ymhen rhyw ddwyawr gallai weld amlinell dinas fawr Buenos Aires. Nid oedd Ana erioed wedi bod yno, a châi hi ddim mentro i’r ddinas ei hun heddiw chwaith, dim ond gwneud ei ffordd o un pen i’r maes awyr i’r llall er mwyn dal yr awyren nesaf i faes awyr Gatwick.

    Roedd maes awyr Buenos Aires yn dra gwahanol, ac yn llawer iawn mwy, na maes awyr Trelew, gyda siopau prysur yn gwerthu pob math o nwyddau a degau o fwytai a bariau. Ni wyddai Ana pa ffordd i fynd. Clywai leisiau annealladwy drwy’r uwchseinydd bob hyn a hyn a gwibiai pobl heibio iddi’n wyllt. Dechreuodd deimlo’r cwlwm yn dychwelyd i’w stumog. Beth ar y ddaear oedd hi’n wneud, yn mentro i ochr arall y byd ar ei phen ei hun? Ystyriodd fynd yn ôl adref ac ymddiheuro i’w mam – fyddai neb ddim callach ei bod wedi bwriadu dianc i Gymru. Ond roedd hi wedi dod mor bell â Buenos Aires, a doedd dim yn ei rhwystro rhag dal yr awyren i Gatwick ond ei hansicrwydd ei hun.

    Cofiodd eiriau ei thad, a oedd wedi symud i Buenos Aires am gyfnod ar ôl iddo adael yr ysgol: ‘os oes gen ti dafod yn dy ben, fyddi di byth ar goll.’ Roedd o wedi bod yn yrrwr lorri, yn danfon ffrwythau a llysiau i wahanol westai yn y ddinas, ac wedi bod ar goll sawl gwaith. Cyrhaeddodd ben ei daith bob tro drwy ofyn am gyfarwyddiadau, a phenderfynodd Ana y dylai ddilyn ei esiampl.

    Cododd ar ei thraed a brasgamu at y ddesg Información lle’r oedd dynes dal, osgeiddig yn sefyll. Gwisgai siwt goch a minlliw ac ewinedd a oedd yr un mor llachar, ac er bod ei gwên brydferth yn datgelu rhes o ddannedd gwynion perffaith, ni chyrhaeddai’r wên honno ei llygaid. Cafodd Ana gynllun o’r maes awyr ganddi, ac wrth ddilyn cyfarwyddiadau’r ddynes cyrhaeddodd y giât gywir.

    Ar ôl siwrnai ddi-gwsg yn nüwch y nos, cyrhaeddodd Gatwick dair awr ar ddeg yn ddiweddarach. Distaw iawn oedd y maes awyr yn oriau mân y bore – doedd fawr neb o gwmpas ac eithrio tri neu bedwar o yrrwyr tacsis yn siarad efo’i gilydd wrth y drws, a dyn oedd yn glanhau’r llawr â brwsh anferth. Dyfalodd Ana fod mwyafrif y teithwyr blinedig, blêr yn mynd adref ar ôl gwyliau yn Buenos Aires neu’n mynd i westy cyfforddus, ond roedd yn rhaid iddi hi ddod o hyd i drên i fynd â hi i Lundain.

    Dysgodd ychydig o Saesneg mewn gwersi preifat gyda’r nos pan oedd yn yr ysgol, ond doedd hi ddim yn rhugl o bell ffordd. Edrychodd o’i chwmpas ar yr arwyddion, a chododd ei chalon pan welodd lun trên a saeth i ddangos y ffordd ar un ohonynt. Brasgamodd yn ei blaen.

    ‘To London,’ meddai wrth y gwerthwr tocynnau.

    ‘Right, love. London Bridge or Victoria?’

    Nid oedd Ana eisiau mynd i’r un o’r ddau le. Teimlodd banig yn llifo drosti a chyflymodd ei hanadl.

    ‘Euston,’ meddai’n obeithiol.

    ‘There’s no direct train to Euston. Your best bet is to go to Victoria and take the Underground line to Green Park. Change there and take the Piccadilly Line to Leicester Square, change there and take the Northern Line to Euston. Err... the next train to Victoria is leaving in three minutes. Single or return?’

    Rhythodd Ana arno. Roedd y dyn wedi siarad mor gyflym fel nad oedd hi wedi deall gair a ddywedodd wrthi, ond daeth i’r canlyniad o dôn ei lais nad oedd trên yn mynd yn syth o Gatwick i orsaf Euston. Roedd ei hunllef wedi dechrau. Cododd ei bys.

    ‘One minute,’ atebodd yn ddistaw, gan nad oedd ganddi ddigon o hyder i siarad Saesneg yn uchel, a brysiodd i ffwrdd.

    Dyma hi mewn gwlad estron yng nghanol y nos, ar ei phen ei hun heb fedru cyfathrebu digon i ddysgu sut i ddal trên i Euston. Ni wyddai beth i’w wneud. A ddylai aros yn y maes awyr tan y bore, yn y gobaith y byddai mwy o bobl o gwmpas bryd hynny i’w helpu? Doedd hi erioed wedi teimlo mor unig. Ar ôl llusgo’i chês mawr at res o gadeiriau caled, eisteddodd i lawr a rhoi ei phen yn ei dwylo. Buasai’n rhoi’r byd i gael Ricardo efo hi i’w helpu. Mi fuasai o’n siŵr o allu ffeindio’i ffordd i Lundain. Tynnodd ei ffôn o’i bag er mwyn chwilio ar y we am wybodaeth, ond yn ei brys i adael y Gaiman roedd wedi anghofio gwefru’r batri, a doedd dim mymryn o fywyd yn y teclyn.

    Nid oedd wedi bod yn eistedd ond am ryw ddeng munud pan sylwodd ar grŵp o bobl yn cerdded mewn rhes hir. Roedd yn amlwg eu bod newydd lanio, a thawel a difywyd oedd y mwyafrif, oni bai am ddwy ferch oedd yn llawn cyffro ac yn siarad ac yn chwerthin yn uchel.

    Clustfeiniodd Ana. Roedden nhw’n siarad Sbaeneg! Heb feddwl ddwywaith cododd a rhuthro tuag atynt, gan dynnu ei chês ar ei hôl.

    ‘Disculpen. ¿Ustedes hablan español?’ gofynnodd yn obeithiol.

    ‘Sí,’ atebodd y ddwy, ac ar ôl diolch sawl gwaith, eglurodd Ana ei sefyllfa iddynt.

    Eglurodd y merched eu bod yn gyfarwydd â’r trenau tanddaearol ac na fyddai’n drafferth o gwbl i’w helpu i gyrraedd Euston. Dechreuodd Ana ymlacio, a chymerodd anadl ddofn o ryddhad.

    Ar ôl cyrraedd Victoria mynnodd Ana brynu coffi i’r ddwy i ddangos ei gwerthfawrogiad, ac wrth yfed eu paneidiau, ceisiodd y ddwy ferch ddangos i Ana ar fap o’r system danddaearol sut i gyrraedd pen ei thaith. Er iddi astudio’r map am rai munudau, ni theimlai Ana fod ganddi ddigon o hyder i geisio croesi Llundain ar ei phen ei hun. Dechreuodd ffarwelio â’i hangylion gwarcheidiol, gan ddweud ei bod am chwilio am dacsi yn hytrach na mentro ar y trên, ond mynnodd y ddwy fynd â hi yr holl ffordd i Euston.

    Roedd arogl mwll y gorsafoedd tanddaearol clòs yn ddieithr i Ana, ac wrth i’r tair deithio, dechreuodd Llundain ddeffro’n araf wrth i bobl fynd i’w gwaith. Distaw a di-serch oedd y teithwyr, pawb â’i ben mewn papur newydd neu ffôn, neu yn eu byd bach eu hunain yn gwrando drwy glustffonau, oll yn osgoi edrych ar eu cyd-deithwyr.

    Ar ôl iddynt gyrraedd Euston, cafodd Ana help gan ei ffrindiau newydd i brynu cerdyn sim a phlwg gwefru Prydeinig ar gyfer ei ffôn, a thocyn trên i Fangor. Wrth ffarwelio, diolchodd unwaith eto i’r ddwy ferch o Sbaen, cyn rhedeg i ddal ei thrên.

    ‘Nunca las olvidaré,’ gwaeddodd dros ei hysgwydd arnynt – gwyddai na fuasai byth yn anghofio’u caredigrwydd.

    Llwyddodd i newid trenau yn Crewe heb ddim trafferth, a chan fod y trên hwn yn mynd yn syth i Fangor, eisteddodd Ana yn ôl i edrych ar y golygfeydd, ac ymlacio. Yn fuan iawn syrthiodd i gysgu â’i phen yn gorffwys ar y ffenest, a phan ddeffrodd roedd bron â chyrraedd Rhyl. Roedd ei thafod yn grimp ac yn gras, roedd ganddi gric yn ei gwddf ac roedd ei braich dde yn drom fel darn o blwm ar ôl iddi bwyso arni cyhyd, ond anghofiodd am y cyfan pan welodd y môr, yn las, llyfn a phrydferth, o’i blaen. Sythodd yn ei sedd a rhedeg ei bysedd drwy ei gwallt i geisio’i dacluso.

    ‘Good sleep?’ gofynnodd dyn oedd yn eistedd gyferbyn â hi.

    ‘Yes, thank you,’ atebodd, a chan ofni y buasai’r dyn yn gofyn rhywbeth arall iddi, ychwanegodd, ‘sorry, I don’t speak English. I speak Welsh.’

    ‘Well, good luck with that,’ chwarddodd y dyn wrth godi i adael y trên yn Rhyl.

    ‘Thank you,’ atebodd Ana’n ddiniwed.

    Teimlai ychydig yn well ar ôl y mymryn cwsg, ac erbyn iddi gyrraedd gorsaf Bangor roedd wedi dod ati’i hun yn eitha.

    ‘Ble fedra i ddal bws i Gaernarfon, os gwelwch yn dda?’ gofynnodd i ddynes ganol oed oedd yn ymladd â’i chês ar y platfform.

    ‘Dwi’n mynd i G’narfon. Ty’d efo fi.’

    ‘Diolch yn fawr,’ atebodd Ana. Roedd lwc yn ei dilyn, mae’n rhaid.

    ‘Ti’n mynd i weld rhywun yn G’narfon? Ti ddim yn swnio’n lleol.’

    ‘Na, i Aberdaron dwi’n mynd. Dwi wedi dod o Batagonia.’

    Stopiodd y ddynes yn stond. ‘Patagonia? Nefi blŵ!’

    ‘Tydw i erioed wedi bod yng Nghymru o’r blaen. Mae Nain yn dod o Aberdaron yn wreiddiol, felly dwi isio gweld lle cafodd hi ei magu.’

    ‘O, mynd yno am chydig ddyddiau wyt ti?’

    ‘Ym... ia.’

    ‘Lle braf. Traeth lyfli. Mi fyddi di’n siŵr o fwynhau dy hun, yn enwedig ar y tywydd braf ’ma. O, ma’ raid i chdi fynd i’r Gegin Fawr am hufen iâ.’

    Chwifiodd y ddynes ei llaw yn frwdfrydig i ddal sylw’r gyrrwr pan welodd y bws yn nesáu, a brysiodd y ddwy tuag ato.

    Roedd hi wedi dweud celwydd wrth y ddynes, ystyriodd. Roedd yn wir bod ei nain wedi ymfudo o gyffiniau Aberdaron i’r Gaiman pan oedd tua deunaw oed, ond roedd Ana’n bwriadu aros yno am dipyn hirach na chydig ddyddiau. Ond gan nad oedd yn debygol o weld y ddynes byth eto, penderfynodd nad oedd y celwydd bach yn cyfrif.

    Wrth deithio ar y bws i Gaernarfon, meddyliodd am ei nain. Clywodd Ana hi’n dweud droeon nad oedd hi eisiau gadael ei chartref yn Aberdaron a symud i’r Gaiman, ond doedd ganddi hi ddim dewis. Bu’n rhaid iddi fynd.

    Dechreuodd helbulon ei nain pan gafodd ei thad strôc farwol un dydd Sul pan oedd yn gwneud ei hun yn barod i fynd i oedfa’r bore yn y capel. Yn ôl ei nain, ni fu ei mam hi erioed yr un fath ar ôl colli’i gŵr. Cydiodd y felan ynddi fel na allai barhau i ffermio’r tyddyn, a dirywiodd ei hiechyd chydig bach mwy bob dydd. Bu hithau farw o fewn chwe mis i’w gŵr, gan adael nain Ana yn amddifad yn ifanc iawn. Ceisiodd ddal deupen llinyn ynghyd drwy weithio’r tyddyn roedd y teulu’n ei rentu,

    Enjoying the preview?
    Page 1 of 1